Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

MRS. POPHAM, A LLENYDDIAETH…

News
Cite
Share

MRS. POPHAM, A LLENYDDIAETH GYMREIG. Er nad yw y foneddiges dalentog a dysg- edig-Mrs. Popham-yn Gymraes o genedl nac yn byw yng Nghymru ond ar brydiau megys, y mae yn parhau i gymeryd dyddor- deb neillduol yn ein hiaith a'n llenyddiaeth, fel yr eglurais rywbryd yn flaenorol yng ngholofnau Cymreig y CELT. Derbyniais lythyr oddiwrthi yr wythnos o'r blaen, ac amlwg oddiwrth y llythyr ei bod nid yn unig yn effro i'n symudiadau fel Cymry ond yn parhau i weithio ynglyn a chyfieith- iadau o'r Gymraeg i'r Saesneg, fel arfer. Y mae Mrs. Popham yn un o'r personau an- wylaf y cefais erioed y fraint o'u hadnabod. Ceir ynddi gydgyfarfyddiad dymunol o hyn- awsedd, boneddigeiddrwydd, dawn a dysg. Rhoddaf yma ei llythyr fel y gallo'r darllen- ydd weled fel yr ysgrifena hi yn yr hen iaith -yr hon iaith yr esgeulusir cymaint arni gan ei phlant ei hun (y Cymry). Yr wyf hefyd yn rhoddi y gân y cyfeiria y foneddiges lengar ati, ynghyda'i chyfieithiad hi o'r cyfryw, fel y gallo y darllenydd weled a mwynhau yr ychydig a wneir mewn ambell gyfeiriad fel hyn i ddwyn ein hiaith a'n llenyddiaeth i sylw cenedloedd ereill. A maddeuer i minau os llawenychaf ychydig fod ambell ddarn o'm heiddo yn myned drosodd yn ei bwysau at wasanaeth ein cymydogion Seisnig. South Cliff Hotel, Southbourne-on-Sea, Christchurch, Hants. Medi 19 eg, 1902. "Anwyl Trebor Aled,-Gwelais yn ddi- weddar yn y CELT (LLUNDAIN) eich pryddest fechan dlos Gyda'r Wawr,' ac yr ydwyf yn anfon atoch gyfieithiad o honi, gan obeithio y bydd yn gymeradwy genych. Buaswn yn ei anfon o'r blaen, ond yr ydwyf wedi bod yn brysur iawn. Yr oedd yn dda iawn genyf weied fod yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr, ond yr oedd yn ddrwg genyf fod y corau Cymreig yn cael eu gorchfygu etc. Y mae yn rhaid iddynt, I look to their laurels,' chwedl y Saeson, a gweithio yn galetach am y tro nesaf. Mae arnaf eisieu gweled yr hen wlad' yn parhau yn uchaf yn y gelf sydd yn neillduol iddi hi ei hunan. Ni anfonais ddim i'r Eisteddfod eleni, o ran yr oeddwn yn y gwledydd pell yn y gwan- wyn, ac wedi hyny yr oeddwn yn brysur gyda fy ysgrifeniadaa Saesneg. A oeddych chwi yn llwyddianus gyda rhywbeth yn yr Eisteddfod ? Gyda chofion caredig yr ydwyf Yr eiddoch yn gywir, JEANNIE S. POPHAM." Dyna i chwi, gydwladwyr, lythyr Cymraeg gan foneddiges fwyn 0 genedl arall, ac nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan ddech- reuodd ddysgu ein hiaith ac wele yn canlyn un o'i hyirdrechion prydferth yn cyfieithu, ac un o'r rhai diweddaf o'i heiddo o'r Gymraeg, sef y gan y cyfeiriwyd ati eisoes :— GYDA'R WAWR. O'm trigfa dawel fechan, Gyda'r wawr, gyda'r wawr, Difyrus rodiais allan Gyda'r wawr, Ar hyd y dolydd gwyrddion Trwy ganol rhos a meillion Yn nghwmni aiono yr afon Gan wrando ei murmuron Gyda'r wawr, gyda'r wawr. Ce's wel'd y gloyw wlithyn Gyda'r wawr, gyda'r wawr, Yn lloni'r gwylaidd flodyn Gyda'r wawr. Ce's glywed praidd y dolydd Yn galw ar eu gilydd, Ac adar man y coedydd I Yn cyfarch y boreuddydd Gyda'r wawr, gyda'r wawr. Cyflwynais inau ganiad Gyda'r wawr, gyda'r wawr, I'r Hwn adfywiai'r cread Gyda'r wawr. Ac wedi diolch Iddo Gofynais gawn i huno Mewn blodau yn fan hono Nes cael ryw ddydd fy neffro Gyda'r wawr, gyda'r wawr. WITH THE DAWN. From my quiet little dwelling I With the dawn, with the dawn, I wandered, care compelling With the dawn, Through fields with clover growing And roses sweetly blowing, Beside the river glistering To its gentle murmurs listening With the dawn, with the dawn. Fresh dew of Heaven's distilling I With the dawn, with the dawn, I saw, each flower-cup filling I With the dawn. Through the haze of sunbeams falling Came the sound of cattle calling, The woods were set a-ringing By the glad birds joyous singing With the dawn, with the dawn. I, too, sang adoration With the dawn, with the dawn, To Him who wakes creation With the dawn. And I prayed that in His keeping Here amid the flowers sleeping I may lie, my long rest taking Till some day comes my waking With the dawn, with the dawn. Yr eiddoch yn wladgar, TREBOR ALED.

"YR HEN AMSER GYNT."

Advertising