Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EIN CYMDEITHASAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

EIN CYMDEITHASAU LLENYDDOL. Nid cynt y derfydd tymhor y gwyliau nag y del adeg ail-agor ein Cymdeithasau Llen- yddol, a beth fuasai bywyd Cymreig y ddinas yma i ganoedd o'n pobl ieuainc pe yn am- ddifad o'r sefydliadau rhagorol hyn ? Yn ystod yr haf cawn ymhyfrydu mewn gwib- deithiau ar hyd a lied Cymru, a chwmni hen gyfoediono'r wlad ar ymweliad a rhyfeddodau y Babilon fawr yma ond wedi byrhau o'r dydd, rhaid rhoddi heibio y pleserau allanol a chwllio am gonglau tawel i dreulio hirnos gauaf yn awyr fwll ein mangre neilltuedig, ac er's blynyddau, bellach, y mae'r genhedlaeth hon wedi flfurfio y Cymdeithasau hyn er cyfar- fod anghenion arbenig y bobl ieuainc a llanw gwagle mawr oedd yn y cylch Cymreig o'u bywyd. Pan feddyliom fod dros uga:n o'r rhai'n ar draws Llundain, a'u drysau yn agored unwaith bob wythnos, gallwn ddirnad y cyfleusderau arbenig sydd gan ein pobl i fwynhau eu hunain, a'r manteision rhagorol sydd o fewn eu cyrhaedd tuagat ddiwylliant a pherffeithio eu hunain mewn cerddoriaeth, lien, siarad ac astudio hanes a defion ein cenedl. Mewn gair, pab agwedd ar fywyd Cymreig, a phosibil- rwydd i bob rhan o'u cymeriad gael rhyw leshad yn ystod oriau unig a digysur y ddinas yma. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf hyn, y mae ein dynion ieuainc cyhoeddus bron yn ddieithriad wedi gwneyd defnydd mawr o honynt, a gellir nodi fel esiamplau eglur o'u haelodau gweithgar a ffyddlon y diweddar Tom Ellis, yr aelod tros Arfon (William Jones) a llu o feibion enwog sydd wedi dringo i safloedd parchus mewn gwahanol ganghenau o fasnach a galwedigaethau, a'u tystiolaeth amlwg heddyw yw eu bod oil dan ddyled drom i'r sefydliadau hyn am roddi iddynt y fath help ymarferol ar ddechreu eu gyrfa gyhoeddus. Yr un fath am ein cerddorion, ac y mae nifer y rhai'n yn lleng eisoes, fel y gellir yn hawdd weled fod gwerth arbenig ynglyn a hwy a'n cyngor yw ar i bob mab a merch ieuanc o'r wlad wneyd y defnydd llwyraf o'r cymdeithasau a manteisio ar bob adran a gynygir ynglyn a hwy. Ar ddechreu y tymhor, cyfarfodydd cym- deithasol yw'r rheol. Yn y rhai hyn ceir mantais i adnabod y newydd-ddyfodiaid, ac y mae y rheiny yn ugeiniau bob blwyddyn; ac uwchben cwpanaid o de, caiff yr hen aelodau hamdden i ymgomio am eu hym- weliadau a'r hen wlad a theithiau ereill yn ystod dyddiau hawddgarol yr haf. Yr wythnos ddiweddaf agorodd y prif gymdeithasau eu drysau, ac y mae'r rhagleni eisoes wedi eu cyhoeddi am y tymhor. Un o'r cyntaf i ddechreu eleni, fel y gweddai i un o'r rhai mwyaf hefyd, oedd cymdeithas lew- yrchus NEW JEWIN, yr hon, trwy ymgomwest a chyng- herdd, a ddechreuodd yn hapus iawn. Yr oedd llonaid neuadd y capel wedi dod yno yn gynar, a pharotowyd digonedd o ddanteithion iddynt, Yn y cyngherdd a gaed yn ddilynol, ilywyddid gan Mr. T. L. Davies- masnachydd parchus o Finchley-a chefnogid ef yn y gwaith gan y Parch. J. E. Davies, M.A., y gwein- idog. Caed amryw ganeuon swynol yn ystod yr hwyr gan Misses Nellie a Katie Lewis, Miss Morfydd Williams, Mri. Seth Hughes a Tim Evans. Yr oedd Mr. Hughes mewn llais da, ac yn oanu yr hen alawon Cymreig gyda dylanwad neillduol. Ar ddiwedd y cyfarfod caed anerchiad fer gan y llywydd, yr hwn a sylwai ei bod yn dechreu yn fwy addawol nag ar un adeg yn ystod ei 16 mlynedd ef fel llywydd. Nos Fawrth nesaf traddodir darlith o flaen ei haelodau gan y Parch. Silyn Roberts (bardd coronog y flwyddyn hon. Yr un noson, hefyd, caed agoriad ar Gymdithas SHIRLAND ROAD mewn dull tra thebyg, o wledd odea chwrdd croesawu y newydd-ddyfodiaid. Nid yn unig aelodau yr eglwys oedd ganddynt i'w croes- awu y tro hwn medd ein gohebydd lleol, ond hefyd perdoneg newydd hardd ag oedd newydd-ddyfod i'w plith, ac yn eiddo iddynt eu hunain, neu lawn cystal a hyny beth bynag, gan fod nifer o'r meibion a'r merched ieuainc wedi ymgymeryd a chasglu tuag ato, a gellir bod yn sier y bydd ei dannau yn o seinio nodau rhyddid cyn fawr o dro. Ond mwy na'r oil, cawsant y fraint o groesawu hefyd yn ol i'w plith eu parchus weinidog, yr hwn, fel y gwyr darllenwyr y CELT sydd wedi bod yn bur wael ei iechyd er's misoedd bellach, a llawenydd calon gan bawb oedd ei wel'd wedi dychwelyd wedi cael adferiad llwyr ni a obeithiwn i'w iechyd. Yr oedd y te a'r danteithion yn rhoddedig gan Mr. Ben Griffiths, Millwood Street-un o golofnau y gymdeithas, a'i hysgrifenydd am rai blynyddau-a da genym nad yw yn llaoio dim o'i afael. Gwasan- aethwyd wrth y byrddau gan Misses Hughes, Millwood Street, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Rowland, Miss Richards a Miss Jones ac wedi cael boneddigesau fel hyn bob pen i'r byrddau, a'r blodau amryliw, ynghyd a'r holl ddanteithion ar y bwrdd, pwy na fedrai fwynhau ei hun ? "Yr oedd y rhaglen wedi ei hymddiried i Mr. J. Davies, Harrrow Road a Mr. Clifford Evans, a chaf- wyd cynulliad rhagorol, pryd y gwaaanaethwyd gan y personau canlynol :-Caneuon, Misses Maggie Davies (Harrow Road), Watts (Saltram Crescent!, Phillips (Portobello Road), Mri. James Davies, H. S. Jones (A.p Caralaw), Lancelot Thomas. Adroddiad, T. W. Rees. Anerchiadau gan Mri. Anthony, H. Hughes a R. H. Davies. Cyfeiliwyd yn fadrus, fel arfer, gan Miss Winnie Edwards, a therfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.' CHARING CROSS. Nos Wener, Hydref 3ydd, caed cyngherdd agoriadol y lie hwa, a daeth cynulliad boddhaol i'r lie. Canwyd gan Miss Sarah Davies, Miss Nellie Lewis, Mri. Gwilym Richards, James Davies ao Alun Edwards. Cyfeiliwyd iddynt gan Mr. Merlin Morgan; ac ar ddiwedd y canu, caed mwyn- had ar ddanteithion. Mr. Tom Jenkins yw llywydd y Gymdeithas am y flwyddyn hon. Y TABERNACL, KING'S CROSS. Cwrdd Cymdeithasol gaed yma hefyd, a daeth cynulliad boddhaol yno i ddechrou y tymhor, o dan lywyddiaeth Mr Benjamin Rees. Caed amryw ganeuon ystod yr hwyr gan dalentau lleol. CASTLE STREET. Darlith gan Elfed ar "Ieuan Gwynedd" oedd i ddilyn y ewrdd te yng Nghapel Castle Street nos Sadwrn, a mawr y boddhad a gaf- odd y bobl wrth wrando arno. Yr oedd y ddarlith yn un wir amserol hefyd gan i'r darlithydd gymharu y brwydrau mawrion a wnaeth Ieuan" tros addysg i'r frwydr fawr a ymleddir heddyw. Caed ysbrydiaeth o'r newydd wrth wrando ar y prif-fardd wrth ei hoff bwnc yn adgofio am diewrioa Cymru Fu. CHELSEA. Nos Lun, Hydref 16eg, yr oedd Elfed eto yn brif arwr y nos, a darlith ar Williams o'r Wern" oedd y testyn y tro hwn. Cymdeithas addawol geir yma, o dan reolaeth y Parch. J. Machreth Rees, a chydag ychydig o gefnojjaeth gellid ei gwneyd yn un o'r rhai lluosocaf yn Llun- dain. FALMOUTH ROAD. NosFercherdiweddafcaednoson hwyliog yn y lie hwn i ddechreu ar y gwaith. Yr oedd rhaglen ddeniadol wedi ei pharotoi, ac yn yohwanegol at y danteithion a'r canu a'r adrodd, codwyd hwyl fawr drwy gael etholiad Seneddol ar y dechreu, a mawr fu'r helynt yn y lie. Dachreu da, a boed i'r brwdfrydedd barhau.

ADLAIS EIN CERDDORION AM WYL…

Advertising