Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU…

Bwrsid y g Ceit.'

News
Cite
Share

Bwrsid y g Ceit.' Pwy ddywedodd fod barddoniaeth wedi cilio 0 Gymru a'r beirdd yn marw o'r tir ? Y mae'r syniad yn gyfeiliornus hollol ar waethaf pob ystryw y Die Sion Dafyddion ac Eisteddfod Bangor. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd cwrdd chwarter" y CELT, a, syned y byd fe heidiai y beirdd iddo o bob cyfeiriad, a mawr fu'r hwyl yn ogystal a'r cynull- iad. Hwyl gyda'r canu, gyda'r moli a chyda'r beirn- iadu, fel y mae'r beirdd; ac wrth eu clywed, gallaseoh feddwl mai bardd oedd pob Cymro ac mai barddon. iaeth oedd pob darn a dorai dros eu gwefusau ffraeth a doniol. Nid oedd gwawdiaeth lem Elphin ar wyr y 'Stedd- fod ond yn cael canmoliaeth uchel ganddynt. Just y peth oedd eisieu ebe Bardd yr Offis. "A phan yn eu taro, wel, gadawer i ni eu tarO yn eu hiaith eu hunain." A dyna a wnaed. Un o'r rhai cyntaf i wneyd ei ymddangosiad yn y cwrdd oedd yr hen fardd Cwcwll, yn edrych yn lied glimpynaidd ar bwys ei ffon, ac er fod ei gorph yn llesg, eto, yr oedd yr awen yn ïr, a chanai yn lion am> fyn'd i rodio allan i lan y mor:— MIN Y DON. Buddugol yn Eisteddfod Corwen, Awst 189f5,. Awn i yfed pur awelon Hyfryd haf ar fin y don, Awn i rodio'r tywod esmwyth Sy'n croesawu ymyl hon Ac i wel'd rhuadwy ymchwydd Llanw'r mor sy'n dod ymlaen, Tonau gleision dirifedi Yn creisioni oil ar daen. Dawnsio mae y tonau'n hyfryd Dan belydrau haul a'i wres A thanbeidia mynwes eigion Fel berwedig ffwrnais bres. Yma daw awelon oeraidd A chwareuant gylch ein hael, Am adfywiad corph a meddwl Min y don yw'r man i'w gael. Min y don yw'r man anghofiwn Hen ofalon croes y byd, Wrth i'n edrych ar y giasfor Mawr yn siglo yn ei gryd. Llifo mae ei don aflonydd Gyda'r esmwyth awel rydd, Ac yn swn eu llawn beroriaeth Cawn freuddwydio drwy y dydd. Cwcwiii^ Go lew yr hen frawd ebe Alaw Bren, It a ds., genyf glywed fod arwyddion mor addawol am dy fudd-gyngherdd, a hyderaf yr aiff Cymry'r ddinas ync yn gryno." "Byddant yn siwr o fyn'd" ebe Bardd Cocia,, waeth, pobl ragorol yw'r Llundeinwyr yma am gefnogi y rhai sy'n haeddu cefnogaeth, ac y mae'r hen Gwcwll yn un o'r rheiny." Gan fod naws y gauaf ar y gwynt" ebe'r LlinoSj, gadawer i mi ganu penill tymhorol i'r Hydref," a chafodd ganiatad oherwydd mai can fer ydoedd. YR HYDREF. Daeth Hydref i wywo y dolydd teleidion A swynion y ddaear yn welw a drydd Mae'r goedwig oedd brydferth a'i dillad yn wyrddion Yn llawn o drallodion, &'i mynwes yn brudd Ni chlywir telynau perseiniol y cangau Yn chwareu canigau ysblenydd yr haf, Bu lleithder awelon yn llacio eu tannau Unawdwyr y deildai' yn ddistaw a gaf. Mae udgorn yr Hydref yn galw'r ystormydd A dawn hyf y mynydd a erys yn syn, Tra'r cenllysg yn disgyn o fro yr wybrenydd Llwyd lifa'r cornentydd yn nwyfus i'r glyn r Ysbeilia y flwyddyn o'i thlysni a'i thegwch Ac anian o'i harddwch ymgilia yn llwyr, Mae pobpeth yn trengu dan oerni a diiwch Ar wely tawelwch caddugawl yr hwyr. Willesden. LLINOS WYBE, Dier mi, ydi, mae'r Hydref wedi dod, a chyda'r dail mae ami i hen gyfaill yn syrthio. Dyna fe tynged ein hen ffrynd Ymdeithydd," a phan welais y newydd nis gallwn lai na gadael i'r awen ei rhyddiefc i ganu fel hyn :— ENGLYNION AR OL Y DIWEDDAB ROLANT DAVIES, YB ADBODDWBJ' Am Roland, mae mawr alaeth-yn y dref Pawb yn drist, gan hiraeth. Wedi myn'd, mae ein ffrynd ffraeth, O'r aelwyd drwy farwolaeth. Adroddwr oedd a dreiddiai-i galon Dirgelaidd feddyliau, Yno ei hun gwnai fwynhau Athrylith a rheolau. Goaoda 'i neges wed'yn—yn ei bryd Ger ein bron yn ddillyn. Ond 'i yrfa ddaeth i derfyn, A'i enwog lais sy'n y glyn. Boro, Medi 29, 1902. R. WOOD. Yr oedd Trebor Aled ac ereill yn y cwrdd hefyd, ond,. nid oes amser y tro hwn i groniclo haner eu troioBv a'u can. Ar derfyn yr oedfa fawr caed cynhadledd busnes, a dymunai y Gol. alw sylw y frawdoliaeth at y ffaith fod pen chwarter wedi dod, ac nad gwaith pleserus oedd gyru biliau allan am hen gyfrifon. Os oes rhai heb wastadhau eu cyfrifon a ni yn ddiweddar boed iddynt gofio mai diwedd y gan yw'r geiniog." Cymerer yr awgrym. E. Morris. Ni welsom y nodiad, ond oaiff eicfe archeb sylw o hyn allan. J. Davies. Ni ddaeth i law mewn pryd erbyn yr wythnos ddiweddaf. Cofiwch nas gallwn sicrhau lie ar ol boreu dydd lau. E. Evans. Peidiwch a grwgnach byth a hefyd, a hyny am ddim byd. Os ewch i wrando pob hen chwedl, byddwch lawn mor ffol a hwythau. Y Llints. Ydi, mae'r oil mewn llaw. Yn eu tro;, fachan.