Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y AGan.1 u

Y NOSON HONO.

News
Cite
Share

Y NOSON HONO. Crynodd fy nghalon, Lleithiodd fy ngrudd, Gwelais beryglon Fy ngwenferch rydd. Nid oedd cyfrinion Ei bywyd hi Mor bur a'r swynion Ddisgwyliais i. Oedodd y Rhian Lednais, a thlos, Gan swyno'r cwpan Yn hwyr y nos. Gwelais y gwydryn Erch, wrth ei safn, Gwelais ef wedyn Yn wag heb ddafn. o dan ddylanwad Ei gynwys cryf, Gwelais ei thremiad Yn myn'd yn hyf. Ciliodd y mwyndra O'i threm yn llwyr Tra llithrai'n ara' Yn oriau'r hwyr. Wrth chwareu'n wirion Ag estron-ddyn, Archolli calon Ei bardd wna'r fun. 'Nghalon mewn traserch Gurai yn chwim, A hithau'r wenfetch Yn teimlo dim. Dibrisiai'n anoeth Ei phrydydd hael, A chollodd gyfoeth Oedd werth i'w gael. Ciliais o'r neilldu Tra hithau'r fun Yn ymddifyru Ag arall-ddyn. Caled oedd cefnu Ar fun mor hardd, Ond beth am waedu Calon y bardd ? Os chwareu'n wamal Yn hwyr wnai hi, I' Mewn gweddi'n ddyfal Plygu wnes i. Er cymaint deimlais I Mewn traserch cry', j Drosti anfonais I Ochenaid fry. Gwelais hi'r bore A gwenai'n hardd I' Gwyddai o'r gore Brofiad y bardd. Fy serchog Rian Mae 'nghalon gfir Yn maddeu'r eyfan Os byddi'n bur ? Cofia trwy'th fywyd Fy nyfal gri, A chofia'm hadfyd Yn d'achos di. Llansann&n. TREBOBJACED.

HYN A'R LLALL.

Advertising