Hide Articles List

2 articles on this Page

INDIAID CYMREIG AMERICA.

YR ACHOSION SEISNIG.

News
Cite
Share

YR ACHOSION SEISNIG. Beth sydd i ddod o'r hen Gymraeg, wys ? Hi oedd iaith crefydd hyd yn ddiweddar, ond y mae'r crefyddwyr ar hyn o bryd yn graddol ymwadu a hi gan sefydlu achosion Seisnig yma ac acw ar hyd a lied y wlad, Gwr eir ymdrechion ymhob cylch i sefydlu yr Inglis Cos fel eu gelwir, ac o dipyn i beth aiff ein pobl i gredu y gallant greiydda mewn iaith ddieithr. Hyd yma, nid yw'r achosion Seis- nig wedi creu unrhyw frwdfrydedd anghy- ffredin ymysg y werin-bobl, ac hyd nes y gellir creu tipyn o fywiogrwydd o'r tu allan i'r cylch swyddcgol ynglyn a'r achosion, diau na fyddant ond math o gynuiliadau i falchion ein pobl a bradwyr ein hiaith a'n cenedl. Dyma fel y desgrifia un rhigymwr Ileol y cynulliadau hyn Inglis Cos yw'r achos bellach Inglis sermon, Inglis song Pan yn myn'd i'r cwrdd gweddio Ebe'r eneth, Cym a long Yn y bore'r text yn Inglis, Pregeth Inglis yn y nos- O'm rhan i, 'rwy'n driw i'r Cymry- Aed i'r own yr Inglis Cos. Inglis Cos yw'r orychyn bellach, Inglis pritchar- dyna hi l- Ac yn Inglis ebe'r Saeson- To the meeting cym with mi There's a church to-night in chapel," Ebe'r fam i'w geneth dlos- O'm rhan i, rwy'n driw i'r Cymry- Aed i'r own yr Inglis Cos. Inglis preiars-nid yw'r Brenin Mwy yn deall yr hen iaith Rhaid yw cyfarch yr Hen Orsedd A rhyw ffregod megod maith Bellach how-di-dw yw crefydd, 'Nol gofynion Inglis Cos O'm rhan i, rwy'n driw i'r Cymry- Aed i'r own yr Inglis Cos. Inglis him-bwes—dyna'r nesa', Inglis tiwns a ffwr a hi! Inglis flowars ar y pwlpud- Gyda'r Inglis y mae bri! Inglis steil o gario'r achos— Now in Inglis we wil clos— O'm rhan i, 'rwy'n driw i'r Cymry- Aed i'r own yr Inglis Cos. Y MYNEGFYS. Gwych angel ffordd ar unig sedd Heb anedd yw'r mynegfys, Estyn ei astell fraich mewn hedd A gwiredd arni erys. Y teithiwr blin tra ar ei daith Edmyga waith mynegfys, Efe yn hy' a sieryd iaith Celfyddyd maith yn fedrus. Ar groesffyrdd dyrus saif heb frys Yn drefnus i gywirio, Arweinia bawb a phen ei fys Yn hwylus i ymdeithio. Mae'n athraw hoff i deithwyr haf A mwynaf gymwynaswr, Ar ymdaith bell efe a gaf Yn buraf gyfarwyddwr. Rhydd wersi hael o hyd yn rhad A fiyrdd y wlad a ddengys, Llythrenau byw'r astelli mad Yw siarad y mynegfys. Saif acw'n hy' ar freiniawl sedd A mawredd ar ei aeliau, Pan syrthia hwn, ni wel un bedd Diflana'i hedd mewn fflamiau. Willesden. LLINOS WYRE.