Hide Articles List

2 articles on this Page

OiSdeuisE'r Ddinas.

News
Cite
Share

OiSdeuisE'r Ddinas. Mae tymhor y cyrddau mawr eisoes wedi dechreu. Yn ystod y Sul (yfory) cyn- helir nifer o gyfarfodydd arbenig, a gwelir y manylion am danynt mewn colofn arall. Bydd yn chwith gan lawer glywed fod y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., yn tori ei gysylltiad bugeiliol ag eglwys Clapham Junc- tion ar ddiwedd y flwyddyn hon. Bydd lie Mr. Edwards yn wag yn hir yn y cylch Methodistaidd yn Llundain. Yr wythnos nesaf dechreuir agor y Cym- deithasau Llenyddol yn ein mysg, a gwelwn ddwy o'r rhai mwyaf blaenUaw- Jewin a'r Tabernacl—yn dechreu trwy gynhal cyfar- fodydd cymdeithasol, un nos Iau a'r Hall nos Sadwrn. • Prin y credwn fod ein pobl ieuainc yn cyf- lawn fanteisio ar y cymdeithasau hyn, ac y mae yn resyn fod neb pwy bynag yn colli y manteision a'r lies a gyfrenir drwyddynt. Ynglyn a phob capel y mae gwahoddiad agored a chynes i'r sawl bynag a hoffo i ymaelodi gyda'r gymdeithas yn anibynol i'r cynulliadau ereill, gan mai prif amcan y cyfar- fodydd ydyw diwyHio a hyfforddi Cymry ieuainc y lie a'u dwyn i well adnabyddiaeth o'u gilydd, ac o werth a mawredd ein gwlad a'n hiaith. Na foed i'r un Cymro na Chym- raes ieuanc eleni fed heb ymuno ag un o'r sefydliadau gwerthfawr hyn. < Dydd Sadwrn (heddyw) am3.30 o'r gloch, dadorchuddir cof-golofn i'r diweddar Barch. W. Ryle Davies, yng Nghladdfa Finchley. Mae'r golofn wedi ei gosod ar ei fedd gan eglwys Holloway, a disgwylir amryw o flaen- oriaid y Cyfundeb yn bresenol ar yr am- gylchiad. < "Mr. Golygydd." ysgrifena un gohebydd atom. Darfu i mi dalu ymweliad a Chapel Charing Cross nos Sul diweddaf, ac yno, cefais bregeth wir alluog gan bregethwr ieuanc o'r wlad mi dybiwn. Ond dyn a'm helpo, ni fu'm erioed o'r blaen yn y fath dywyllwch mewn ty addoliad. Prin iawn y gallwn weled i chwilio a darllen yr emynau. Yn y set o'm blaen yr oedd gwr ieuanc gyda llyfr tonau ac emynau yn ei law, ac er fy holl ymdrech, methwn yn deg a gweled yr un o'r nodau heb estyn fy ngwddf fel Giraffe dros ganllaw y set i yrnyl y llyfr. Nis gwn pa un a oedd goleuni y cyntedd yn well a'i peidio; o'r hyn leiaf, gallaf eich sicrhau nad ydyw nerth y goleuni trydanol sydd yno yn bre- senol ond prin haner digon i oleuo y capel yn briodol. Y mae yn warth i grefydd fod y diafol yn gallu fforddio gwell goleuni o lawer yn ei dai-y dafarn a'r chwareudy—na'r goleuni a rydd crefyddwyr i oleuo Ty Dduw! Dewch i ni gael gwelllant ar hyn yn fuan." # Gwelwn fod cyngherdd yr hen fardd Cwcwll yn nwylaw pwyllgor cryf, ac yn rhagolygu yn dda. Y mae hwn yn achos i'n cydwladwyr yn gyffredinol, gan fod bron bawb o honom yn adwaen yr hen wr. Nis gallai Cymry Llun- dain ymgymeryd a gwaith mwy anrhydeddus a dyngarol na gwaith o'r natur yma. Mae Cwcwll yn adnabyddus yn y cylch Cymreig yn Llundain er's degau o flynyddoedd, ac yr ydym yn gobeithio y rhydd ein cydwladwyr bob cefnogaeth ynglyn a'r apel bresenol ar ei ran. Sonir llawer y dyddiau hyn am fuddugol- iaeth y corau Seisnig ym Mangor y dydd o'r blaen, a beir y corau Cymreig genym am na fuasent wedi gwneyd mwy o ymdrech, ond y mae'r un bai arnom ninau yn Llundain. Cor Seisnig aeth a'r wobr yn Eisteddfod Exeter Hall yn adran y corau cymysg, a diau fod I cantorion Lewisham yn parotoi i'r ornest yn y Queen's Hall, yn Chwefror nesaf eto. Beth mae'n corau cynulleidfaol ni yn wneyd go- gyfer ag adenill eu henw da y pryd hyny ? Y mae'n hen bryd iddynt ddihuno a ffurfio eu rhengoedd, oherwydd gallem yn hawdd barotoi tri neu bedwar o gorau rhagorol yn ein mysg fel Cymry. Trefnir i gynhal cyfarfod i ssfydlu y Parch G. H. Havard, M.A., yn weinidog ar Wilton Square, yn ystod y mis nesaf. Mae Mr. Havard eisoes wedi ymaflyd yn ei waith, a hyderwn y caiff yrfa lwyddianus yn ein plith. Chwith oedd genym glywed fod y Parch. P. H. Griffiths-dewis weinidog eglwys Char- ing Cross-wedi bod yn anhwylus yn ddi- weddar, ond gobeithio ei fod erbyn hyn wedi cael llwyr wellhad, ac ei gwelir mor hoyw ag erioed eto erbyn adeg ei ddyfodiad i gymeryd gofal yr eglwys bwysig hon. Mae Mr. Griffiths yn bregethwr poblogaidd iawn a llawer o alw am ei wasanaeth yn y De- heudir. 9 Mae'r cyfeillion Seisnig o dan ofal y Parch. H Elfet Lewis yng Nghapel Harecourt yn cynhal eu cyfarfodydd blynyddol o ddiolch- garweh am y cynhauaf yn ystod y Saboth yfory. a threfnir gwasanaeth dyddorol gogyfer a'r amgylchiad. Bydd yr adeilad wedi ei harddu yn dlws & blodau a ffrwythau taraw- iadol i'r wyl. Da genym ddeall fod y papyr amserol a draddodwyd gan Dr. D. L. Thomas, Stepney, ynglyn a'r Eisteddfod, ar "Iecltyd ardaloedd gwledig Cymru eisoes yn dwyn ffrwyth. Y mae'r Cynghorau Sirol yn dechreu ymholi i'r moddion mwyaf addas i gyfarfod a'r cwynion, a diau, cyn pen hir, y daw y wlad i weled rhesymoldeb y meddyg o Stepney a'r pwys- igrwydd o gario allan nifer o welliantau anghenrheidiol ynglyn a'r bywyd gwledig. Ar ol dau fis o wyliau, y mae Dr. Thomas ar fin ail-ymaflyd yn ei ofal yn ardal Stepney. Fel y gwyddis, yn y cylch hwn y bu y frech wen drymaf. gan mai dyma'r lie mwyaf pob- log yn y ddinas, a chafodd y meddyg Cym- reig hwn amser caled tra parhaodd y pla. Fel math o ad-daliad, rhoddodd rheolwyr y He fis yn ychwaneg o seibiant i'w swyddog meddygol poblogaidd. W Ot Dvlai'r cerddorion ofalu am sicrhau copi o'r Traethodydd am y mis hwn, oherwydd fe gynwys lith dyddorol ac adeiladol gan ein gohebydd cerddorol, Pedr Alaw, ar bwnc y mae efe yn gredwr cryf yndd). Mae angen am ysgrifau ar bynciau chwaethus fel hyn yn ein plith, ond hyd yma, ychydig yw nifer ein cerddorion a fedrant ymdrin a. materion tu- allan i gylch bychan y nodau cerddorol yn unig.

Advertising