Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

GWERSFR EISTEDDFOD.

MILWYR GWIRFODD CYMREIG YN…

News
Cite
Share

MILWYR GWIRFODD CYMREIG YN LLUNDAIN. Mae ton Jingoaidd wedi bod dros Gymry Llundain cyn adeg y rhyfel diweddar, ac y mae'n ddyddorol weithiau galw i gof yr hyn a wnaed yn ycylchoedd Cymreig yn Llundain yma yn y dyddiau gynt. Yr oedd cryn gyffro yn Lloegr tua 1859-60 oherwydd y terfysgoedd ar y Cyfandir, a chan fod angen am ein milwyr yng ngwledydd y Dwyain bell, am fod rhyfeloedd yn China, aed i godi gwirfoddolwyr mewn gwabanol ranau o'r wlad, ac mae'n debyg i Gymry Llundain uno yn y gwaith a cheisio ffurfio catrawd o wirfoddolwyrCymreig ar yr adeg. Dyma'r hanes fel yr ymddangosodd yn Taliesin am Tachwedd 186o, a byddai yn ddyddorol cael adgofion rhai o'r hen Gymry presenol am y cyfnod, a'r hyn ddaeth o'r bwriad rhyfelgar hwnw :— Da genym ddeall fod pwyllgor wedi cael ei benodi yn y Brifddinas yn gyn- wysedig o'r boneddigion canlynol:— Argl. Bagot; Argl. Boston; Syr R. W. Bulkeley, Barwnig; H. A. Bruce, Ysw.; G. Howells Davies, Ysw.; Arglwydd Dungannon; Jeremiah Evans, Ysw.; Argl. Fielding; G. W. Hemans, Ysw.; Col. Biddulph; Syr P. Mostyn; Col. Pennant; Anrhyd. O. Stanley; Syr J. Hanmer; W. B. Hughes, Ysw.; W. K. Davies, Ysw.; J. R. Kenyon, Ysw.; Argl. Llanofer; Argl. Overstone; Syr Thos. Philipps; Mr. Sergeant Parry; John Probert, Ysw.; David Pugh, Ysw.; Arglwydd Sudeley J. E. Thomas, Ysw., F.S.A.; Syr W. W. Wynn, Col. Wynn, A.S., C W W. Wynn, Ysw., C. A Wood, Ysw., ac ereill, os bydd achos i'r dyben o osod ar droed lu gwirfoddol o Gymry yn Llundain. u Y maent i wisgo gwisg wladol wedi ei chyfaddasu rywfaint at amgylchiadau yr amser, o'r hon y rhoddodd Ab Ithel gynllun i'r ysgrifenydd, a'r hon sydd dra dwyreiniol yn ei dull ac yn arddangos y lliwiau gwladol coch, g wyrdd, a gwyn. u Nid oes genym amheuaeth na fydd y fyddin Gymreig hon yn un o'r rhai harddaf ei hymddangosiad ar y maes, ac am ddewrder, digon yw dwyn ar gof mai epil yr hen wroniaid hyny ydynt a amddiffynasant eu gwlad gynt yn erbyn gornass y Rhufeiniaid, y Njrmaniaid a'r Saeson." [A oes rhai o'n darllenwyr yn cofio am y L wisg harddwych hon, ac wedi clywed rhyw— beth am ddewrder y gatrawd a geisiwyd | ffurfio yn niwedd y flwyddyn 1860.]