Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ADFYFYRION EISTEDDFODOL.j

YOU MUST DROP A BARD OR TWO,…

[No title]

News
Cite
Share

Bwriada pobl y Gogledd dalu da am ddrwg i fobl y Deheudir ynglyn a'r Eisteddfod yn Llanelli y flwyddyn nesaf. Nid aeth un c6r mawr o'r Sowth eleni i Fangor, ond sonir yn awr fod Dr. Rogers yn bwriadu ffurfio cor undebol o'i ardal ef i gystadlu yn Llanelli, ac i ad-enill clodydd Cymru hefyd yn myd y gan. Y mae'r Eglwysi Rhyddton ymhob cyfar- fod mawr yn pasio penderfyniadau unol a phendant yn erbyn y Bil Addysg. Cred rhai pobl y gellir ei ddiwygio am fod ynddo un neu ddau o bethau rhagorol, ond ffolineb mawr fydd ceisio diwygio Mesur sydd mor wrthwynebol i'r Ysgolion Byrddol, a'r unig ffordd yw ei ddi-ddymu a chreu gwell mesur o'r newydd ar unwaith. Mewn araeth, y dydd o'r blaen, ymosodai Mr. Howell Idris, y Cymro Llundeinig enwog, ar yr yfed te beunydd a'r bwyta bara gwyn dibaid sydd yn dinystrio danedd ein plant, a hiraethai am yr hen amser pan yr oedd cawl a llymru, uwd a bara llaeth, yn cynyrchu bochau cochion a danedd gwynion. Gresyn na fai mwy o arddu a llai o redeg i'r siop. Rhyfedd mor amrywiol yw talentau rhai areithwyr cyhoeddus. Y dydd o'r blaen an- fonwyd at weinidog parchus sydd yn areithiwr enwog hefyd i ofyn am iddo draddodi darlith ar adeg neillduol. Addawodd yntau, a'i des- tyn oedd "Caru a phriodi." Siaradodd am awr y ffolineb mwyaf, a chwarddai y dorf gydag ef; ond y syndod yw na fu un gwr erioed mor anffodus a'r areithydd ei hun yn ei helyntion caru pan yn ieuanc, ac wedi priodi dywedir na welodd un awr o gysur ar ei aelwyd, ac eto anogai ereill i ddilyn ei esiampl. Esiampl nodedig arall ydoedd o I chwedl y llwynog a gollodd ei gynffon.

Y Dyfodol.