Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

CAU Y DRWS YM METHESDA.

CEISIO DIWYGIO YR ANNIW-YGIADWY.

MR. HUMPHREYS-OWEN A'R MESUR…

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. Mae Cynghor Eglwysi Rhyddion. Pwllheli, fe ddywedir, wedi gwneyd penderfyniad i gymeryd pleidlais ar y Mesur Addysg. Mae y Parchn. Charles Davies, Caerdydd, ac Evan T. Jones, Llanelli, wedi eu penodi i draddodi pregethau Cymreig mewn cy- sylltiad a Chymanfa Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon i gael ei chynal y mis hwn yn Birmingham. Mae Mr. Michael Davitt, mewn llythyr at ohebydd, yn desgrifio y Mesur Addysg fel offeryn a drwsgl gynlluniwyd i dori dan a din- ystrio gwir reolaeth y bobl dros addysg fydol, a gobeithia y bydd iddo gael ei orchfygu. Deallwn fod Cofiadur yr Orsedd, Eifionydd, wedi dychwelyd yn ol o'i ymweliad a Montreal, Canada, lie yr aeth am adferiad iechyd. Waeth gan ynadon y dyddiau hyn yn y byd pwy i'w dirwyo os y gyrant gar modur yn rhy gyflym. Gwyr pawb am y dirwyon ar yried- ydd Ardalydd Mon, a'r dydd o'r blaen dir- wywyd gyriedydd y Prif Weinidog i 6p am yru cerbyd ei feistr yn ol 25 milldir yr awr. Y Parch. J. Owen, gweinidog gyda'r Ani- bynwyr yn Bethesda a Llandysilio, Penfro, ac olynydd i'r Parch. D. Stanley Jones, Caernar- fon, a enillodd ar y bryddest i Dewi Sant yn Eisteddfod Clynderwen. Brodor o Lanelli ydyw Mr. Owen, a dechreuodd ei yrfa, fel y Parch. J. Ossian Davies, yn argraffydd. Yr oedd yr athraw Hybarch M. D. Jones a. Dr. Pan Jones yn perthyn i'r un adran o fyddin Indipendia; a phan hysbyswyd fod y blaenaf ar fedr cyhoeddi llyfr ar Wenyn, gofynai hen grafwr fyddai dim gwell hefyd i Dr. Pan wneyd llyfr ar Gacwn, wrth ba rai y golygid debyg pobl y Cyfansoddiad Newydd. Daw cor o Rymney ynghyd ag ereill i gystadleuaeth Eisteddfod Queen's Hall yn Chwefror nesaf. Faint o gorau Seisnig a ddel, ni wyddis eto. Aeth Archesgob Caergaint am dro i ddyff- ryn Teifi yr wythnos hon, gan ymweled a choleg enwog Llanbedr. Y coleg hwn yw magwrfa offeiriaid y wlad. Mae Chamberlain yn dechreu ofni. Yr wythnos hon galwodd am gynhadledd o'i gefnogwyr ym Mirmingham, er ceisio eu hudo i'r un farn ag ef ei hun ar y Mesur. Y ffaith amlwg yw, y try Chamberlain gyda llais y wlad er mwyn cadw ei safle; ac os bydd pobl Birmingham yn gadarn cawn weled cryn gyfnewidiad yn y Bil erbyn dechreu y Sen- edd-dymhor. Y corau Seisnig eto'n cario I dyna yw'r newydd o New Brighton, ger Lerpwl. Mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yno ddydd Sadwrn diweddaf aeth cor Manchester a'r brif gamp, a chor St. Helens a'r darn i'r corau meibion! Cor Manchester enillodd pwy ddydd ym Mangor, felly, rhaid rhoddi y goreu iddynt bellach. Ym Mhorthdinorwig foreu Sul diweddaf, torodd tan allan yn un o anedd-dai y lie. Yn y ty trigai hen ferch o'r enw Lucy Hickson a phan welodd y cymydogion fod y lie ar dan, aethant i geisio ei chael allan o'i hystafeU. Aeth cymydog o'r enw Mrs. Evans i fewn trwy y ffenestr, ac wrth lusgo allan gorff y truanes, gorchfygwyd hithau gan y mwg, a. chollodd y ddwy eu bywyd.