Hide Articles List

4 articles on this Page

ADFYFYRION EISTEDDFODOL.j

News
Cite
Share

ADFYFYRION EISTEDDFODOL. j Angen mawr yr Eisteddfod yw,-caneuon cyfaddas i'w canu ar adeg y cadeirio a'r coroni. A pha synwyr sydd i gael band i chwareu See the conquering hero comes ar achlysur o'r fath. Mae ysfcryd y peldroedwyr eisoes wedi rhedeg i wythienau y corau Seisnig. Argreffir cardiau ganddynt i ddathlu y fuddugoliaeth ddyddiau ymlaen Haw, ac os yn llwyddianus nis anghofir eu harddangos. Y tro hwn aeth dau o'r corau Seisnig a'r cardiau adref yn wylaidd yn eu llogellau. Ai nid yw'n bryd i reol gael ei gwneyd ar ganiatau i enillwyr un flwyddyn gystadlu y flwyddyn ddilynol. Ymhob unawd eleni yr oedd hen gewri yn y maes, a pha obaith sydd i gerddorion ieuainc os caniateir hyn. Nid yw'r rhyddid hwn yn rhoddi chwareu teg i'r beirniad na'r cys'adleuydd, ac y mae'n hen bryd i roddi atalfa arno. Ar i lawr mae'r grefft o englynu, ac mae'r beirdd yn dechreu dod yn fwy Seisnig yn eu boll ffurfiau. Yr hyn a wnaed eleni oedd, nid anerch y bardd ag englynion, ond siglo llaw ag ej. Y flwyddyn nesaf, ar ol gollwng y fath nifer o ferched ieuainc i'r cylch gorseddol, diau y mabwysiedir y cynllun o gusanu sydd mor gyffredin ymysg y rhyw deg; ac hwyrach y byddai cusan yn well oddiwrth lawer i eneth nac englyn. Aeth Mabon ar streic yn ystod yr wyl. Nid yw hyn yn syndod, oherwydd lie ofnadwy am streic yw Morganwg. Ni fuasai waeth gan rai o wyr y seti ol, hefyd, pe bae Gwynedd wedi myn'd ar streic. Yr unig un a ellid glywed yn hawdd oedd Llew Tegid. Yr oedd ei lais ef mor deneu a'r jokes a geisiai wneyd. p Trueni fuasai cael yr un 'Steddfod heb storm ar ei hoi, ac y mae cryn anfoddlon- rwydd yn bodoli o hyd ynglyn a dyfarniad y beirniaid ar y corau meibion. Aeth cor Manchester allan o diwn, ond hwy a gafodd y pres, Cadwodd c6r Caerdydd yn ei le, a chafodd ran o'r clod unig. Gwers: Cenwch allan o diwn Mae'r bardd cadeiriol o dan gwmwl. Yr oedd yn un o feirniaid yr Eisteddfod. Yn ol y rhaglen, dywed rheol arbenig "na chania- teir i'r beirniaid gystadlu ar unrhyw destyn yn yr Eisteddfod." Ar ol y fath reol, ac i fod yn onest dylai y wobr gael ei hatal neu i'r ail oreu ei hawlio. Pwy oedd yr ail oreu tybed ? A ddaw efe i'r maes ? Mae yn hysbys yn awr mai Mr. W. J. Gruffydd, Bethel, Arfon, ydoedd y tryd- ydd yn y gystadleuaeth am y Goron. Mae hyn yn ddyddorol yng ngwyneb y ffaith fod Mr. Gruffydd wedi ymuno a Silyn-y bardd coronog—i gyhoeddi flwyddyn yn ol y Tel- ynegion dynasant gymaint o sylw ar y pryd. Perthyn Gruffydd i adran ieuengaf yr u ysgol newydd," ac fel Silyn ni thybiodd yn ddoeth gael ei urddo gan Orsedd y Beirdd. Nid yw ond prin dwy flwydd ar hugain; y I mae ar hyn o bryd yn Rhydychen, ac y mae 1\ yn dra thebyg y clywn oddiwrtho eto. Y mae rhestr testynau Eisteddfod Llanelli I (1903) eisoes o'r wasg, a gellir ei chael am 6c ond anfon at ysgrifenydd yr Eisteddfod ynydrefhono. Wedi gorphen ag helyntion yr wyl ym Mangor gall y beirdd a'r llenorion bellach ymroddi ati i godymu am y clod a'r arian yn nhref yr alcanwyr yr haf nesaf. Dywed gwyr y Sowth eu bod yn myn'd i ¡ barotoi corau erbyn yr adeg fel ag i adenill enw da y Cymry fel cantorion. Eleni nid aeth yr un cor mawr o'r Deheudir i Fangor a myn rhai o hen gerddorion hunanol y lIe mai dyna'r rheswm i'r Saeson gario'r dydd. Wel, hai ati, ynte, ac nac anghofiwch gynghor Hwfa M6n yn iaith yr Orsedd, "mere stick- wagging won't do I"

YOU MUST DROP A BARD OR TWO,…

[No title]

Y Dyfodol.