Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
ADFYFYRION EISTEDDFODOL.j
ADFYFYRION EISTEDDFODOL. j Angen mawr yr Eisteddfod yw,-caneuon cyfaddas i'w canu ar adeg y cadeirio a'r coroni. A pha synwyr sydd i gael band i chwareu See the conquering hero comes ar achlysur o'r fath. Mae ysfcryd y peldroedwyr eisoes wedi rhedeg i wythienau y corau Seisnig. Argreffir cardiau ganddynt i ddathlu y fuddugoliaeth ddyddiau ymlaen Haw, ac os yn llwyddianus nis anghofir eu harddangos. Y tro hwn aeth dau o'r corau Seisnig a'r cardiau adref yn wylaidd yn eu llogellau. Ai nid yw'n bryd i reol gael ei gwneyd ar ganiatau i enillwyr un flwyddyn gystadlu y flwyddyn ddilynol. Ymhob unawd eleni yr oedd hen gewri yn y maes, a pha obaith sydd i gerddorion ieuainc os caniateir hyn. Nid yw'r rhyddid hwn yn rhoddi chwareu teg i'r beirniad na'r cys'adleuydd, ac y mae'n hen bryd i roddi atalfa arno. Ar i lawr mae'r grefft o englynu, ac mae'r beirdd yn dechreu dod yn fwy Seisnig yn eu boll ffurfiau. Yr hyn a wnaed eleni oedd, nid anerch y bardd ag englynion, ond siglo llaw ag ej. Y flwyddyn nesaf, ar ol gollwng y fath nifer o ferched ieuainc i'r cylch gorseddol, diau y mabwysiedir y cynllun o gusanu sydd mor gyffredin ymysg y rhyw deg; ac hwyrach y byddai cusan yn well oddiwrth lawer i eneth nac englyn. Aeth Mabon ar streic yn ystod yr wyl. Nid yw hyn yn syndod, oherwydd lie ofnadwy am streic yw Morganwg. Ni fuasai waeth gan rai o wyr y seti ol, hefyd, pe bae Gwynedd wedi myn'd ar streic. Yr unig un a ellid glywed yn hawdd oedd Llew Tegid. Yr oedd ei lais ef mor deneu a'r jokes a geisiai wneyd. p Trueni fuasai cael yr un 'Steddfod heb storm ar ei hoi, ac y mae cryn anfoddlon- rwydd yn bodoli o hyd ynglyn a dyfarniad y beirniaid ar y corau meibion. Aeth cor Manchester allan o diwn, ond hwy a gafodd y pres, Cadwodd c6r Caerdydd yn ei le, a chafodd ran o'r clod unig. Gwers: Cenwch allan o diwn Mae'r bardd cadeiriol o dan gwmwl. Yr oedd yn un o feirniaid yr Eisteddfod. Yn ol y rhaglen, dywed rheol arbenig "na chania- teir i'r beirniaid gystadlu ar unrhyw destyn yn yr Eisteddfod." Ar ol y fath reol, ac i fod yn onest dylai y wobr gael ei hatal neu i'r ail oreu ei hawlio. Pwy oedd yr ail oreu tybed ? A ddaw efe i'r maes ? Mae yn hysbys yn awr mai Mr. W. J. Gruffydd, Bethel, Arfon, ydoedd y tryd- ydd yn y gystadleuaeth am y Goron. Mae hyn yn ddyddorol yng ngwyneb y ffaith fod Mr. Gruffydd wedi ymuno a Silyn-y bardd coronog—i gyhoeddi flwyddyn yn ol y Tel- ynegion dynasant gymaint o sylw ar y pryd. Perthyn Gruffydd i adran ieuengaf yr u ysgol newydd," ac fel Silyn ni thybiodd yn ddoeth gael ei urddo gan Orsedd y Beirdd. Nid yw ond prin dwy flwydd ar hugain; y I mae ar hyn o bryd yn Rhydychen, ac y mae 1\ yn dra thebyg y clywn oddiwrtho eto. Y mae rhestr testynau Eisteddfod Llanelli I (1903) eisoes o'r wasg, a gellir ei chael am 6c ond anfon at ysgrifenydd yr Eisteddfod ynydrefhono. Wedi gorphen ag helyntion yr wyl ym Mangor gall y beirdd a'r llenorion bellach ymroddi ati i godymu am y clod a'r arian yn nhref yr alcanwyr yr haf nesaf. Dywed gwyr y Sowth eu bod yn myn'd i ¡ barotoi corau erbyn yr adeg fel ag i adenill enw da y Cymry fel cantorion. Eleni nid aeth yr un cor mawr o'r Deheudir i Fangor a myn rhai o hen gerddorion hunanol y lIe mai dyna'r rheswm i'r Saeson gario'r dydd. Wel, hai ati, ynte, ac nac anghofiwch gynghor Hwfa M6n yn iaith yr Orsedd, "mere stick- wagging won't do I"
YOU MUST DROP A BARD OR TWO,…
YOU MUST DROP A BARD OR TWO, OR THE WRATH OF THE CELTIC MUSE. Far up in the fairy glens Where she dwelleth from of old, I heard her cry, From whence Came that mandate rude and bold?" She listened aghast at the sound, Upborne on the panting gale, Like the bay of a ravening hound When the scent is hot on the trail You must drop a bard or two, If this monster show is to pay And less of their lingo will do, For the doggerel has had it's day." In the mystic light whence flows The grace of the Celtic Muse, In her beauty and strength she arose And shook from her locks the dews; And clad in her pride of song, She quitted that hallowed domain For the ways of the vulgar throng That danced to the sordid strain You must drop a bard or two &c. Not afar rose an ancient fane Where slumber the mighty dead, Who in times of turmoil and strain Their hosts to the war-lists led; Yet unheeding of the past, With its deathless tale of blood, Still rang that refrain on the blast By Menai's billowing nood You must drop a bard or two &c. From Attic groves around Shone many a gilded dome, Where Learning gaudily gowned Reposed in a cloistered home; And the College lights now kept High feast with the feckless throng To her temples hot anger leapt, Proud Muse, as she heard their song: You must drop a bard or two &c. And hither from East and West In purple habiliments clad, The Councillors eagerly pressed To join in that music mad; And vendors of spices and teas, And mercers of linen and lace, And victuallers of all degrees Made louder the song of dispraise You must drop a bard or two &c. And he that engendered the song, A Saxon vast of side, Upstood above the throng, And wielded his baton wide Then pealed as never before A Babel of discords vile, Till back from old Arvon's shore Shrank Menai's wave awhile: You must drop a bard or two, If this monster show is to pay; And less of their lingo will do, For the doggerel has had it's day." Then the Muse on a sudden drew From her side a horn of gold, And a mighty blast she blew, As a sea of sound it rolled O'er the moutain solitudes, And the harvest-laden vales, And the legend-haunted woods Of Merlin's enchanted Wales. And swift, as from out the Earth, There arose a countless throng, All men of heroic worth, Not minions of mitred wrong And the Mother gave the word, And her warriors smote amain, Till they left but a carrion herd In the City of Disdain. But the grass do'th clothe the hill With loveliness as of old, And the Bards and Druids still Their ancient rites uphold And deep in her fairy glens The Muse distilleth her song, Till the spirit shall summon her hence To enrapture the seraph throng. ELPHIN.
[No title]
Bwriada pobl y Gogledd dalu da am ddrwg i fobl y Deheudir ynglyn a'r Eisteddfod yn Llanelli y flwyddyn nesaf. Nid aeth un c6r mawr o'r Sowth eleni i Fangor, ond sonir yn awr fod Dr. Rogers yn bwriadu ffurfio cor undebol o'i ardal ef i gystadlu yn Llanelli, ac i ad-enill clodydd Cymru hefyd yn myd y gan. Y mae'r Eglwysi Rhyddton ymhob cyfar- fod mawr yn pasio penderfyniadau unol a phendant yn erbyn y Bil Addysg. Cred rhai pobl y gellir ei ddiwygio am fod ynddo un neu ddau o bethau rhagorol, ond ffolineb mawr fydd ceisio diwygio Mesur sydd mor wrthwynebol i'r Ysgolion Byrddol, a'r unig ffordd yw ei ddi-ddymu a chreu gwell mesur o'r newydd ar unwaith. Mewn araeth, y dydd o'r blaen, ymosodai Mr. Howell Idris, y Cymro Llundeinig enwog, ar yr yfed te beunydd a'r bwyta bara gwyn dibaid sydd yn dinystrio danedd ein plant, a hiraethai am yr hen amser pan yr oedd cawl a llymru, uwd a bara llaeth, yn cynyrchu bochau cochion a danedd gwynion. Gresyn na fai mwy o arddu a llai o redeg i'r siop. Rhyfedd mor amrywiol yw talentau rhai areithwyr cyhoeddus. Y dydd o'r blaen an- fonwyd at weinidog parchus sydd yn areithiwr enwog hefyd i ofyn am iddo draddodi darlith ar adeg neillduol. Addawodd yntau, a'i des- tyn oedd "Caru a phriodi." Siaradodd am awr y ffolineb mwyaf, a chwarddai y dorf gydag ef; ond y syndod yw na fu un gwr erioed mor anffodus a'r areithydd ei hun yn ei helyntion caru pan yn ieuanc, ac wedi priodi dywedir na welodd un awr o gysur ar ei aelwyd, ac eto anogai ereill i ddilyn ei esiampl. Esiampl nodedig arall ydoedd o I chwedl y llwynog a gollodd ei gynffon.
Y Dyfodol.
Y Dyfodol. [ftrfp* Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydloa am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ———— Medi „ 28 a 29. Eglwys St. Benet, Gyfarfodydd. I Diolchgarjvch am y Cynhauaf. „ 28 a 29. St. Padarn, Hornsey Road, Cyfat- fodydd Diolchgarwch am y Cynhauaf. Hydref „ 2. Capel Jewin, Cyfarfod Agoriadol y Gym- deithas Lenyddol. „ 8. Falmouth Road. Cyfarfod Agoriadol y Gymdeithas Lenyddol. „ 9. City Road, Swper Goffi cyntaf y tymhor am 7. „ 29. Cyngherdd Blynyddol Clapham Junction. „ 30. Shirland Road. Grand Concert and Tea. Taohwedd tt 3. Installation Festival of the London. I Welsh Lodge of Freemasons. No. 2867. „ 6. Cyngherdd yn y Queen's Hall, People's? Palace, Mile End Road. I „ 9-10. Gothic Hall. Cyfarfod Pregethtt Blynyddol. „ 11. Cyngherdd Blynyddol St. Benet. „ ]3. New Jewin. Cyfarfod Cystadleuol. j „ 20. Gothic Hall. Darlith gan Mrs. Johix Evans (Eglwysbach). „ 21. Cyngherdd Cwcwll, yn yr Holborn Towxt Hall. Hall. I „ 27. Queen's Hall, Cyngherdd Dewi Sant- Rhagfyr „ 25 (Nos Nadolig). Cartref oddi Cartref'' ya- Jewin. 1903 Chwef. 11 18. Eisteddfod Queen's Hall. Mawrth | „ 11. Falmouth Road. Eisteddfod y Plant. I „ 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynoi 1 Gymdeithas