Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y AGan.1 u

News
Cite
Share

Byd y A Gan. 1 u Gan PEOR ALAW. [It PENDENNIS," LOUGHTON.] YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. Pan ddy- wedasom yr wythnos ddiweddaf yn y golofn hon nad osdd ein canu wedi gwella o ran safon, ni thybiem y ceid prawf mor fuan o gywirdeb y gosodiad; canys gwelwyd ym Mangor ei fod yn colli tir-neu y mae'r Saeson yn ei gyflym enill! Gyda gwir ofid y derbyniwyd y dyfarniad, yn y brif gystadleu- aeth gorawl, nad oedd yr un o'r corau Cym- reig ymhlith y tri goreu. A chan yr ym- ddengys fod y rhai oeddynt yn abl i feirniadu y canu, yn addef yn rhwydd fod dyfarniad y beirniaid appwyntiedig yn un deg, nid oes ddadl nad oedd y corau Cymreig ymhell ar 61 y tro hwn. Yr oeddem wedi cael prawf mewn Eistedd- fodau blaenorol o allu rai corau Seisnig, a'u bod yn barod i gystadlu a ni ar ein tir ein hunain, ond dyma'r tro cyntaf, hyd y gwyddom, iddynt ein gadael ymhell ar 61. Yr oedd eu Ilwyddiant yn glod mawr iddynt; a dichon y bydd yn wers a gofir gan ein corau blaenaf yng Nghymru, i ddarparu yn helaeth i gyfar- fod a'r Saeson yn y dyfodol. Fod genym gystal defnyddiau a hwy sydd ddiymwad. Y mae hyn yn beth y gallwn ymgysuro ynddo. Yn wir, credwn fod ein defnyddiau yn fwy cyffredinol na'r eiddynt hwy; end y drwg yw ein bod wedi ymfoddloni gormod ar ein henw o fod yn Genedl Gerddorol, gan feddwl y byddai hyny yn rhyw fath o fwgan brain i'n cymydogion! Yr ydym wedi cael prawf bellach y gwyr y Sais lie mae'n gwendid, a gwyddom iddo ofalu am fod yn gryf yn y man hwnw-sef mewn ymddarpariad. Hyderwn na fydd i Rhymney, Dowlais a Merthyr oddef i'n anrhydedd cerddoro! gael ei ddwyn oddi- arnom y flwyddyn nesaf. Ymhlith y pymtheg Cor Meibion, ceir enwau y rhai Cymreig canlynol: Caerdydd, Porth a Cymmer, Llanrwst a Threfriw, Am- lwch, Ffestiniog, Garw, Glan Nedd, Llanelli, Port Talbot, Llanberis-mwy na haner y nifer o gorau yn rhai Cymreig, ac yn eu plith rai o oreuon ein gwlad. Eto, cor Seisnig (o Man- ceinion) aeth a'r wobr. Mae'n debyg na dderbyniwyd y dyfarniad hwn gyda'r un bodd- had cyffredinol ag y wnaed yn y gystadleu- aeth i leisiau cymysg, ond ni raid am hyny amheu cywirdeb y dyfarniad. Yn yr adran unawdol, daeth ein cantorion allan o'r prawfion gydag anrhydedd-yr hyn a ddengys (fel y dywedasom) ein bod yn meddu y defnyddiau. Yn yr adran offerynol, yr ydym o hyd ar 61. Dywedai Mr. Miller ei fod wedi ei siomi yn hyn, a ninnau yn ymwneyd cymaint a cherddoriaeth. Credwn mai ar yr Eisteddfod ei hun y mae y bai am hyn, canys dylid rhoddi mwy a gwell cymhellion i'r offerynwyr -hyd yn n6d pe gorfodid tynu ychydig oddi- wrth wobrwyon y cantorion. Y mae'r eiddynt hwy yn rhy fawr o ddim rheswm, fel y cyd- nebydd rhai mwy abl i farnu na ni. Llawen genym weled fod y wobr yn yr ail gystadleuaeth gorawl wedi ei henill gan gor y Waunfawr (ger Caernarfon). Ardal enwog ydyw yr un fynyddig hon am ei chorau campus. EISTEDDFOD BOXING DAY. Cynhelir hon, fel arfer, yn Neuadd Drefol Shoreditch, ac an- fonodd yr Ysgrifenydd, Mr. J. O. Davies, y rhaglen ini. Let the Hills resound ydyw y prif ddernyn corawl, a chynygir deg gini o wobr am y dadganiad goreu!—os bydd tri chor yn cystadlu. I Barti Cymysg: "Y Cyfiawn a drig yn y Nef." I Barti Meibion, o wyth Myfanwy." Pedwarawd Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Carem ddyweyd ychydig ar y dewisiad o rai o'r darnau hyn i gystadleuaeth; ond yr hyn a fentrwn ei awgrymu ydyw y dymunoldeb o ymgynghori a'r beirniad dewisedig parthed dewisiad darnau. Y mae hyn yn beth y j byddai yn werth i bwyllgorau yn gyffredinol j ei wneyd. Am yr unawdau yn y rhestr hon, y mae'nt j yn rhai da, a diweddar. I' Y beirniad cerddorol fydd Mr. J. T. Rees.

Y NOSON HONO.

HYN A'R LLALL.

Advertising