Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CERDDORIAETH CYMRU.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

News
Cite
Share

"North Staffordshire; 6, Barry; 7, Manaw; 8, Blaenau Festiniog; 9, Blackpool. Dech- reuwyd yn brydlon ar y canu am un o'r gloch, a buwyd wrthi am oriau yn ymgodymu a'r tri darn, ac ar y cyfan caed canu lied foddhaus. Beirniadwyd gan Dr. Rogers, Mr. Emlyn Evans, Dr. Coward, Lieut. Miller a Dr. Parry. Ar y diwedd dyfarnwyd cor North Stafford- shire, o dan arweiniad Mr. J. W. Whewall, yn oreu. TRI CHOR SEISNIG AR Y BLAEN. Cor Gogledd Stafford oedd y buddugol, sef yr un cor a'r flwyddyn ddiweddaf. Yn dj-n wrth eu sawd! yr oedd cor Blackpool, ac yna yn agos iddynt hwythau yr oedd cor y Potteries. Am y corau Cymreig, rhaid addef mai gwan oeddent, ac yn llai gwrteithiedig na'r buddugwyr. YR AIL DDYDD. Ar ol i'r corau mawr wneyd eu hymddang- ,osiad, nid oedd disgwyl y buasai y torfeydd mor lluosog yn ystod dyddiau dilynol yr Wyl. Felly hefyd y bu, ac yr oedd yr ymwelwyr yn llai lluosog ar yr ail ddydd ar waethaf yr atdyniad ynglyn a chorau y meibion. Yr oedd nifer fawr o gystadleuaethau a dyfarniadau yngiyn a Chymdeithas y Diwyd- ianau Cymreig i'w rhoddi yn ystod y boreu, a chystadleuwyr lleol, ran amlaf, a wobrwywyd. Codwyd hwyl yn gynar yn y cyfarfod gan Mr. Emlyn Davies a'i gan Eisteddfodol, a dylid canrnol y cantorion Cymreig hyn am eu -dewisiad o ddarnau addas i'r Wyl. Er cym- aint bri y caneuon Eidalaidd a Ffrengig, nid yw cynulliadau gwerin Cymru eto wedi codi yn ddigon uchel t'w mwynhau, neu yn hytrach y maent yn rhy onest i ddyweyd eu bod yn eu mwynhau, fel y gwna y cynulliadau haner- Seisnig mewn cyngherddau yn ein trefi mawr- ion. Ymhlith yr ymgeiswyr am y dydd, fel y canlyn oedd y buddugwyr. Am yr unawd tenor aeth y pres a'r clod i Mr. Harry Lewis, Nelson; a'r unawd bass i Mr. David Davies, Pontypridd-y ddau o fro Morganwg, ac yr oedd yn eglur wrth y derbyniad a gawsant fod boys bach y Sowth yn cael cefnogaeth -fawr gan y gynulleidfa. Am y ddeuawd i rdenor a bass, cipiodd Gutyn Eifion a Brothen yr anrhydedd. Am ysgrifenu haes plwyf cafodd Mr. Morris, Casnewydd, wobr o bym- theg punt, ac am y cantata gwobrwywyd Mr. J. Haydn Morris o'r America-Cymro ieuanc sydd eisoes wedi enill enw iddo ei hun yn ein gwyl flynyddol. Ond y gystadleuaeth boblogaidd am y dydd oedd yr ornest cydrhwng y corau meibion, ac ymddangosodd pymtheg ar y llwyfan; a chan y cymerid cryn amser i fyned trwy y ddau ddarn, gall y darllenydd amgyffred meithder y gystadleuaeth hon. Os cynydda ein corau fel hyn, bydd raid dyfeisio math o gyfarfod i chwynu y nifer, yn sicr. Canodd y partion yn wir dda i gyd, ac ar del fyn y dydd rhoddwyd y flaenoriaeth i gor Manceinion. Yn ystod yr hwyr caed cyngherdd yn yr hwn y rhoddwyd perfformiad o'r The Golden Legend' gan gor yr Eisteddfod, o dan ar- weiniad Dr. Rogers, yn cael eu cynorthwyo gan nifer o unawdwyr enwog. COFFA LLEW LLWYFO. Eisteddfodwr mwyaf y ganrif o'r blaen oedd Llew Llwyfo. Erbyn hyn, y mae ei weddillion er's tro yng nghladdfa gyhoeddus Caernarfon. Gorphenodd ei yrfa yn ddyn tylawd, a 'doedd dim ond y twmpath gwyrdd- las a godai ei ben i ddangos man fechan ei fedd. Priodol felly, oedd dewis adeg Uchel Wyl y Cymry i harddu ychydig ar ei orwedd- fan, yr hyn a wnaed ddydd Llun diweddaf yng Nghaernarfon trwy ddad-orchuddio cof- golofn hardd ar y fan ac ireiddio y lie gyda chydnabyddiaeth cenedl gyfan am y gwaith I da gyflawnodd ar ran llenyddiaeth ei wlad. Yr oedd pwyllgor o dan lywyddiaeth Gwyneddon wedi apelio at y cyhoedd a chasglu digon o arian i godi mynor hardd ar y bedd, a llywyddwyd y gweithrediadau dydd Llun gan y lienor a'r bardd hwnw. Dywedai Gwyneddon ei fod yn un o gyfeillion boreu oes y Llew," ac yn un o'r blaid fechan a elwid y Gomeryddion ym Mangor. Yr oedd yn dda ganddo fod colofn wedi ei chyfodi yno, yr hyn a brofai fod y genedl yn cofio ei ddaioni tra yn anwybyddu ei luaws ffaeleddau. Pawb a genfydd o bydd bai A bawddyn lie ni byddai." Yr ysgrifenydd, Mr. M. T. Moris, a rodd- odd adroddiad arianol o'r gronfa ac o'r hyn a gasglwyd er cynorthwyo yr hen u Lew yn ei hen ddyddiau. Yn ddilynol, dadorchuddiwyd y golofn gan Miss Edith Morris, B.A., un o raddedigion cyntaf o'r Ysgolion Canolraddol Cymreig. Ar y beddfaen mae'r ysgrif hon:- Teyrnged Car a Chyfaill i Llew Llwyfo." Ganwyd, Mawrth 31, 1831. Bu farw, Mawrth 28, 1901. Ac yna, yn canlyn, yr Hir a Thoddaid budd- ugol o eiddo Berw, yr hwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi. Ar ol hyn, caed anerchiadau barddonol gan Alafon, loan Eifion ac Isgaer a gahvyd ar Watcyn Wyn i roddi ei adgofion o'r hen fardd. Dywedai eu bod hwy yn dra gwa- hanol i'r Rhufeinwyr gynt. Nid i gladdu Cesar y daethant, ond i'w fywhau eto yng nghoffa y bobl. Yr oedd ganddo adgofion melus am y Llew" oddiar y flwyddyn 1858, a chredai nad oedd neb o'r do o'r blaen wedi gwneyd cymaint ag efe dros greu ysbrydiaeth newydd yng Nghyrnru Fydd. Adgofiai am dano yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867, lle'r oedd y rhaglen mor Seisnigaidd bron a'r hon a geir ym Mangor eleni, ond torodd y Llew' drwy y gweithrediadau gan greu brwdfrydedd Cymreig anghyffredin. Credai mai dyma'r desgrifiad goreu a ellid roddi o hono:— GWAITH Y LLEW." Cymro i ganu caneuon ei wlad I gadw yn fyw iaith ei fam a'i dad, Cantwr o Gymro ar noson laith I dwymo y lie a than yr hen iaith Cymro wnai ganu am geiliog a giar Nes dotio llond pabell o wyr sir Gar. Cymro heb fyned yn sych nag yn sur Yn gwneyd pobpeth a wnai fel Cymro pur Cymro nad ydoedd yn ofni y gwaith 0 dori ar brogram y Sais ambell waith Cymro yn gallu rhoi ambell i gan I godi'r hen hwyl a chyneu'r hen dan; Dyna'r gwasanaeth gyflawnodd y "Llew "— Colled oedd colli Cymro mor lew. Cyfeiriodd Dr. Parry at dylodi y Llew yn ei henaint, a dywedai nad oedd eisieu i'w gydgenedl wrido am hyny, oherwydd yr oedd tylodi a thalent yn ami yn cydfyned. Gwelid hyny yn amlwg yn hanes ein prif gerddorion. Pan fu farw Mozart yr oedd mor dylawd fel y bu raid ei gladdu yng nghladdfa'r tylodion, a bu raid i dreuliau claddedigaeth Schubert gael eu talu drwy werthu rhan o'i ddodrefn a'i ddillad, a thebyg oedd cyflwr Beethoven i gyflwr ein Llew ninau. Anghofid yn fuan ei wendidau, ond byddai ei waith a'i lenydd- iaeth fyw tra bo'r iaith. Yna caed ychydig sylwadau gan Glan Menai a Chadfan, a dygwyd y gweithred- iadau i derfyn trwy i Miss Lizzie Teify Davies arwain y dorf i ganu 0 Fryniau Caer- salem." MANION EISTEDDFODOL. Yr araeth lywyddol gyntaf yn yr Eisteddfod oedd eiddo Arglwydd Kenyon. a thair mynud o amser a gymerodd at y gorchwyl. Yr oedd I yn fyr a blasus-dim ond dymuno llwydd i'r I. Eisteddfod a'i chenadwri. Priodol yr aw- grymodd Llew Tegid ar y diwedd, Yrydym yn myn'd i gael rhagor o areithiau llywyddol," a chydag awgrym ni ddywedaf ddim yn rhagor." Ni chymerodd y gweddill yr hint er hyny. „ Y tri arweinydd eleni oeddent Mabon, Gwynedd a Llew Tegid. Mae digon o barabl gan y Llew, a'i lais yn glir a chlywadwy ym mhob congl o'r ystafell, a chydag ymarferiad daw yn feistr ar gynulleidfaoedd mawrion fel y rhai hyn. Rhaid fod ardal Llandegai yn hynod o gyfoethog mewn blodau, oherwydd o'r lie hwnw y daeth agos i'r oil o'r enillwyr am y casgliadau goreu o flodau a phrydferthion natur. Mae eisieu Eos Dar i fyned i'r Gogledd i ganu penillion, Nid oes ond ychydig yn ymarfer a'r gelf hono yn ardaloedd y chwar- eli ar hyn o bryd. A aiff yr hen arfer allan o'r wlad yn gyfangwbl tybed ? Anfonodd naw o gorau eu henwau i fewn i'r brif gystadleuaeth, ac ymddangosasant oil ar y llwyfan. Mor wahanol oedd y parti pedwarawd. Anfonodd 27 o bartion eu henwau i fewn, ond ni ddaeth ond tri i'r rhag- brawf, a chwynwyd hwy i lawr i ddau i ym- ddang-os yn gyhoeddus, a chystadleuaeth sal a gafwyd ar ol hyny. Yr oedd cynulliad Cymreig yn y babell ddydd Llun, a gwnaethant i Emlyn Evans roddi ei feirniadaeth yn yr iaith hono. Gwers haeddianol i feirniaid y gan. z;1 Gwaith anhawdd yw chwynu yr unawdwyr o tua haner cant i lawr i ddau neu dri. Dyma rai o'r nifer a anfonasant eu henwau i fewn. Unawd soprano, 59; tenor, 60 bass, 55; mezzo soprano, 65. Ond, fel y sylwai Emlyn Evans, nid yw haner yr ymgeiswyr yn deil- wng o ymddangos ar lwyfan yr Wyl Genedl- aethol.