Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN.

I'R CYMRO GWLADGAROL A DYN-GAROL,…

News
Cite
Share

I'R CYMRO GWLADGAROL A DYN- GAROL, MR. PRITCHARD JONES, REGENT STREET. Ar ol darllen yr hanes, yn ein rhifyn di- weddaf, am y rhoddion haelionus gan Mr. Pritchard Jones, Regent Street, i'w bentref genedigol, Niwbwrch, Mon, dyma fel y torodd awen yr hen fardd Cwcwll allan mewn clod i'r boneddwr caredig :— Fy Ngwlad "—Ha dyna air sy'n taflu t6n 0 hoff ddychlamiad drwy y dyner fron. Yn hon y mae y gysegredig fan— Y gronglwyd lle'r anadlodd gynta'n wan, A'r aelwyd lan, lie dysgodd gynta 'rioed Barablu mam," a cherdded wrth ei throed. Ei lygaid leinw wrth adgofio'n llu, Chwareuon mpbyd, a chyfeillion cu. Pa ryfedd fod ei fron yn chwyddo'n awr, A gwreiddlau'i serch yn clymu am ei chlawr. Dy hanes mad Ynys Mon—a chwyfia Uwchafiaeth dy feibion; Gwladgarwch, hyfrydwch dy fron, Fyth egyr dy gyfoethogion. Gwladgarwch o glod gorau-dyngarwch Dan goron o ffafrau, [rhoddion Rhad gan Prisiad drwy'r pur oesau- I'r Monwyson yn fawr gymwynasau. Dyngarwch o dan goron-o flodau'n Felodus fendithion; Yn barod mae syndod a son—yn gwau, Am yr adeiladau mawr i d'lodion. Swynion hen ger y Fenai—yn Niwbwrch Fro mebyd anwylai; Llun ei thref ei llanw a'i thrai, Yn ei frodir ymhyfrydfti. Cynlluniodd, bwriadodd briodol-dai Fo'n deg ac iachusol, Yn anrheg ddi-freg ddi-frol,- Digon i bawb cym'dogol. O'i gyllid daw llyfrgelloedd-a gwelir Ysgolion i'r bobloedd, A'r plant segurant ar goedd-symudant 0 wres eu nwyfiant i ddrws y nefoedd. CwCWDLk.

Bwrdd y * Geit* *