Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Bra A'R BETTWS,

News
Cite
Share

Y Bra A'R BETTWS, M. Pelletan yw Chamberlain Ffrainc. Ystyr yr enw yw pelan tan," ac y mae yn ceisio byw i fyny a'i enw. Mae'r Eglwyswyr ar eu heithaf y dyddiau hyn yn dangos i Gymry y lies mawr a ddaw iddynt drwy fabwysiadu y Mesur Addysg. newydd. V wedd arianol yn unig a glodfor- ant hwy wrth gwrs. Gadewir i egwyddorion fyned dros y trothwy. Er fod tymhor y gwyliau yn tynu tua'r terfyn, y mae amryw o enwogion Seisnig eto yn aros ar ein traethau. Yn Llanengan, ger Pwllheli, y mae Syr Frederick Bridge, or- ganydd Westminster Abbey, yn treulio ei ddyddiau gwyl ar hyn o bryd. Faint o felldithio fu ar yr hen Kruger yn y wlad hon yn ystod y tair blynedd diweddaf ? Ac ni chaiff yr hen wr lonydd eto ? Dywedir yn awr ei fod yn myn'd i briodi merch ifanc o sir Aberteifi fel ail wraig. 'Does neb fel y Cardis wedi'r holl siarad. Nid yw'r tywydd wedi bod yn ffafriol iawn i'r ffermwyr yn ddiweddar, ac y mae llawer o gwyno yn eu plith drwy Gymru y dyddiau hyn. Er fod y cnydiau yn dda y mae Ilawer iawn wedi ei ddistrywio am na chaed tywydd cyfaddas i'w cael o dan do. Bu Syr Charles Dilke yn Abertawe yr wyth- nos hon yn dadleu yn erbyn y Bil Addysg. Ceir clywed rhagor yn ei gylch eto yn ystod y Senedd-dymhor Hydrefol. Mae'r wlad yn lied unfarn yn ei gondemniad ar hyn o bryd. Dywed y Seryddwyr fod seren gyffonog arall wedi ei darganfod ac y gwna ei hym- ddangosiad heb fod yn hir iawn. Bydd yn un o'r rhai mwyaf disglaer a welwyd er's tro meddir. Bydd ei chynffon tua thri chan' miliwn o nlldiroedd o hyd; ond bydd yn ddigon pell rhag blino dim arnom ni yma. Anfonodd Brenhines Roumania neges llon- gyfarchiadol i'r Orsedd yr wythnos ddiweddaf ym Mangor. Y mae Carmen Sylva yn un o'r urdd. Myn rhai prophwydi y cynhelir etholiad gyffredinol yn ystod y gwanwyn nesaf. Prin y credwn hyn am fod swyddi y Weinyddiaeth yn llawer rhy fras i'w gadael ar fyr rybudd. O'r diwedd y mae Arglwydd Penrhyn wedi dangos ei gymeriad yn ei wir oleuni. A fydd ei gefnogwyr yn barod i'w wyngalchu ar ol hyn ? Yr oedd y derbyniad a gafodd Mr. Lloyd George ym Mangor yn wefreiddiol. Nid oedd yr un llywydd agos mor boblogaidd ag efe. Dyma englyn a adroddodd Mr. George ar derfyn ei araeth Tra craig uwch craig fyddo'n crogi-tra Tra cerdd yn Eryri, [can Tra nen heulwen a mor heli, Hen Walia wen anwylwn ni. Un o'r golygfeydd prydferthaf ar lwyfan yr Eisteddfod eleni oedd cor merched yr America. Cawsant dderbyniad croesawus, a chwyfiasant hwythau faneri Americanaidd gyda medr nes gwneyd golygfa swynhudol iawn. Alltud Eifion yw bardd hynaf Cymru ar hyn o bryd. Er yn go rnlwydd oed, aeth i ben y Maen Llog y dydd o'r blaen i adrodd yr englynion a ganlyn :— Ym Mangor ar Agoriad—ein defion A'n difyr gynulliad Heb ryfyg traethaf brofiad 0 hir daith Hen wr o Dad. Yngorsedd a'i hedd bum i-yn cydfod A'r cydfeirdd fath flwyddi O'r hael wyr frodyr 0 fri Wyf yr hynaf o'r rhieni. Glynwn wrth gylch goleuni-y Maen Llog Mewn llwydd gwnawn foddloni, 'E ddylem sylweddoli Swydd a nerth ein Gorsedd ni.