Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y AGan.1 u

Y NOSON HONO.

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. Addawa'r Llywodraeth bum' miliwn o bunau at gynorthwyo ffermwyr y Trasvaal. I Mae'r Brenin wedi gwella yn rhagorol wedi'r fordaith ddiweddar, a hysbysir ei fod yn abl i wneyd cryn lawer yn awr. Saesneg oedd iaith yr Eisteddfod bron i gyd eleni, a dyma esiampl o'r wyboiaeth a feddai rhai o'r ymwelwyr a'r Orsedd :-t, Why is the Archdruid called t half a moon '?" ebe un ferch ieuanc wrth y Hall. Oh, because of that crescent that he carries on his breast,,r oedd yr ateb. Y mae'n debyg mai y peth agosaf i Hwfa Mon yw "half a moon," ac y mae'r arwydd gorseddol ar fron yr Arch- dderwydd yn debyg iawn i haner lleuad. Bwriada'r Brenin fyned ar ei daith drwy Lundain ar y i8fed o Hydref-y Sadwrn cyntaf wedi i'r Senedd gyfarfod, a diau y bydd yn ddydd o wyliau eto i'r dinas- yddion. Byr a blasus oedd arwyddair y beirdd yn yr Wyl eleni. Dyma rai englynion a ad- roddwyd ar absenoldeb Eifionydd (cofiaaur yr Orsedd), oherwydd gwaeledd, ac hefyd i lort- gyfarch Hwfa ar ei adferiad i'w iechyds arferol ABSENOLDEB EIFIONYDD. Dewr gofiadur, gofidio-yr ydwyf Ar adeg bod hebddo Eifionydd-bid a fyno Gwall i feirdd ei goili fo Ar ei daith ar y mor du-yn y cwch Heb Bost card i Gymru I Cynghanedd sy'n rhyfeddu, Ar un wedd ein gorsedd gu. Cwyno mae Gwlad y Cenin-gofidio Am gofiadur diflin Doed yn dew o'r Gorllewin Yn ein bro mae'i fath brin. WATCYN WYN. ADFERIAD HWFA MON. Yn llawn hwyl a llawen oll-wedi cur Hyfryd cwrdd mor ddigoll: Yn y' ngwir pe Hwfa. yngholl Bangor gai Orsedd Bengoll Yma mae Hwfa o hyd-Hwfa Mon Hwfa mwy beth dybryd Hwfa a'i haner hefyd Lawer fwy na Gwalia i gyd. Ei farw I na ei adferyd-a gadd I hen gylch ei fywyd; Mae un Hwfa Mon hefyd Yn fwy gwerth na'r dorf i gyd Hwyl i fyw ei ail fywyd-i ddewraf Archdderwydd y oydfyd, I'w achub boed arch iechyd A'i barch heb arch yn y byd. WATCYN WYN. Hwfa anwyl i feini-ei ddefion Gadd ddyfod eleni; Ac hawdd yn wir yw gwaeddi- Urdd nef i'n Harchdderwydd ni. Hen Walia gilr wyl ei gwerin—yr wyl Lie mae'r hedd ddilychwin Can hafaidd mewn lie cynefin A'r gerdd sydd hudolach na gwin. Tra thon ym Mangor yn tori—a'r hwyr Yn goreuro'r heli, Awen a chan, tynghedwn chwi Daliwch i'w hysbrydoli. GWYLFA. Mae'n eglur nad yw chwarelwyr Bethesda yn rhyw foddhaus iawn ar lythyr Arglwydd Penrhyn. Bu cryn gynwrf yn y He dydcl Sadwrn diweddaf, a bu raid cael nifer ychwna- egol o heddgeidwaid i'r cylch.

Advertising