Hide Articles List

3 articles on this Page

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN.

News
Cite
Share

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] IV. Y METHODISTIAID. Sylwadau a wnaed yn 1889 ar eu Sefyllfa. Y cenhadwr cyntaf yn ein plith oedd Mr. David Williams (Tre Madog wedi hyny), ac wedi ei ymadawiad ef daeth Mr. Arthur Rowlands, yr hwn hefyd oedd yn flaenor yn Wilton Square, ac yn olaf Mr. Edward Jenkins a ddaeth yma fel pregethwr o'r Amwythig. Gresyn ein bod wedi gorfod rhoddi y genhadaeth i fyny; dylasem ar bob cyfrif ei hail gychwyn, er edrych ar ol, yn benaf, y Canghenau Ysgolion. Pan y bydd amgylchiadau yn gofyn am gynorthwy y Gymanfa er gwerthu capelydd, &c., yr arferiad yw myned i'r gymanfa gyntaf -bydded De neu Ogledd. Ar adegau o'r fath y mae cynrychiolwyr yn cael eu henwi. Ar y cyfan, nid ydynt yn gweithredu ond ar y neges benodol yr anfonwyd hwynt o'i blegid. Y mae cynrychiolwyr er y dechreu wedi eu danfon i'r Gymanfa Gyffredinol, ond nid yw yr un o honynt wedi cymeryd rhan flaen- llaw ynddynt, oherwydd nad ydynt (fel y dywedodd Mr. Ryle Davies) ar un o'r pwyllgorau arhosol (standing com- mittees), megis Pwyllgor y Genhadaeth, Pwyll- gor Llyfrau, &c., pa rai sydd yn cael eu henwi gan gymanfa de a gogledd; ac am nad ydym yn perthyn i'r un o honynt, y mae ein cynrychiolwyr yn cael eu cau allan. Nid yw ein gweinidogion, oherwydd hyn, yn cael unrhyw ran yng ngweithrediadau pwysicaf y Cyfundeb: yn cael eu cau allan yn hollol o seneddau anrhydeddusaf y Corph. A meidd- iaf ddyweyd, a'u cymeryd gyda'u gilydd, na cheir yn unrhyw Gyfarfod Misol (de neu og- ledd) nifer o weinidogion mor alluog a hwynt, a llanwent unrhyw swydd o eiddo y Cyfundeb yn anrhydeddus. Hefyd, nid ydym-fel y mae yn bresenol, yr oil o honom yn weinidogion, swyddogion ac aelodau-yn cael dim llais yn y pynciau sydd yn creu dyddordeb trwy yr holl Gyfun- deb, megis uniad y ddwy athrofa, a'r llyfrfa. Pa Gyfarfod Misol, neu eglwysi, sydd yn dangos mwy o ddyddordeb yng nghaniadaeth y cysegr na'r eiddo Llundain. Mae'r hen frodyr, lawer o honynt, yn ofni y symudiad o uniad a'r unrhyw gymdeithasfa rhagofn i'r hen deimlad talaethol deheu a gogledd ddyfod i fewn a'u blino yr ail waith. Mae yn dda genyf feddwl nad ydym ni yn Llundain yn cael ein blino felly, ac nid oes arnaf ofn y cyfyd chwaith, oherwydd mae y teimlad deheu a gogledd wedi cilio bron trwy holl Gymru. Wrth ymuno byddwn mewn mwy o gydymdeimlad a chydgordiad a'r Cyfundeb yng Nghymru, a thrwy hyny yn well Meth- odistiaid: yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn hanes y Corph; fel yr ydym, mae gormod o'r ysbryd anibynol ynom, a rhy fach o gydym- deimlad a'n gilydd. Credaf y buasai y fath symudiad yn fantais a lies i ni. Y mae rhai yn dyweyd y byddem o dan rwymau i gasglu yn fwy. Yr wyf yn amheu hyny, oherwydd iel y mae yn awr, y mae deheu a gogledd yn anfon yn fynych atom i gasglu at rhyw amcan neu gilydd. Os fel arall, un, ac nid dwy dalaeth, fyddai yn anfon atom. Y mae genym Undeb Ysgol Sabothol tra rhagorol, pa un sydd yn gwylied achosion yr holl ysgolion, yn arbenig y canghenau yn gofalu am y plant, yn enwedig gyda'r cynllun o ddysgu yr iaith Gymraeg; ac nid yw y llafur yn ofer. Mae achos dirwestol wedi bod yma er dechreuad dirwest. Sefydlwyd y cyntaf yn Jewin Crescent yn 1837. Erbyn hyn y mae gan y Temlwyr Da achosion, os nad wyf yn camgymeryd, mewn cysylltiad a phob capel, y rhai sydd yn offerynol i gadw'r ieuainc gyda'u gilydd rhag myned i oferedd. Amcanwyd sefydlu achos Saesneg, ond hyd yn hyn y mae wedi bod yn aflwyddianus. Y mae gwaith mawr eto yn ein baros yn y dyfodol. Y mae lluaws o Gymry heb fyn- ychu lleoedd o addoliad, nid yn gymaint oherwydd anghrefyddoldeb, ond oherwydd eu hymlyniad wrth iaith eu rram, a dull eu tadau o addoli. Credaf os sefydlir achosion Cym- reig Methodistaidd ymhob parth o'r ddinas, y ceir eglwysi a chynulleidfaoedd iddynt. Dy- lasai capelau fod wedi eu hadeiladu yn Pim- lico a Camden Town er's blynyddoedd, Yr ydym trwy ein hesgeulusdra anarferol wedi colli Chelsea. Y mae yr Anibynwyr wedi cael y blaen arnom, ac y mae ganddynt achos cryf yn Radnor Street y rhan fwyaf o'r aelodau oeddynt yn Fethodistiaid, a Method- istiaid o Gymru, yn ymuno a hwynt beunydd am fod capel yr Hen Gorff ymhell oddiwrthynt. Mae lluaws o Gymru yn Tottenham, a buasai yn hawdd cael achos cryf yno. Y mae llu mawr o Gymry yn Battersea a Kennington heb unrhyw gapel Cymraeg ar eu cyfer. Awn a meddianwn y wlad, "A gwnawn ein goreu er lies ein cydwladwyr, er an- rhydedd i'n Cyfundeb, ac er gogoniant i'n Duw a'n Harglwydd lesu Grist." Wrth edrych yn ol ar ein hanes, nis gallwn ddyweyd ein bod wedi ein cynhyrfu ag ysbryd nerthol y diwygiadau ag oedd yn fynych trwy holl Gymru. Mae traddodiad fod gorfoleddu a molianu yn yr hen gapel yn Wilderness Row. Ni chawsom, fel yng Nghymru, adeg pan y byddai llnaws yn gofyn am le yn Nhy yr Arglwydd, eto, yr ydym yn cael lluaws mawr o ddychweledigion ag sydd yn troi allan yn grefyddwyr o'r fath oreu, yn, ac wedi gwneuthur gwaith mawr ac amlwg yn ein plith. Yr ydym yn foddion amlwg i gadw miloedd o'n cyd-Gymry rhag myned ar golh Y weinidogaeth yn cael effaith dymunol ac arhosol. Yr ydym yn credu "Nad yw ein llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Cerdd ymlaen nefol dan Cyrner yma feddiant glan." [Gwnaed y sylwadau blaenorol yn 1889 gan yr awdwr, ac y mae yn ddyddorol sylwi ar y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lie oddiar eu hysgrifenwyd. Yn ein rhifynau dyfodol, bwriadwn sylwi ar y gwahanol eglwysi sydd gan y Cyfundeb yn Llundain ar ddechreu yr ugeinfed ganrif.—GOL.]

I'R CYMRO GWLADGAROL A DYN-GAROL,…

Bwrdd y * Geit* *