Hide Articles List

1 article on this Page

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. MOR 0 GWYN YW CYMRU I GYD! Y CANTORION WEDI EU CURO. ADFER El HURDDAS GAN Y BEIRDD. Erbyn hyn, mae'r Wyl Flynyddol wedi gorphen, a cha'r Cymro hamdden i adolygu ei gwaith a'i dylanwad. Cedwir enw Eisteddfod Bangor mewn cof am hir amser oherwydd y galanas a wnaed yno ar wyr y gan. Ond er gyru o rengoedd y cantorion ar fto, daeth 61-gatrawd y beirdd i'r adwy, a hwynt-hwy yn y diwedd a roddas- ant ychydig safle i'r Wyl, ac a ddangosasant wir gymeriad yr hen Eisteddfod a gwerth ei bodolaeth yn ein mysg. Ar ol curfa gwyl Bangor, rhaid i'r cerddor fod yn ddistaw am rai blynyddau. Yr oedd ei frol wedi bod yn boenus yn ddiweddar, a'i hunanoldeb yn anioddefol i bawb. Llywiai bob cynulliad gyda dirmyg a mynai y flaen- oriaeth i bob peth ynglyn a cherdd. Dangos- odd hyn yn eglur ym Mangor lie y cipiodd yr holl bwyllgor gan lwyddo i ddiystyru pob ymdrech o eiddo y bardd a'r lienor. O'r cychwyn ni chafodd y rheiny druain ond y dirmyg mwyaf a chyfrifid hwy fel y plaau penat yn ein plith. Mae'r frawddeg hono- DROP A BARD OR TWO —wedi dod yn gynefin i bawb; ond erbyn hyn, gwelir mai'r bobl a geisid esgymuno o'r Wyl yw'r unig rai sydd wedi achub y cymer- iad Cymreig i'r hen sefydliad, a gobeithio ein bod bellach wedi clywed y diweddaf am y bobl hyny a ddirmygent ein barddoniaeth a'n llenyddiaeth. GWYL Y CADEIRIO. Yr oedd dau ddiwrncd cyntaf yr Wyl wedi bod yn bynod o anffodus. Aeth y ddwy brif wobr i'r Saeson, sef y prif gor a'r corau meibion, a'r canlyniad ydoedd fod ysbryd y Cymro yn hynod isel erbyn diwedd yr ail ddiwrnod. Ar foreu'r trydydd dydd ceisid ymgalonogi ychydig yn y gobaith yr adferid rhyw dipyn o'r tir yn y cystadleuaethau di- lynol, a'r canlyniad oedd i fwy o bobl ym- gynull i'r Orsedd boreu dydd Iau nag a welwyd yn flaenorol. Wedi colli eu ffydd yn y cantorion aeth y dorf i gymeryd dyddordeb yn y beirdd, ac yn y rhai'n ni siomwyd neb. Yr oedd blaenoriaid y genedl wedi dod i'r Wyl y boreu hwn, a manteisiodd y beirdd ar y cyfle i roddi cic i bwyllgor yr Eisteddfod am eu hanwybyddu hyd yn hyn; ac yn ol fel y derbyniwyd y cyfeiriadau, amlwg oedd fed aelodau y pwyllgor wedi gweled eu cam- syniad. Ar y dechreu, nid oedd amser i'w roddi i'r hil farddol; ond erbyn hyn, gan nas gallai y cantorion godi hwyl, rhoddwyd mwy o ryddid i arweinwyr yr Orsedd y boreu yma. Meddai Watcyn Wyn:— Bangor âi'n Gerddor i gyd-a dywedai'n Awdurdodol hefyd: 'Rwy'n gw'ardd un Bardd yn y Byd I 'mhoeni haner mynud. Ond bellach, yr oedd mwy o ryddid iddynt, a chanai Gwili eto Wele i fardd le i fyw-yn ei gylch Heb un gerdd a'i hystryw I ladd ei fedr diledryw, A gwneyd sill o'i benill byw. Felly y bu, caed cynulliad hir a hwyliog, a bu'r cerddor yn fud am dro. Rhoddwyd urddau'r cylch i lu o enwogion, a chaed cryn hwyl wrth groesawu y dieithriaid o wanhanol wledydd i fewn i gymydogaeth y Maen Llog. Yn y cystadleuaethau yn ystod y dydd bu ami i ornest galed, ond y prif beth yr edrychid ymlaen ato ydcedd gwyl y cadeirio. Cyn cyibacdd h) ny, tu raid cael man gystadleuon corawl. Y gyntaf cedd i gorau cynulleidfaol, ac o'r tri a ddaeth ymlaen, rhoddwyd y flaer oriaeth i gCr Bangor ei hun. Yn yr ail lecacd cryn hwjl vrth wrando ar y corau merched. Yr ccdd hon yn gystadleuaeth gakd, a daeth saith o gorau ymlaen i ym- gcdymu am y clod. Yr oedd tua deng mil o bcbl yn gwrando arn)nt. Ymysg y corau yr oedd cor o ferched America, a chawsant dderbyniad rhagcrol. Ar derfyn y feirniad- aeth rhoddwyd y dorch i gor Seisnig eto, sef cor Blackpool a dyma'r drydedd waith yn ystod yr Wyl i gorau estronol guro ein gor- euon ni! Ar ol yr ergyd hwn eto, yr oedd yn fendith i'r wyl fod Mr. Lloyd George yn bresenol i galonogi tipyn ar y dyrfa gyda hyawdledd a nerth anarferol. Ar ol araeth Mr. George aed at brif ddarn y beirdd, sef y feirniadaeth ar awdl y gadair. Ymgynullodd yr Archdderwydd a'r beirdd a holl lu'r Orsedd yn eu gwisgoedd amryliw ar y llwyfan, ac edrychent yn gylch rhyfedd pan ddechreuodd y Proffeswr Morris Jones a Elfed ddarllen y feirniadaeth ar y deg awdl oedd wedi eu banfon i fewn. Cafwyd sylwadau rhagorol gan y Proff. Morris Jones, a chy- hoeddwyd Tir na'n Og yn oreu. Wedi galw ar i'r ymgeisydd sefyll, hysbys- wyd nad ydoedd yn bresenol, a chynrychiol- wyd ef gan Mr. Beriah G. Evans, yr hwn a hysbysodd mai enw'r buddugwr oedd y bardd ieuanc, MR. T. GWYNN JONES, o Swyddfa'r Herald, Caernarfon. Cadeiriwyd Beriah gyda'r urddas arferol, ac ar derfyn yr areithiau barddonol, daeth Mr. Ffrancon Davies ymlaen i ganu can 'y cadeirio cyfan- soddiad o'i eiddo ei hun yn llawn o allu cerddorol ond mor ddisynwyr ei farddoniaeth fel nas gwyr neb o'r hen feirdd na'r beirdd newydd beth i wneyd o hono. Dyma'r geir- iau fel eu canwyd, ond hwyrach y dylid eu darllen o chwith er mwyn cael allan lawnder y synwyr:— Becit. tl Tragwyddol odlau Duw sy'n ysbrydoli dyn sain ei odidog delyn sy'n swyno'n byd ni'n odiaeth. Anadla'n rymus iawn ar esgyrn sychion a lleinw y dyffryn a moliant a chan Ysbryd Duw adnewydda bob alaw ac awen a goreura y goron gain." Air. li Chwi ddewis feirdd y nef A'r goron ar eich pen Mal Duw ei Hun, Celf sydd anfeidrol lor par ni wybod hyn Yn y llwch mae ein lie. 11 Ymgrymed pawb i lawr Gerbron gorsedd lor. [oedd Can's ofer yw cynwrf cenhedl- Bobl 1 Coronau i lawr o'i flaen Teilwng mwy, talu mawl." Canwyd hon yn dda gan yr awdwr, ac yna aeth pawb allan gan deimlo fod yr Wyl, ar ol y cyfan, drwy osod urddau y gadair ar fardd ieuanc haeddianol, wedi myned ymhell i gyfiawnhau ei safle a'i chadwraeth. Onid er mwyn dadblygu a meithrin talentau ieuainc fel hyn y sefydlwyd yr hen wyl ar y cyntaf ? DYDD GWENER. Dyma ddydd olaf yr Wyl i bob amcan Cymreig, ac yr oedd yn amlwg y teimlid hyny hefyd gan yr ymwelwyr, oherwydd dechreuid siarad am hwylio i gyrau gwell gan ganoedd o ymwelwyr. Nid oedd ardal yr Eisteddfod wedi bod yn rhy dirion wrth eu llogellau, a rhaid oedd tyru i drefi ereill er cael rhyw dipyn o resymoldeb ynglyn a threuliau bywyd. Ym moreu dydd Gwener, caed cyfar- fod eto o Orsedd y beirdd, a buwyd yn ffodus i gael hin-dda a gwen dyner yr haul ar ran o'r gwaith. Daeth nifer o Ffrancod yno yn cael eu harwain gan y Marcwis o F6n, ac wrth gwrs, gan eu bod yn cael hawdd y gwr hwnw bu raid rhoddi crcesaw mawr iddyrt. Yn f cynulliad hwn eto cyflwynwyd nifer o urddae Gorsfddol-amryw o honynt i berscnau nB. wyddant ddim am y Gymraeg; end dyna un o erferion yr Wyl, a rhaid, hwyrach, cadw ei diffygion yn ogystal a'i rbagoriaethau. Cyhoeddwyd rhestr o destynau Eisteddfod Llanelli yn 1903, ac hefyd cyhceddwyd mas yn y Rhyl y cynhelir yr Wyl yn 1904, ac yn 01 pob argoelion bydd i bobl y Rhyl fod mor weithgar a byw ag y bu pobl Bangor ynglyn a'r Wyl eleni. Ym mhabell yr Eisteddfod nid oedd y cyn- ulliad mor fawr a'r tridiau blaenorol, ac ymysg buddugwyr y dydd, gellir enwi Mr. D.- James (Defynog), am draethawd ar Daniel Owen a'i weithiau Mr. W. Williams (Nant- llais) am chwech o delynegion; Gwydderig- am englyn; Huwco Penmaen am y tair chwedl fer Gymreig. Ni wobrwywyd neb am ysgrifenu hanes yr Eisteddfod, a rhaid felly rhoddi cynyg arall am y wobr, oherwydd y mae Cymdeithas yr Eisteddfod yn cynyg y wobr o 30P eto yn yr Wyl nesaf. CORONI'R BARDD. Testyn pryddest y goron oedd "Tristan ac Essyllt," ac yr oedd unarddeg o bryddestaifc wedi dod i law. Caed y feirniadaeth gan y Proff. Morris Jones ac Elfed, a dyfarnwyd "Gwydion ab Don" yn oreu. Wedi galw* am yr enw, caed allan mai'r Parch. R. Silyn; Roberts, Lewisham, oedd y buddugwr, a mawr oedd Uawenydd y dorf wrth weledi beirdd ieuainc-plant yr Eisteddfod-yn cipio. y prif wobrwyon llenyddol fel hyn. Yn ystod y dydd, caed dwy ornest gorawl eto, sef corau plant; a chorau cymysg, sef yr ail gystadleuaeth gorawl. Daeth chwech o gorau plant i'r gystadleuaeth, a chaed cryn hwyl wrth wrando arnynt yn canu. Ar ol gornest galed, dyfarnwyd y wobr i gor Pen- dref, Bangor, ac yr oedd y dyfurniad yn boblogaidd dros ben. Yn yr ail gystadleuaeth gorawl yr oedd pump o gorau yn cystadlu am y wobr o 50p a chan fod corau Seisnig eto yn y maes, yr oedd y brwdfrydedd yn fawr iawn. Ar derfyn ymdrechfa galed, dyfarnwyd cor Waunfawr, o dan arweiniad Mr. H. J. Rob- erts, yn oreu, a bu cryn waeddi ar ol hyn am fod cor Seisnig o'r diwedd wedi cael ei orch- fygu. Yn yr hwyr, caed cyngherdd mawr, a dad- ganwyd ynddo gan amryw o'n cerddorion blaenaf. DYDD SADWRN. Cyfarfod byr a gaed ddydd Sadwrn i ddiweddu yr Eisteddfod. Un gystadleuaeth* yn unig oedd ar y rhaglen, sef yr ymdrech rhwng y seindyrf pres am y wobr o 30 gini;, a daeth pump o bartion i'r ymdrechfa. Yr oedd dros bum' mil o fobl yn gwrando arnynt, ac ar y cyfan yr oedd yn gystadleuaeth lied galed. Ar derfyn y canu galwodd y beirniaid ar is ddau o'r partion ail chwareu, ond caed fod aelodau un o'r partion wedi myn'd ar grwydrr a phenderfynodd y beirniaid felly i ranu y wobr rhyngddynt-sef seindyrf Nantlle a, Batley ac yn ol pob arwyddion, yr oedd y dyfarniad yn un lied boblogaidd. Y CYFRIFON. Cyfrifid ar derfyn y gyfres o gyfarfodydtf fod derbyniadau yr Wyl wedi bod yn £ 4,650 -sef, Tanysgrifladau £ 1,000 Tocynau 300 Derbyniadau wrth y drysau 3,200 Adran y Celfa u 60 Cyfarfod y Seindyrf go Hysbysir na fydd y treuliau dros C3,750, ac yr disgwylir y bydd dros naw cant o bunau yng: ngweddill ar ol talu yr holl ofynion. Mae'n eglur fod cryn sail i obeithio fod y cyfrifon hyn yn agos i'w lie ond eto, gall fod, yna dreuliau lawer nas cyfrifwyd mo honynt: