Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

TRYMHAU'R GOSB.

MARWOLAETH R. A. DAVIES, "…

News
Cite
Share

MARWOLAETH R. A. DAVIES, YR ADRODDWR." Mae y cyfaill llawen" Ymdeithydd wedi gorphen ei daith ddaearol, oherwydd daw y newydd prudd yr wythnos hon fod ei gystudd caled wedi troi yn angeuol iddo, a chwith fydd gan ugeiniau o'i hen gyfeillion yn Llun- dain glywed am ei ymadawiad sydyn o'r cylch y bu mor ffyddlon ynddo am flwyddi lawer. Yn niwedd y gwanwyn diweddaf y gwnaecl iddo gyngherdd yn yr Holborn Town Hall, a dangoswyd ar y pryd pa mor boblogaidd yr oedd, oherwydd cefnogwyd yr anturiaeth gan rai o bell ac agos, ac addefai ef ei hun wrthym na feddyliodd erioed fod ganddo fath nifer o ffryndiau. Dyna'r cyfle olaf a gawsant i ddangos eu hoffder o hono, ac y mae meddwl am y gwr ieuanc yng nghanol ei ddyddiau, yn Hawn o gynlluniau ac mor fywiog ei rodiady wedi cael ei dori i lawr yn gwneyd i'r ieuengaf o honom fyfyrio yn ddifrifol a chydnabod mai dirgel yw holl droion yr yrfa. Genedigol o ardal Aberystwyth oedd Mr, Davies. Y mae yn Llundain bellach er's dros ugain mlynedd a chanddo deulu mawr y rhai a edy i alaru eu colled ar ddechreu eu bywyd. Yr hynaf o'i blant yw'r adroddes ragorol, Miss Getta. Davies; a sicr yw y bydd calonau canoedd o Gymry caredig yn cyd- ymdeimlo a hi a'i chwiorydd a'i brodyr ieu- ainc gyda'u mham alarus yn awr ddofn eu traliod. Bu Mr. Davies yn wael iawn am rai wyth- nosau, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Nid oedd ond prin 43 mlwydd oed.

[No title]