Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Ar ol seibiant y gwyliau a thawelwch glan y mor, daw son am weithgarwch ym myd y llyfrau. Nid yw'r fasnach wedi bod yn rhyw fywiog iawn er's cryn amser, a phriodolid byny yn gyffredin i'r ffaith fod y rhyfel wedi diddymu'r wlad o arian ac nas gallasai'r werin iforddio i wario cymaint ag a wnai gynt ar lenyddiaeth a chyhoeddiadau cenedlaethol. Ond er yr holl ofrau a chwyno, parhau y mae'r cyhoeddwyr i droi allan eu cyfrolau. Yr un fath am yr awduron eu hunain, maent hwythau yn ail ddechreu erbyn y tymhor gauafol, a deallwn fod y bardd Elfed ar fin cyhoeddi dau lyfr, un yn Saesneg o dan nawdd cymdeithas Religious Tract Society, a'r llall o swyddfa leol yn ardal Pencader. Wrth gwrs, Cymraeg hollol fydd yr olaf, a hysbysir ni mai nifer o emynau a man ganeuon cysegredig fydd cynwys y gyfrol. Cyfrol arall ar droed ydyw eiddo Eleazer Roberts ar Henry Richard, Apostol Heddwch," ac y mae'n resyn ein bod wedi aros cyhyd cyn cael Cofiant Cymraeg o'r gwr da hwn. Ymysg y llyfrau diweddaraf i law rhaid galw sylw at y rhai'n:— Ganeuon Talhaiarn, cyfrol sydd newydd ddod allan o Swyddfa'r Genedl, Caernarfon, gyda rhagdraeth o waith Anthropos. Dyma gyfrol a haedda glod. Yn un peth, am ei rhadlondeb a'i diwyg, nid yw ond swllt mewn llian hardd, wedi ei hargraffu ar bapyr rhagorol; a mentrwn ddyweyd mai hon yw'r gyfrol rataf sydd eto wedi ymddangos o waith unrhyw un o feirdd y genedl. Mae cyfrolau cyntaf Talhaiarn yn costio o bymtheg swllt i bunt, ond wele heddyw ddetholiad rhagorol o bedwar ugain o'i ganeuon goreu am swllt. Os bydd unrhyw Gymro llengar heb, feddu Talhaiarn ar ol hyn, ni haedda ei gydnabod fel Cymro. Nodwedd ragorol arall yn y gyfrol yw'r chwaeth a ddefnyddiwyd gyda'r detholiadau, ac y mae'r cyhoeddwyr i'w can- mol am hyn. Ei ganeuon oedd goreu-bethau "Tal," ac wele hwynt i'r darllenydd eto mor ir eu swyn ac mor felcdaidd eu geiriau ag oeddyntddeugainmiynedd yn ol pan eu cenid yn lied gyffredinol. Yr oedd angen am y casgliad hwn, ac y mae cael cyfrol rad yn haeddu pob cefnogaeth. Y Monwyson. Dyma gyfrol yn ymdrin a'r Morisiaid o Fon a Goronwy Owain. Traeth- awd beirniadol oedd ar y cyntaf, a wobrwy- wyd yn Eisteddfod Lerpwl igoo, a bellach, wele ef wedi ei gyhoeddi i'r cyhoedd. Fel traethawd hanesyddol, y mae yn llyfryn bychan cymeradwy, a cheir ynddo gryn lawer am Lewys Morus a Goronwy, ond y mae'n eglur mai cyfaddasu yr hyn oeddid wedi gy- boeddi o'r blaen y mae'r awdwr, yn hytrach na gwneyd defnydd o'r ystor enfawr o weith- iau y brodyr yma sydd eto ar gael mewn llythyrau. Credwn ei fod yn llawer rhy lym ar Lewis am ei ddiffyg chwaeth," gan edrych arno o safbwynt y Piwritan cul, yn hytrach na'i feirniadu yn ysbryd yr oes yr ydoedd yn byw ynddi. Nid rhyw fardd proffesedig pendrwm, a'i olygon ond yn cyr- haedd o Ardd Eden i Ben Calfaria fel yr awenyddion diweddaraf oedd Lewys Morus; end Cymro llawn o fywiogrwydd ei oes yn byw bywyd y genedl yn ei chyflawnder ac yn canu yr un mor naturiol ag ydoedd yn byw. Am Goronwy druan, yr un hen stori a geir gan "Asaph," a sicr yw fod yna rywbeth ychwaneg i ddyweyd am y gwr hwn, oherwydd prin yr ydym yn credu fod ei genedl wedi ei esgeuluso mor llwyr ag y myn ein llenorion, a hyny heb achos. Ai nid yw'n bryd i'n hanes- wyr gael o hyd i'r gwirionedd, a beirniadu y cymeriad yn ei wir oleuni. Yn ein cred ni byddai yr un mor deg i ddyweyd fod y genedl wedi esgeuluso y diweddar Llew Llwyfo ag iddi anwybyddu yr hen fardd Goronwy. Dau o feibion athrylith, ond dau rhy anhawdd eu trin gan eu cyd-ddynion! [Y MONWYSON. Pris 2s 6c. Cyhoeddedig gan T. R. Roberts, Asaph," Caernarfon.]

MRS. POPHAM, A LLENYDDIAETH…

"YR HEN AMSER GYNT."

Advertising