Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y lj> j ^ "JI fian.

News
Cite
Share

Byd y lj> j "JI fian. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] GWYL GERDDOROL GYMREIG. Yn yr ysgrif ddiweddaf gadawyd rai geiriau allan mewn brawddeg, gan ei gwneyd yn ddi-synwyr. Darllena fel hyn Fel hyn cedwir y cantor- ion ochr yn ochr;" yr hyn fwriadwyd ei ysgrifenu ydoedd y cedwid y cantorion ochr yn ochr a gweithrediadau pwysig y byd jcerddorol I ADOLYGIAD. Derbyniwyd anthem newydd o waith Mr. Tom Price, Merthyr, sef" An- feidrol Dduw Rhagluniaeth." Cyhoeddedig gan yr awdwr, pris 2g, yn y Sol-ffa. Anthem cynhauaf ydyw, ac y mae yn ddiweddar iawn yn dod i law; ond da ei chael mewn print serch hyny, canys y mae yn gyfansoddiad cryf ac iachus-cwbl deilwng o Fendelssohn Cymru. Byddai yn dda gan ein calon weled corau ein dinas yn ceisio dysgu darn fel hwn 1 gystadleuaeth byddai yn brawf rhagorol ar leisiau ac fel mawl-gan, byddai yn bwrpasol unrhyw adeg ar y flwyddyn. Agorir y darn yng nghyweiriad D, ar y geiriau "Anfeidrol Dduw Rbagluniaeth"- gyda Bass sefydlog am bedwar mesur, yr hyn a rydd gadernid i'r frawddeg. Ar ol hyn trinir y geiriau Coronaist eto'r flwyddyn hon bob yn ail a'r geiriau dechreuol-fel pe nas^gallai'r cyfansoddwr golli golwg o'r An- feidrol Dduw bob tro y canai am goroniad y flwyddyn. Ar ol hyn-ar y geiriau Ti Arglwydd pob daioni," ceir cerddoriaeth yn y cywair lleddf-gyda bass sefydlog eto; fel y gwelir fod yng ngwaith y cerddor hwn unol- iaeth amcan. Yn niwedd y llinell: Fth lwyr addoli arosir ar gord seithfed y Llywydd, ail wrth-ddull, a hynod gymaint o ddefosiwn geir drwy hyny Ynghanol y darn ceir unawd i soprano neu denor, ac yma y tybiwn mae man gwanaf yr anthem. Teimlwn rywfodd fod teimlad y cyfansoddwr wedi ocri er pan y nodwyd y gerddoriaeth flaenorol. Drwy yr ymgais barhaus sydd yma i gadw i fyny efelychiadau, nis gwelwn fod y gan yn myned yn fwy gwresog. Ond daw'r gwres a'r fflam yn union deg yn y gydgan afaelgar ddilynol-yr hon a weithir allan yn gywrain ac a seilir, gan mwyaf, ar frawddeg a geir ar y geiriau" Na foed i'th drugareddau." Pan yn canmol yr anthem hon, nid ydym yn gwneyd hyny er boddio'r awdwr na'i ed- mygwyr, eithr o gydwybod; a hyderwn y cawn gyfle buan i glywed dadganiad teilwng o honi. CASTLE STREET. Buom yn cael lluniaeth i'r corph a'r meddwl yn Heol-y-Castell, nos Sadwrn diweddaf. Elfed oedd yno yn dar- lithio-darlith a llawer o feddwl; llawer o swn y gan ynddi. Rhagorol ydoedd y dad- ganiad o'r emyn-d6n ar y dechreu, ar y geir- iau Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes." Amlwg yw fod llafur Emlyn Davies yn dwyn ftrwyth yn y capel hwn I DECHREUAD Y CYMANFAOEDD CANU. Ceir ysgrif ar hyn gan Mr. Jenkins, yn y Cerddor. Dywed: "Ymddengys i Undeb Cerddorol gael ei sefydlu yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1830, gyda'r amcan arbenig o wella caniad- aeth y cysegr. Dyma'r hanes cyntaf ydym wedi ei gael hyd yn hyn o Gymanfa Ganu, a'r geiriau wedi eu hargraffu, ynghyd a'r dyddiadau Cymerai i mewn gantor- ion holl enwadau'r dref, a chyn- helid cyfarfodydd canu yr Undeb ar gylch yn y gwahanol gapelau bob dau fis. Prif arwein- wyr yr Undeb oedd Dafydd Phyllip, hen arweinydd y canu yng Nghapel y Methodist- iaid (y Tabernacl), a William Collins, arwein- ydd y canu yng Nghapel y Bedyddwyr felly, fe welir nas gall unrhyw enwad hawlio blaen- oriaeth ynglyn a'r Gymanfa Ganu, er fod dau o'r prif arweinyddion yr adeg hyny yn digwydd perthyn i ddau enwad gwahanol, ond yr oedd y cantorion yn dwyn cysylltiad a'r pedwar enwad; felly, mewn gwirionedd, yr oedd y Gymanfa Ganu ar ei chychwyniad yn anenwadol, ac nid yw y ffaith hono yn lleihau ei gwerth. Dilynwyd yr Undeb hwn gan Gymdeithas Gerddorol M6n, a cheir hanes y Gymanfa gyntaf a gynhaliodd y Gymdeithas yn Mod- edern (Tachwedd 3oain yn Seren Gomer. Yr oedd hon eto yn perthyn i'r gwahanol enwadau, ac o wahanol ranau o'r wlad. I Can- wyd amrywiol anthemau a thonau dyrus ac anhawdd, er boddlonrwydd cyffredinol' medd yr ysgrif enydd. Yn ol yr ysgrif dan sylw, wele restr o'r tonau a ganwyd yng Nghymanfa Ganu Bangor, ddydd Nadolig, 1839: Virginia Naples," "Eveningshade," "Monmouth," Penfro," Gwaredigaeth," Pen Calfaria," Ffynon Loyw," « Arabia," Adoram," a'r anthem" Par imi wybod dy ffyrdd." Mor bell ag y gwyddom, nid oes ond dwy o'r tonau hyn yn adnabyddus yn awr, sef "Pen Calfaria" ac Arabia;" ac y mae yr anthem, "Par imi wybod dy ffyrdd" yn brysur gilio i dir anghof. Y mae wedi cael oes hir, ac, yn ddiau, wedi bod yn gyfrwng bendith i lawer Cristion.

"PENCERDDES TEIFI"

Bwrdd y ' CeHm'

GWYL GERDDOROL GYMREIG.