Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU…

News
Cite
Share

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU EU HIAITH. GAN EVAN LEWIS, Los ANGELES, CALIF. Cyduna addysgwyr yn gyffredin ei bod yn ddyledswydd ar bob cenedl ddysgu ei hiaith ei hun yn gyntaf, fel yr iaith fwyaf naturiol a chynenid. Dylai pob gwlad gael yr ystyr- iaeth flaenaf yn genedlaethol, mewn ysgolion a cholegau, ac hefyd yn gymdeithasol a theuluaidd, oherwydd llawer o resymau. Dylai pob dyn ddysgu iaith ei fam yn gyntaf, a'i meistroli yn drwyadl; bydd hono ganddo wedyn fel egwyddor sylfaenol i allu meistroli ieithoedd ereill oddiwrthi. Nis gall neb fod yn ieithwr medrus heb iddo yn gyntaf ddysgu rhyw iaith yn lied berffaith, a dywed rheswm y dylai pob dyn ddysgu yr iaith fwyaf naturiol iddo yn flaenaf, a hono ydyw iaith ei fam, ac fel rheol iaith ei wlad. Y gwyn a ddygir ymlaen yn gyffredin yn erbyn yr iaith Gymraeg, ydyw ei bod yn afrwydd i'w dysgu a'i siarad, oherwydd ei llythyrenau dyblyg a'i hanystwythder. Os ydyw hyny i raddau yn wir am yr iaith Gym- raeg, nid ydym yn cael fod yr anhawsder yr un gronyn yn llai yn yr iaith Saesneg, ac odid mewn un iaith arall. Gan nad ydyw iaith ond cyfrwng i drosglwyddo meddyliau y naill i'r 1lall a'u gwneyd yn ddealladwy, fe ellir gwneyd hyny lawn gan hawdded yn yr iaith Gymraeg ag yn yr iaith Saesneg, a gwisgo meddyliau lawn mor brydferth a blodeuog ynddi, a'u gwneyd yn fwy grymus ac effeithiol nag mewn un iaith sydd mewn arferiad. Y mae llawer ymosodiad wedi cael ei wneyd ar ein hiaith 0 dro i dro, eithr nid ydynt wedi milwrio ond ychydig yn ei herbyn. Y mae wedi dal ei thir yn nodedig hyd yn ddiweddar ag ystyried yr anhawsderau sydd wedi cael eu taflu ar ei thraws. Bron na chredaf weith- iau fod gan Ragluniaeth law mewn cadw yr iaith hon yn fyw. Arferai ysgrifenwyr ac areithwyr cyhoeddus Cymru amddiffyn yr iaith Gymraeg rhag ymosodiadau ystrywgar a dichellddrwg y Saeson, ond yr wyf wedi craffu er's tro bellach mai nid oddiallan yr anelir y saethau mwyaf gwenwynig at ein hiaith, eithr oddifewn y deuant, gan ambell i lepyn penwan o Gymro, sydd o bosibl wedi cael mwy o fan- teision addysg na'r cyffredin o bobl ei wlad, ac wedi cael ei ddyrchafu i fywoliaeth go dda yn ei wlad ei hun, neu ymysg y Saeson yn rhai o drefydd Llcegr, am ei fod yn hyddysg yn yr iaith Saesneg. Mai yn wir mai pur anaml y ceir Cymry yn y dyddiau hyn yn dadleu yn erbyn eu hiaith, ac eithriad ydyw cael neb o honynt yn gwadu a diarddel eu cenedl, ond i'r gwrthwyneb ymffrostiant eu bed yr hyn ydynt, a thrwy y cenedlgarwch hwn a rhinweddau da ereill, y mae y Cymry yn ymddyrchafu yn raddol i safle uwch yng ngolwg y byd. Cydnabyddir eu bod yn cael eu rhestru yn flaenaf ymhob gwlad fel dinasyddion da a heddychol, ac nid ydynt yn ol i unrhyw genedl, mewn gwareiddiad, crefydd a moesoldeb. Y mae ffyliaid ein cenedl wedi marw, a diolch i Dduw am eu symud. Un o brif feiau nifer mawr o'n cydgenedl yn bresenol, ydyw es- geuluso arfer eu hiaith a'i dysgu i'w plant. Dylai Cymry ddysgu a choleddu eu hiaith am nad oes yr un iaith arall a wna gydweddu a'u nodweddiad, fel y Gymraeg. Y mae argraff nwydau cynenid pobl ar eu hiaith; cenedl hyf, wrol, a gwresog, ydyw y Cymry, ac y mae eu hiaith yn rymus, bywiog a than- llyd. Nid oes yr un iaith arall all fynegu ei theimladau mor gywir a'r Gymraeg. Os gadawa y Cymry i'w hiaith farw, derfydd eu gwahaniaeth cenedlaethol am byth, ac fe'u ilyncir i fyny gan y genedl Seisnig, ac nis gall dim yn fwy dinystriol na hyny ddych- welyd i'w rhan. Nid hyny yn unig, byddai newid yr iaith Gymraeg am yr iaith Saesneg, yn hynod niweidiol i achos crefydd. Yr ydym yn cael prawf o hyn eisoes yn y lleoedd hyny lie y mae y Gymraeg wedi cael ei gosod o'r neilldu. Nid yw yr efengyl yn cael yr un argraff ar feddyliau y Cymry yn yr iaith Saesneg ac y mae yn gael yn yr iaith Gym- raeg. Ac yn wir. gallasem sylwi, nad yw yr efengyl wedi cael cymaint o ddylanwad mewn un iaith ag y mae wedi gael yn ein hiaith ni, ac ni chafodd gogoniant a rhagorolrwydd trefn gras eu datguddio gyda'r fath eglurder, nerth a dylanwad mewn unrhyw iaith, fel y maent wedi cael yn yr iaith Gymraeg er dyddiau yr apostolion hyd yn awr. Y mae yn sicr fod ein hiaith yn gysegredig iawn yn y nefoedd. Ac ni ryfeddwn ddim nad ydyw yn ysgrifenedig mewn llythyrenau breision eur- aidd ar barwydydd y ddinas hardd. Gresyn na bae y Cymry yn ei gwerthfawrogi yn fwy nag y maent. Wrth ddadleu drcs ddysgu ac arfer Cym- raeg, nid wyf yn golygu na ddylai y Cymry ddysgu yr iaith Saesneg; i'r gwrthwyneb, dylai pob Cymro ymdrechu dysgu a meistroli yr iaith Saesneg yn dda, am mai hi ydyw prif iaith masnach y byd. a iaith ddeallir gan nifer mawr bron yn holl wledydd y byd. Ond ei dysgu bydd yn gyfarwydd i'w pherchenog mewn unrhyw wlad, ac yn ei alluogi i gym- deithasu a rhywrai b'le bynag yr elo. Hefyd, dylid dysgu yr iaith Saesneg am ei bod yn gyfrwng gwybodaeth helaethach nag un iaith arall. Fe geir prif gynyrch meddyliol aw- duron goreu y byd ynddi am fod goreuon llenyddiaeth pob cenedl yn cael eu cyfieithu iddi. Felly, mae dysgu'r iaith Saesneg ynagor- iad i mewn i gelloedd trysorau newyddion yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth, ac yn gymhwysder i allu cystadlu ag unrhyw genedl, ac i lenwi y swyddau uwchaf mewn gwiadwr- iaeth. Ond yn flaenaf oil y mae yn ddy- ledswydd ar y Cymry i ddysgu eu hiaith eu hunain i ddechreu ym mha wlad bynag y byddont. Y mae rheswm yn ein dysgu y dylai pawb ofalu am yr eiddynt eu hunain yn gyntat, ond yn wahanol i hyn y mae gyda Hawer o Gymry mewn perthynas i'w hiaith. Ychydig iawn mewn cymhariaeth fedr ddar- llen ac ysgrifenu Cymraeg yn agos yn gywir, o ran iaith, trefn a sillebiaeth (ac nid yw yr awdwr yn eithrio ei hun) ond y camwedd mwyaf ydyw fod nifer fawr o'n cydgenedl yn esgeuluso dysgu Saesneg. Nid dwy oruch- wyliaeth ydyw dwy iaith nid raid ymwrthod a'r naill mewn trefn i feddianu y llall; ac nis gall fod anhawsder i neb ddysgu dysgu dwy iaith, a hyny yn Bed berffaith, pe amgen sut y mae rhai yn gallu meistroli dwsin neu fwy o honynt! Ac y mae bod yn fedrus mewn amlinelliad yn oleuni a nerth i farn a rheswm, yn gryfhad i'r meddwl ac yn wybodaeth werth- fawr i'r neb sydd yn ei gallu. Fe ddylid cydnabod fod Cymry dwy-ieithog wedi cyr- haedd graddau uwch mewn ysgolheigdod, na'r Cymry sydd wedi esgeuluso eu hiaith gan fabwysiadu Saesneg. Sylwir eu bod yn fedd- ylwyr cryfach, yn fwy defnyddiol, ac yn dringo yn uwch mewn anrhydedd. Ystyriai yr Iuddewon gynt addysg bachgen yn dra amherffaith os na fyddai yn medru rhyw gelfyddyd. Pe y gellid cael rhieni Cymreig i ystyried nad yw addysg eu plant yn gyflawn heb iddynt ddysgu a meistroli eu hiaith a gwasgu y pwysigrwydd am y cym- hwysder hwn ar eu meddyliai, ni fyddai raid i ni betruso am ddyfodol ein hiaith wedyn. (I'w barhau.)

Bwrsid y g Ceit.'