Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PLAID LLAFUR.

News
Cite
Share

PLAID LLAFUR. Ychydig ddyddiau yn ol bu arweinwyr Plaid 'Llafur yn cynal eu Cymanfa fawr flynyddol, ac ar y cyfan cawsant gryn sylw gan y wlad yn gyffredinol. Er hyny rhaid addef mai pwnc amheus yw a ydyw yr Undebau a gyn- rychiolid yno yn enill y safle bwysig a hawlir siddi gan y siaradwyr hyawdl a fu yn ymdrin ar wahanol faterion yn yr wyl. Ni fu adeg erioed pan y gwnaed y fath ymdrechion er Slethu hawliau y gweithiwr ag a wneir ar hyn >0 bryd, a phrin y credwn fod yr arweinwyr yn y gynhadledd hon wedi dangos unrhyw ddawn aia gallu uwchraddol er cyfarfod a'r teimlad gwrthwynebol sydd yn ffynu ym mysg meistri- .aid y wlad yn erbyn yr Undebau hyn. Y rnae'n wir fod y siarad wedi bod yn gadarn, and y mae'r amrywiol farnau sydd yn bodoli afr gwahanol bleidiau sydd yn y rhengoedd yn torawf nad yw achos llafur yn cael ei gynrych- doli yn deg a gonest gan ein harweinwyr proffesedig ar hyn o bryd. Tipyn o gamp yw rhoddi arweiniad doeth a chywir i'r bobl yng ngwahanol gyfyngderau jpwnc llafur. Gwelid yn eglur y tro hwn fod yna wahanol gynghorwyr ar y dull goreu o gario ymlaen y frwydr dros gadarnhau Undebiaeth, ac er mai dyna un o beryglon y dyfodol agos, dylai yr arweinyddion fod yn gadarn ac yn unol ar y cynllun, pa fodd i weithredu fel ag i ddiogelu y gweithwyr mewn pryd. Yr ydym wedi cael rhai arweinwyr jglew yn y blynyddoedd o'r blaen, ac y mae nifer ohonynt wedi dod yn arwyr mewn cym- deithas, ac yn haeddianol felly; ond y perygl yw fod ein blaenoriaid presenol yn fwy awyddus am sicrhau clod, tebyg i'r hyn a iroed i'r arweinyddion gynt yn hytrach na gofalu am egwyddorion sylfaenol iawnder rhwng gweithiwr a meistr. Caed digon o esiamplau fod genym siaradwyr hyawdl, ond nid y siaradwr hyawdl a'r tafod llithrig sydd arnom ni ei angen ar hyn o bryd. Cred pob impyn o ddyn fod hyawdledd yn arwydd o ddylanwad a gallu, ond dylid cofio mai nid John Burns a Mabon yw pob gwr a all sefyll .ar flocyn i draddodi araeth ar bwnc llafur. Yr awyddfryd am fod yn boblogaidd, yn hytrach na bod yn onest a doeth, yw arwydd- air y blaenoriaid presenol. Gwelid hyny yn «glur yn y siarad a gaed ar bwnc y rhyfel diweddar. Yn ystod y tair blynedd diweddaf cafodd arweinyddion Plaid Llafur bob cyfleus- -tra i ddadgan eu condemniad o'r ymgyrch yn Neheudir Affrica, ond ni fanteisiasant ar hyny •o gyfle. Yn hytrach, gwnaethant yr oil a ,allent i hyrwyddo y teimlad o blaid difodi'r Boeriaid. Dyna oedd teimlad mwyafrif y irlad yn ddiau, ac er mwyn bod yn unol a liyny, yn hytrach na rhoddi arweiniad diogel, ceisiasant am boblogrwydd a chlod, a mawr fu eu dylorni ar y genedl a ymladdai am ei hawliau. Ond erbyn hyn, y mae'r rhod wedi troi, ac y mae wedi dod yn beth poblogaidd i waeddi hwre ar ol cadfridogion y Transvaal, a chwyno am y trethoedd, ac wele, y mae'n rhaid i arweinyddion y gweithiwr gyduno a'r floedd a chyhoeddi bsllach mai camwri oedd y rhyfel, ac mai gelynion plaid llafur oedd y rhai a'u trethant yn awr. Yr ydym yn addef yn onest nad oes genym ffydd mswn arwein- iad o'r fath a hyderwn mai dyna'r esiampl olaf o chwareu'r ffon ddwybig ynglyn a rhyddid pobl Prydain a Phlaid Llafur.

Advertising

Bwrdd y * Geit* *