Hide Articles List

2 articles on this Page

INDIAID CYMREIG AMERICA.

News
Cite
Share

INDIAID CYMREIG AMERICA. Y TRADDODIADAU AM MADOC YN DARGANFOD AMERICA. (Parhad). Dywed awdwr parchedig y gyfrol a nod- wyd- JOurnal of a Two Months Tour-y ffynai lluaws o draddodiadau yn y cyfnod hwn parth amryw bersonau gymervsyd yn gar- charorion gan yr Indiaid Cymreig, ac yn eu plith yr oedd pregethwr o Gymro. Condem- niwyd ef i farwolaeth, a thra ar ei liniau yn gweddïo yr hyn a ystyriai ei ymbil ddiweddaf ar y ddaear, synwyd yr Indiaid wrth ei glywed ynsiarad Cymraeg-eu hiaith hwy. H Bu y digwyddiad dedwydd hwn," meddai, "yn fodd- Ion i achub fy mywyd," canys pan ddygwyd ef a'i bump gyd-deithwyr o flaen penaeth y llwyth, goliyngwyd hwynt yn rhydd. Yn ol y traddodiad amlygodd y Madociaid lawer o garedigrwydd tuagat y pregethwr a'i gyfeill- ion, a dangcswyd iddynt Feibl Cymraeg. Pen gawsant ar ddeall fed Mr. Jones yn abl i'w ddarllen, talent iddo bob gwarogaeth. Hys- bysir iddo dreulio pedwar mis yn eu plith, ac iddo ddyfod yn dra hoff o honynt. Ymwelai a gwahanol faesdrefi y llwyth, a chynhelid cyfarfodydd pregethu deirgwaith bob wythnos. Ac os oedd yr hen frawd yn meddu deuparth o sel a brwdfrydedd yr hen bregethwyr cen- badol, dychymygwn fod y coedwigoedd a'r dyffrynoedd yn diaspedain gyda'i hyawdledd. Pendtrfynodd gysegru ei amser a'i athrylith i addysgu yr Indiaid yn y grefydd Gristionogol, end gan nad oedd ef ei hunan yn abl i gyflawni y gorchwyl hwn ei hun, penderfynodd fyned i Gymru i gyrchu cenhadon Cymreig i'w gynorthwyo gyda'r gwaith. Cydsyniodd penaethiaid y Uwyth a'r eynllun yn ewyllysgar, a chychwynodd ar ei hynt tua Gwalia i geisio cynorthwyo i lwyr wareiddio ac efengyleiddio yr Indiaid Cymreig haner-wareiddiedig. Yn anffcdus daeth y cynllun cymeradwy hwn i derfyniad anamserol drwy farwolaeth sydyn y pregethwr a'r cenhadwr aiddgar yn fuan ar ol ei laniad yr ochr draw i'r Wer)dd. Mewn llyfr bychan arall, Primitive Ages," gan y Parch. Theephilus Evans, yr hwn a gyfieithwyd ac a gyhoeddwyd gan y Parch. George Roberts, Ebensburg, Pa., yn 1834, cawn grynhodeb o'r un digwyddiad. Cofia ilawer o hen Gymry Gorllewiribarth Pennsyl- vania am Mr. Roberts, a thystiant ei fod yn ddiwyro yn y gred fod llwyth o Irdiaid Cymreig yn trigo yn y Gorllewin. Yn ol yr "Oesoedd Cyntefig," y Parch. Morgan Jones, Tredegar, oedd y pregethwr Cymreig dreul- iodd bedwar mis ymhlith yr Indiaid, a rhcddir dyddiad ei drigiad gyda hwynt yn y flwyddyn 1660. Yr hyn yn fwyaf neillduol a dueddodd Mr. Jones i fyned i blith yr Indiaid ydoedd y ffaith iddo gyfarfod morwyr Cymreig a ad- nabyddai, yr hwn a'i hysbysodd iddo weled a siarad ag arrryw o'r Madociaid, y rhai a'i foysbysai mewn Cymraeg eglur i'w tadau ddyfod i'r wlad hono o Gwynedd, Gogledd Cymru. Yn 1876-blwyddyn y can'-mlwyddiant, cyhoeddwyd hefyd gyfrol gan y Parch. Ben- jamin F. Bowen ar "Ddargsnfyddiad Amer- ica gan y Cymry," yn yr hon y traetha ei resymau dros ei gred ddiysgog mai Madoc a'i gyfeillion mad ydoedd y dynion gwynion cyntaf a sangodd dir yr Amerig. Rhestra George Catlin-un o awduron han- esyddol y wlad hono ar banes y cyn-frodorion Americanaidd—yr Indiaid Cymreig gyda'r Mondano, neu y Mandons, o Ddyflryn y Missouri, a dichon mai llygriad yw y geiriau hyn o'r gair Madoc. Treulicdd Catlin gyfnod maith o amser, o 1822 i 1839, ymhlith yr Indiaid, a chyfeiria yn wrescg at y Mondan- iaid boneddigaidd a chroesawgar." Yr oedd- jni, fodd bynag, wedi eu darganfod yn foreuach o lawer nag yn amser Catlin, canys cawn banes i Lewis a Clarke ar eu hymdaith ymchwiliadol yn y gogledd-orllewin yn 1804-5 ddyfod ar eu traws rywie tua phymtheg cant o filldiroedd uwchlaw aber y Mississippi. Yr oeddynt wedi eu gorfodi i ffoi o'u trigfan cyntefig gan Iwythau rhyfelgar a gelynol llawer cryfych na hwynt, ac yr oeddynt wedi lleihau yn ddirfawr yn eu nifer. Er fod eu hiaith wedi llygru i raddau helaeth, meddent luaws o nodweddion ag oedd yn eu gwahan- iaethu yn ddirfawr oddiwrth y llwythau In- diaidd ereill. Arddangosent lawer o garedig- rwydd a lletygarwch at ddieithriaid, a chyfeiria Lewis a Clarke yn aiddgar at ymddygiad cyfeillgar a chroesawgar y Mandoniaid." Yn amser Catlin rhifai y Mandoniaid tua dwy fil o eneidiau, ond nid oedd un o'r tyl- wyth yn itofio i ddynion gwynion ymweled a hwynt yn flaenorol i Lewis a Clarke. Dywed yr hanesydd hwn fod gwedd eu gwyneypryd, a lliwiau eu llygaid a'u gwallt, yn brawf diymwad fod gwaed y dyn gwyn yn eu gwythienau. Tystia hefyd fod y cychod oedd mewn arferiad ganddynt yn debyg iawn i hen gorwgl (coracle) y Cymry, ac na welodd gwch cyffelyb iddo gyda'r Indiaid ereill. Yn 1875 cyhoeddwyd gan y Cadben Isaac Stewart hanes ei garchariad ef a Chymro o'r enw Dafydd gan yr Indiaid yn 1767. Cym- erwyd hwynt i faesdrefi yr Indiaid Cymreig ar lan yr Afon Goch, y rhai a ddesgrifir fel "cenedl o Indiaid nodedig o wyn, gwallt y rhai oedd o liw cochddu." Canfyddodd Dafydd mai y Gyrnraeg oedd iaith yr Indiaid, a hys- bysid ef ganddynt i'w "cyndeidiau ddod o ryw wlad dros y mor, gan dirio ar ororau rr or y Werydd, yn ddwyreiniol i afon y Mississipi," a thuedda y Cad. Stewart, yn ol desgrifiad ddaearyddol o'r wlad, i gredu mai Florida ydoedd y He cyntaf y sefydlasant ynddo. Pan sefydlodd yr Ysbaeniaid yn yr un cyffiniau ymdeithiodd y Cymry yn orllewinol tua chyfeiriad y Mississippi, ac y mae'r casgliad iddynt gael eu gyru yn ddiweddarach gan lwythau cryfacb tua chyfeiriad yr Afon Goch yn eithaf rhesymol i Stewart. Honir i'r yrrchwiliwr a'r hynafiaethydd medrus, Jonathan Carver, ddyfod o hyd i'r un bobl yn y gogledd-orHewin, tua Minnesota, ac yr oeddynt yn dra gwahanol i'r trigolion ereill. Yr cedd gwedd eu gwyneb yn welw o'i gydmaru a'r Indiaid ereill, a'u gwallt yn gochddu a chyrlog, tebygol iawn i'r Cymry. Haera rhai haneswyr mai hiliogaeth un o Iwythau cyfrgolledig Israel ydyw Indiaid Gogledd America, ac fod tebygrwydd amlwg rhwng ffurf eu trwynau, yn ogystal a'u boch- gernau uchel a'u gwallt du, i'r luddewon. Faint bynag o wirionedd sydd yn hyn, mae yn dra sicr fod y Mandoniaid neu y Madoc- iaid yn Ilawer mwy gwareiddiedig, heddychol a gwybcdus na'r llwythau ereill, canys dywed Catlin iddo'u gweled yn trin ac yn gwrteithio y tir, ac nid oeddynt wedi eu lefeinio ag ysbryd crwydrol y llwythau ereill. Yr oedd y dynion hefyd yn farfog, a gwisgent ddillad o wneuth- uriad cartrefol, tebyg i'r cyfryw ag a arferid eu gwisgo flynyddau lawer yn ol yn yr Hen Wlad. Ni welodd, er iddo dreulio amser maith gyda llwythau ereill, ddillad cyffelyb iddynt gan gyd-frodorion y wlad hon. Cy- hoedda Catlin yn ddibetrus mai hiliogaeth Madoc a'i fintai oedd y tylwyth hwn, a dichon ei fod mor addas ac abl a neb (yng ngwyneb y ffaith iddo dreulio cymaint o amser yn eu plith), i ffurfio ac i draethu barn gywir ar y mater. Dywed y diweddar Albert Gallatin, hanesydd ymddiriedolgar hanes Indiaid Am- erica, iddo ymweled un o benaethiaid y Man- doniaid yn Washington, ac mai efe oedd yr unig Indiad a welodd erioed ag oedd yn meddu llygaid gleision. Llawer o ddadleu fu yn y ganrif ddiweddaf parth lleoliad maesdrefi yr Indiaid Cymreig. Yn y maps cyntefig canfyddir hwynt ar yr afon Missouri, yn agos i aber yr Yellowstone, ond yn y maps diweddaraf mae eu lleoliad wedi diflanu yn gyfangwbl, fel ag y mae y Mandoniaid, fel tylwyth, wedi diflanu oddiar wyneb y ddaear. Mae yn y wlad eang hon yn awr filoedd o Gymry aiddgar a gwladgarol, a syna Mr. Skinner, ymhlith ereill, nad oes un ymgais wedi cael ei gwneyd i godi cofadail goffadwr- iaethol i Madoc. Pe buasai y Tywysog hwn yn perthyn i unrhyw genedl arall, mae'n dra thebyg y buasai y cyfryw wedi ei chodi ym mhell cyn hyn. Nid yw yn rhy ddiweddar eto, ac efallai y gellir trwy gyfrwg ein new- yddiadur yn y wlad hon daro ar ryw gynllun a fydd yn gyfrwng i gyflawni hyn o orchwyl er coffa am y Tywysog Cymreig, yn og) stal a'r dyn gwyn cyntaf a syllodd ac a sangodd ar y wlad ag sydd heddyw wedi dyfod yn gartref cysurus i filoedd o'i gydgenedl.-O'r Drych. Pittsburg. R. H. DAVIES.

YR ACHOSION SEISNIG.