Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Bellach, mae Arglwydd Penrhyn wedi cau pob drws yn erbyn y rhai a geisient am heddwch. Dyn ieuanc rhagorol yw Ardalydd Mony ebe Hwfa. Mae cael cymeradwyaeth gor- seddol fel hyn yn sicr o fod yn werthfawr. Rhagolygon y flwyddyn newydd ydynt streic fawr ym Morganwg a chaledi eithriadol ym Methesda Parhau mae brwydr y Mesur Addysg. Un o gadfridogion y rhengoedd yw Mr. Lloyd George. Mae mor fywiog yn y gad ag oedd De Wet er's talwm yn y Transvaal. Son am De Wet, mae y gwr hwnw a'i gyd- gadfridogion wedi cyhoeddi apel doddedig at genhedloedd byd am gymhorth i ail-adeiladu ardaloedd y rhyfel. Yn ol pob hanes, yr oedd y difrod a wnaed yn fawr iawn, ac ni fydd pum' miliwn Lloegr yn abl i leddfu y ddegfed ran o dylodi y trigolion. Torodd Plenydd ei gyhoeddiad y dydd o'r blaen i anerch cwrdd dirwest oherwydd ei fod tan anwyd. Pan hysbyswyd ei anallu i fod yn bresenol i'r gynulleidfa, torodd un hen bechadur ar draws gan ddyweyd, Deydwch wrtho am gymyd dyferyn bach o whiscy. Nid oes dim fel hwnw at wella anwyd Myn rhai prophwydi i ni gredu fod ar- goelion am etholiad cyffredinol yn y gwanwyn, ond prin y credwn hyny. Nid pobl i roddi heibio swyddi breision yw yr haid a'n llyw- odraetha ar hyn o bryd. Cynygiodd Mr. Carnegie ddeng mil ar ugain o bunau i ardal Marylebone, Llundain, er sefydlu llyfrgelloedd rhad ar y telerau fod y trigolion yn mabwysiadu Deddf y Llyfrgell- oedd rhad, ond gwrthod yr arian wnaeth y cynghorwyr Ileol. Mae'n well gan rai pobl fyw mewn tywyllwch na gwneyd ymdrechion egniol dros wareiddiad. Da genym ddeall fod Mr. Keir Hardie wedi gwella o'i anhwyldeb diweddar, a'i fod unwaith eto ar y maes yn pleidio rhan y gweithiwr. Fe gaiff lawer o hyny yn y man yn ardal ei etholaeth, yn enwedig os aiff yn streic yno. Mae rhyfel gwyr y myglys wedi darfod, a chyhoeddir heddwch yn awr yn mwg y cetyn. Yr hyn a wneir bellach fydd gorfodi yr ys- mygwyr i dalu rhagor am eu nwyddau er gwneyd i fyny y colledion arianol a wnaed yn y rhyfel masnachol diweddar. Yr un yw'r stori gyda phob rhyfel,-y gwr tylawd gaiff y rhan drymaf o'r baich yn y diwedd. Chwilio am begynau'r ddaear mae antur- iaethwyr mawr y dydd. Ychydig ddyddiau yn ol, aeth llong allan am daith i'r pegwn deheuol, ac nis daw yn ol cyn pen tair neu bedair o flwyddi. Y mae un o longau'r gog- ledd newydd ddod allan o gylch yr ia ar ol bod yno am tua dwy flynedd; er hyn i gyd, y mae'r pegynau dan sel. O'r diwedd, mae'r Hydref wedi dod, a'i oerfel gydag ef. Yr oedd rhai daroganwyr yn meddwl y buasid yn cael ychydig o dyw- ydd tymherus cyn y Nadolig er gwneyd i fyny am ddiffygion yr haf diweddar, ond mae naws y gauaf eisoes wrth y drws.