Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Bud u Ban. u
Bud u Ban. u Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] GWYL GERDDOROL GYMREIG. Yr ydym yn bresenol ynghanol tymhor y gwyliau cerdd- orol; ac yn eu plith ceir gwyl Caerdydd. Fel y dywedasom laweroedd o weithiau, credwn yn gryf yn y gwyliau hyn y maent yn gwneyd lies dirfawr i genedl y Saeson. Drwyddynt caiff y bobl fantais i glywed y prif weithiau, hefyd rai newyddion. Hefyd, y mae corau y gwahanol gylchoedd yn myned drwy yr ym- arferiad mwyaf llesol, drwy ymgodymu a gweithiau cyflawn. Fel hyn cedwir y can- torion ochr yn ochr; ac y mae'r un fantais yn syrthio i ran y gwrandawyr. Oni fyddai yn bosibl sefydlu GWYL GERDD- OROL GYMREIG LuNDEiNic ? Y mae y defnydd- iau vrna; ac y mae'r cyfleusderau yn ffafriol iawn-lIawer mwy felly nag ydynt i leoedd gwledig. Yn enwedig, hawdd fyddai cael yma y chwareuwyr cerddorfaol goreu o fewn y deyrnas. Byddai yn hawdd iddynt gyd- gyfarfod. Y mae nifer ein hunawdwyr proff- esedig hefyd yn fawr, Nid anhawdd ychwaith ddylai y gwaith fod o ddewis cor o 300 i 400 o Gymry; a diau y gellid trefnu lie iddynt ymarfer am swm bychan. 0 berthynas i arweinydd, os etyb rhywun nad oes genym Gymro yn Llundain a allai arwain cerddorfa a chor, na fydded i ni ddi- galoni: gellid dod o hyd i un yn rhywle arall. Y peth mawr ydyw codi chwaeth ein cantorion Cymreig ac ereill nad ydynt yn gallu canu, ond ydynt yn bur hoff- o glywed canu. Y mae y gwyliau cerddorol yn gwneyd hyn i'n cymydogion-heblaw eu bod yn fodd- ion i ddwyn elw sylweddol i ysbytai a sef- ydliadau teilwng ereill. Os dywed rhywun fod genym ein cyman- faoedd canu yn Llundain, atebwn yn wylaidd nad oes genym lawer o ffydd ynddynt-nid cymaint ag yn y blynyddoedd a fu. Y mae'r dechreuwr canu yn awr yn gerddor lied abl; ac, fel rheol, gwyr lIe mae cuddiad cryfder emyn. Gwyr yn eithaf da pa fath o don a etyb i eiriau penodol. Gellid felly yn rhwydd a diogel adael iddo ofalu am donau y cysegr, yn enwedig gan fod wrth ei law gasgliad o donau diweddar mor fawr ac amrywiol. Onid yw felly yn bryd i ni godi at bethau uwch yn y byd cerddorol ? Os rhaid cadw'r holl eisteddfodau ar fyn'd yma, oni ellid trefnu i gynhal gwyl gerdd- orol Gyrnreig bob yn ail blwyddyn? Neu, goreu oil pe cyfyngid yr eisteddfodau i'r capelau unigol, oddigerth UN eisteddfod fawr i'r oil, a hono i'w chynhal bob yn ail a'r wyl gerddorol. Yn y ffordd hon gallai y man eisteddfodau fod yn foddion dadblygiad i'r talentau lleol, a byddai yr eisteddfod fawr yn lie manteisiol i oreuon y talentau lleol ym- ddisgleirio. Yn yr wyl gerddorol gellid defnyddio talentau ein meibion a'n merched i gyflwjno i sylw weithiau Cymreig a Seisnig teilwng— rhai hen a diweddar; hefyd, gellid ynddi gyflwyno i sylw gynyrchion cerddor- faol, am ba rai y mae arnaf ofn nad oes gan nifer fawr o'n Heisteddfodwyr Llundeinig yn bresenol y ddirnadaeth leiaf. Yr ydym, dro yn ol, wedi apelio at ein darllenwyr i draethu eu barn ar faterion cerddorol, ond yn ofer. A ydyw yn bosibl eu deffro i ymdrin a mater yr ysgrif hon Beth yw eu barn arno ? A fyddant hwy yn fodd- lawn i gyfarfod a ni i fyned ymhellach i'r manylion ac i ffurfio pwyllgor i geisio cario allan y cynllun ? Y mae'r golofn hon yn rhydd iddynt ddyweyd eu barn, a gobeithio y gwnant hyny yn ddioed. Yr ydym yn dis- gwyl wrthynt. Carem gael gair oddiwrth pob dechreuwr canu ac organydd ac ereill.
[No title]
Dydd Llun diweddaf, bu farw'r boneddwr T. R. Hughes, Neuadd-fawr, Ceredigion, yn sydyn mewn gwesty yn Llanbedr. Yr oedd yn wr adnabyddus yng Ngheredigion gan mai efe oedd perchen haid o gwn cadno yn y sir. Hanai o hen deulu Rhyddfrydol, ond ychydig o flas oedd ganddo ef at wleidydd- iaeth, ac yn He bod yn arweinydd goleuedig i'w gyd-ddynion, gwell oedd ganddo arwain haid o gwn er difyrwch a baldordd. Nid oedd ond 49 mlwydd oed. Bu Sol-ffawyr Gogledd Cymru yn cynhal eu cymanfa flynyddol ym Mhorthmadog yr wythnos ddiweddaf, a daeth nifer o wyr en- wog y lie i siarad ar wahanol bynciau ynglyn a'r gan. Wrth son am fuddugoliaeth y corau Seisnig, dywedai un gwr mai diffyg ymarfer- iad ar ran y Cymry oedd y rheswm eu bod ar ol gyda'rgamp. Ar ol gwrando y canu corawl a gaed, dywedai Mr. Curwen nad oedd y sail leiaf tros i Gymru beidio parhau i gadw ei llawryf. Feallai ein bod yn canu yn well mewn cymanfaoedd nac mewn ydym eis- teddfodau Bu Mr. John Kensit-y gwrth-ddefodwr enwog-yn anerch cyfarfod ym Mhenbedw ddydd Iau cyn y diweddaf. Tra yn myned o gerbyd i Woodside Ferry, tarawyd ef gyda darn o haiarn yn ei wyneb. Pan bigwyd ef i fyny, yr oedd twll mawr uwchben ei lygad chwith. Cludwyd Mr. Kensit i'r ysbytty rhag blaen. Mae gwr yn y ddalfa am y trosedd. Mae y Parch. Robert Parry, B.A., Llanrug (gynt o Stratford) wedi hwylio am yr Amer- ica, He y bwriada lenwi pwlpud Utica am dri mis. Mab yw Mr. Parry i'r diweddar Barch. Ddr. Griffith Parry, Carno. Gwnaeth ymgais y gauaf diweddaf yn maes y ddrama Gymreig gyda Hirnos a Gwawr," a bu yn dra llwydd- ianus. Yr oedd ol llaw gelfydd ami, a gob- eithiwn nad hi fydd yr olaf o'i law. Dychwelodd y Fonesig Eluned Morgan o Batagonia i'r wlad hon yn ddiweddar gyda'r bwriad o ymsefydlu yma. Bvdd yn falch gan ei chyfeillion ddeall ei bod wedi ei phen- odi yn athrawes mewg Hispaenaeg yng Ngholeg Caerdydd. Dyma'r englyn i'r Breuddwydiwr," ga'dd ei feirniadu yn oreu allan o ddeuddeg a thri- ugain a anfonwyd i mewn i'r Eisteddfod ym Mangor:— Eiddilaidd gwsg feddyliwr-un a wnel Mewn hun, a deffrowr, Rhwng canddryll gestyll ar gwr Broydd hud, yw'r Breuddwydiwr. Beth am yr un ar ddeg a thriugain, bobl anwyl ?
Y Dyfodol.
Y Dyfodol. [!&if" Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ——— Hydref „ 2. Capel Jewin, Cyfarfod Agoriadol y Gym- deithas Lenyddol. „ 4. Castle Street. Darlith gan Elfed. „ 8. Falmouth Road. Cyfarfod Agoriadol y Gymdeithas Lenyddol. „ 9. City Road, Swper Goffi cyntaf y tymhor am 7. „ 29. Cyngherdd Blynyddol Clapham Junction. „ 30. Shirland Road. Grand Concert and Tea. „ 30. Wilton Square. Cyfarfod Ordeinio'r Parch. G. Havard, B.D. Taohwedd „ 3. Installation Festival of the London Welsh Lodge of Freemasons. No. 2867. „ 6. Cyngherdd yn y Queen's Hall, People's Palace, Mile End Road. „ 9-10. Gothic Hall. Cyfarfod Pregethu Blynyddol. „ 11. Cyngherdd Blynyddol St. Benet. „ ]3. New Jewin. Cyfarfod Cystadleuol. „ 18,19, a'r 20. Cyfarfodydd Blynyddol Mile End Road. „ 20. Gothic Hall. Darlith gan Mrs. John. Evans (Eglwysbach). „ 21. Cyngherdd Gwcwll, yn yr Holborn Town Hall. „ 27. Queen's Hall, Cyngherdd Dewi Sant. Rhagfyr „ 4. Cyngherdd Barrett's Grove yn Shoreditclt Town Hall. „ 25 (Nos Nadolig). "CartrefoddiCartrefys- Jewin. 1903 Chwef. „ 18. Eisteddfod Queen's Hall. Mawrth „ 11. Falmouth Road. Eisteddfod y Plant. „ 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynol y Gymdeithas Ebrill „ 23. Oymanfa y Methodistiad yn Jewin. Newydd.
'PREPAID WANTS.
'PREPAID WANTS. K Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. 12 words; Once 6d. Three times 1/- 20" ,,9d. „ „ 1/3 28" 1/- „ „ 116 36 „ 1/3 „ „ 1/9 44" 1/6 i, jt 2/- Every additional 8 words 3d.
Advertising
GENERAL, amidst factories, near dwellings, crowded neighbourhood, splendid opportunity, now neglected; a bargain, 235 or near oSer.— 47, Bath Street, City Road. MILK.-Respectable Lad, experienced, reliable* iYL good character, abstainer, live in or out.— Roberts, 17, Bute Street, South Kensington. YOUNG Lady requires a situation as assistant in a; Y Dairy; 3 years' experience, with good reference. —Apply 89, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road. HOUSEMAID wanted, business house (drapers), H two others kept, good wages, reference required. —Apply, Housekeeper," David Thomas, Falcon. Road, Clapham Junction. YOUNG Lady (Welsh) seeks situation in a Dairy or Y Provision Shop, used to quick counter trade, good reference.-Apply L., Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. BEDROOM to Let for a Gentleman, with use of B sitting room. Full or partial board, Welsh, preferred.-Apply, 40, Yerbury Road, Tufuel Park, Holloway. COMFORTABLE Home offered Lady in return. C for small sum weekly and assistance in light duties.—J., 3, Rosslyn Crescent, Wealdstone, Harrow. DAIRy.-Wanted respectable Young Woman as General and assist in Shop.-Apply N.B., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. A CCOUNTS.—TO DRAPERS, &c.-Professional A Accountant is prepared to write up and audit books, prepare Balance Sheets and Profit and Loss Accounts. Terms moderate.-Apply Audit," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. EGGS! WELSH EGGS! Finest quality, delivered fresh from best Firm in Wales. Gwledd Gymreig Oddicartref.Apply, "Ceredigion," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. LESSONS IN WELSH by an experienced Teacher. L Pupils visited at their own homes or received in Teacher's residence. Evening lessons at moderate charges, and a. thorough course of the language given on the most approved modern method.-Write to Athraw," Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. MILK, N.E.—12 barns daily at 4d. less, 1 at 3d, on one round; marble fitted, £ 10 shop (increasing)» nice shop and house at easy rent, part let, sids entrance; open to an offer.-Address. Box, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.O.