Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

CAU Y DRWS YM METHESDA.

News
Cite
Share

CAU Y DRWS YM METHESDA. Yr oedd miloedd o Gymry yn gobeithio ychydig ddyddiau yn ol fod helynt y Penrhyn ar ddarfod. Anfonodd y bobl oedd allan ar streic at ei arglwyddiaeth ei hun, i ofyn iddo am roddi gwrandawiad i'w cwynion, a thybid gan rai y buasai dyngarwch yn galw ar y teyrn o gastell Penrhyn i roddi clust o wran- dawiad i'r rhai oedd yn haner newynu o'r tu allan; ond siomwyd pawb yn aruthr. Cyd- syniodd i'w derbyn ar delerau, ond yr oedd y telerau hyny mor anheg fel y bu raid i'r chwarelwyr eto roddi eu hachos ger ei fron. Hawliai Penrhyn nad oeddent i ofyn o gwbl am bwyllgor yn y chwarel: hyny yw, nad oeddent byth i ffurfio un math o Undeb yn y lie i ymdrin a'u cwynion a'u hawliau cyfreith- iol. Amcan hynyna, wrth gwrs, oedd lladd pob rhithyn o'r ysbryd undebol yn eu mysg er gwneyd y bobl yn unigolion diamddiffyn fel ag y gallesid eu troi a'u trin fel y mynid dan bawenau swyddogion y chwarel. Gofynai y bobl am ganiatad i setlo materion eu hunain yn eu ffordd eu hunain, a chaniataent iddo yntau i wneyd yr un fath a'i eiddo ei hunan. Ond nid yw Arglwydd Penrhyn wedi dysgu yr egwyddor hono. Nid yw yn foddlawn cania- tau i ereill yr hyn a hawlia efe ei hun. Rhaid iddo ef ddangos ei fod gryn raddau yn uwch a gwell na phawb ereill; ac, a gwr felly, ofer yw disgwyl y ceir dim trwy deg na thrwy ym- resymu ag ef. Mae'r dynion bellach ar dru- garedd y werin, a gobeithio y cynhelir hwy am gryn ysbaid eto er eu galluogi i gario allan eu brwydr fawr a'r gwr creulawn hwn. Hwyrach y daw y bobl bellach i weled rhes- ymoldeb cyngor John Burns, yr hwn a ddy- wedai mai nid trwy ganu emynau a siarad yn oedd y ffordd i enill iawnderau. Rhaid ymladd eto fel yn y dyddiau gynt, a goreu po gyntaf y deallo pobl Bethesda hyny.

CEISIO DIWYGIO YR ANNIW-YGIADWY.

MR. HUMPHREYS-OWEN A'R MESUR…

HYN A'R LLALL.