Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EIN CYMDEITHASAU LLENYDDOL.

ADLAIS EIN CERDDORION AM WYL…

News
Cite
Share

ADLAIS EIN CERDDORION AM WYL BANGOR. Beth yw barn ein prif gerddorion am Eisteddfod Bangor ? Byddai'n ddyddorol cael casgliad o honynt yn ddiau, ond pe'u ceid, hwyrach mai fel areithiau Chamberlain fyddent yn llawn o anghysonderau a gwrth- ddywediadau. Myn rhai o'n cintorion fod ein prif gerddorion eu hunain wedi newid eu safon yn ddiweddar, ac os ydynt i newid gyda phob awel Seisnig, yna ofer fydd i ni byth ddisgwyl cael canu teilwng yn ein gwyl gen- edlaethol. ———— Yn y Cerddor am y mis hwn ceir rhai nod- ion gan Mr. David Jenkins ar yr wyl, ond buasai yn ddyddorol cael barn Mr. Emlyn Evans eto, oherwydd cymerodd ef ran flaen- Itaw iawn yng ngwahanol weithrediadau yr Esteddfod. Dyma ddywed Mr. Jenkins:— Siomedig fu y cystalleuon cerddorol i'r Cymry unwaith yn rhagor. Yr oedd y Corau Meibion wedi cadw ein anrhydedd yn Lerpwl a Merthyr, ond eleni dyma hwythau i lawr. Gobeithio ein bod wedi cyrhaedd y gwaelod bellach, ac nad oes ond codi i fod mwy yn ein hanes. Yr unig lygedyn gafwyd yn ystod wythnos dyweli oedd goruchafiaeth y Waen- fawr ar Blackpool. ———— Yr ydym wedi cyfeirio lawer gwaith at ardaloedd Waenfawr, Llanberis, Penygroes, a Bethesda fel lleoedd ddylent ymysgwyd o'u difaterwch ynglyn a chanu corawl, a gwned enw iddynt eu hnnain fel y gwnaethant ugain a deng mlynedd-ar-hugain yn ol. Llon- gyfarchiadau i'r Waenfawr ar eu llwyddiant. Ar ol cyfres o anffodion, ceir digon o gynghorwyr ar y dull a'r modd i wneyd ar gyfer y dyfodol, a llecha rhai arweinyddion dan y dybiaeth nad oedd y corau goreu yn cystadlu eleni, am nad oeddent hwy na'u corau yn yr ym^yrch. Credwn fod un o'r corau goreu feddwn yng Ngogledd Cymru i fewn yn y brif gystadleuaeth, a bod pedwar neu bump o'r Corau Meibion goreu sydd genym yn yr ymgyrch yr ail ddiwrnod. Er eu bod ar ol eleni nid oes eisieu iddynt ddigaloni, gan nad ystyriwn y darnau ddewis- wyd yn adran y corau meibion a digon o waith ynddynt i ddangos galluoedd y corau goreu. Cafwyd hyny yn Merthyr, a cheir hyny eto yn Llanelli; trueni fod y darnau mor afresymol o faith yn y lie olaf, ond y maent yn gyfansoddiadau rhagorol. i, Ynglyn a'r ^ystadieuaeth hon, credwn y dylasai y beirniaid roddi enwau y pump cor goreu yn ol safle eu teilyngdod, fel y gwnaeth- pwyd gyda'r tri goreu yn y brif gystadleu- aeth. Ni fuasai hyn yn ymyraeth a'r dyfarniad, a da genym fod y corau Cymreig wedi cym- eryd eu curo mewn ysbryd boneddigaidd, yn esiampl felly i gor Blackpool y diwrnod olaf. Er's blynyddau bellach, mae un darn gan Gymro yn cael ei ddewis yn y brif, yr ail, a'r drydedd gystadleuaeth; ond ni welodd pwyll- gor Bangor ddim na neb yn deilwng i'w osod yn y safle hono, ond gwaith rhai o honynt hwy eu hunain. Gwyddom hefyd oddiwrth un o aelodau mwyaf blaenllaw y pwyllgor cerddorol, nad oedd bwriad i berfformio un gwaith Cymreig yn un o'r cyngherddau. Diolch fod digon o dan gwladgarol yn yr aelodau ereill i fyny cymaint a hyny beth bynag o deyrnged i gerddoriaeth, a chlyw- som fod yr awdwr ieuanc wedi arwain ei waith yn rhagorol, a hyny heb golli ei dymher. "Saif Eisteddfod 1902 yn enwog am dri pheth,-ei Seisnigeiddiwch, amlder ei beirn- iaid lleol, a'i hanghof, neu ei diystyrwch o gyfansoddiadau Cymreig. Dywedodd un aelod o'r pwyllgor yn ddigon diniwed, Nad oedd gan y cerddorion Cymreig yr un darn gwerth i'w ganu.' Nid oedd y brawd hwn yn llawer o gerddor, ond yr oedd yn medru adsain yr hyn oedd wedi glywed oddiar wefusau rhai | o'r gwrth-Gymreigwyr oedd ar y pwyllgor. Nid rhyfedd i un o'r beirniaid Cymreig ddyweyd ynglyn a'r gystadleuaeth i gorau o un gynulleidfa, ei bod yn amheuthyn 1 weled cyfansoddiad Cymreig ar y rhaglen,'ac nicl rhyfedd chwaith i'r dorf gymeradwyo'r sylw. Mae yn werth cydmaru testynau cerddorol Merthyr a Llanelli a rhai Bangor ar y pen hwn. M3.e yn ormod o'r dydd i ymidibeuro ar ran cyfdnsoddiau Cymreig, oherwydd bob tro y maent yn cael cyd-redeg a darnau Seisnig neu Dramor, maent wedi dal y prawf, ac wedi derbyn teyrnged uchel o glod oddi- wrth ddynion fel Macfarren, Oiseley, Macken- sie, Barnby, a Randegger."

Advertising