Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

IECHYD CYMRU.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. CYNULLIAD POBLOGAIDD YM MANGOR. GWYL 0 GANU A SIARAD. Y BEIRDD YN DDISTAW. Y CORAU SEISNIG AR Y BLAEN. Ym Mangor, ar Ian y Fenai, y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol y Cymry yr wythnos hon, a chaed gwenau haul a chefnogaeth gwlad i wneyd yr Wyl yn llwyddiant, ym- ddangosiadol beth bynag. Yn gynar foreu Llun, daeth y bobloedd i'r lie; ac yn ystod y prydnawn, caed amryw o gyfarfyddiadau croesawu, ac yr oedd yn amlwg ar y cychwyn fod yno awydd mawr ar ran pobl y dref i wneyd yr wyl yn llwyddiant. Cafodd cyn- rychiolwyr Manaw a Llydaw a'r Alban ac ereill gyfarfyddiad yn neuadd y Coleg, a derbyniwyd hwy gan Faer y dref; a gwnaeth yr un gwr ei waith yn rhagorol dranoeth trwy flaenori y dorf i gylch yr Orsedd. Mewn pabell eang ym Mharc yr Esgob y cynhaliwyd yr Eisteddfod, tra ar faes agored gerllaw gorsaf y rheilffordd y cynhaliwyd gweithrediadau yr Orsedd, a chlywid swn yr hirlas hen ar yr ail i chwibaniad y peir- iant tan ar foreu yr Wyl, ac yr oedd y cyfarfyddiad yn un hynod o eithriadol. Ar fron las o dir yng ngwyneb haul y boreu yr oedd y cylch barddol ac, ar y cyfan, yr oedd mewn man tra manteisiol i bawb ei weled. Am babell yr Eisteddfod, rhaid dyweyd ei bod yn un hynod o gyfaddas ac wedi ei threfnu yn rhagorol. 0 gylch y llwyfan yr oedd darluniau nifer o enwogion y genedl; ond rhaid addef fod angen, bellach, am ddar- luniau celfydd o'n pobl enwog. Y mae'r hyn sydd genym ar hyn o bryd yn fwy addas i'w defnyddio fel almanaciau groceriaid nac add- urniadau i Wyl genedlaethol fel hon. Yr oedd enwau nifer o feirdd ymadawedig o gylch y babell, ac er fod yr arwyddeiriau cenedlaethol yn Gymraeg yr oedd smoking strictly prohibited yn eglur ar bob congl o'r parwydydd yr hyn a draethai yn eglur fod yn rhaid i addolwyr y cetyn fod yn llwyrymwrth- odwyr am y dydd. DYDD MAWRTH. Dylifai y torfeydd i'r dref wrth y canoedd foreu cyntaf yr Wyl, a daeth trens rhad o bob parth gan arllwys eu cynwys yng ngorsaf y dref a gellid clywed tafodiaith o barthau Ceredigion, Morganwg, Dinbych a Phenfro yn cydwau ar heolydd y dref. YR ORSEDD. I' Nid oes dim ond Cymraeg i gael ei ddefn- yddio yn yr Orsedd." Dyna orchymyn olaf y rhaglen; a phan agorwyd yr Orsedd foreu dydd Mawrth, yr oedd yr haul yn tywynu mor rhagorol fel nas gallesid siarad mewn un iaith arall debygem ond er mai Cymraeg a gaed gan y Beirdd eu hunain, yr oedd digon, a gormod hefyd, o Saesneg i'w glywed o gylch y lie. Ymwelwyr oeddent, ni a obeithiwn, ac nid eisteddfodwyr Ileol yn prysuro tua'r Wyl. Yn yr Orsedd yr oedd Hwfa Mon yn arwain fel cynt, a llawenydd i'r canoedd ydoedd ei weled mor dda ar ol ei waeledd blin. Ed- rychai mor urddasol ag erioed, a chyda'i lais peraidd a adseiniai o fryniau Bangor, gofynai A oes heddwch ?" Atebwyd ef fod hedd- wch yn bodoli ac y gallai osod y cledd yn y wain. Wrth weled yr Archdderwydd mor hoyw a chadarn, dyma fel y canodd Trebor Aled :— HWFA HON. Addfedu'n eisteddfodol-wna Hwfa Mewn afiaeth ddymunol Gwladgar wres ei gynes gol Da.nia'n fwy byw a denol. Yma mae er gwae a gwg-ein Hwfa Yn hafaidd ei olwg. Ond gwyliwch mellt ei gilwg Am sobri trem ysbryd drwg Yn yr Orsedd caed canu penillion ac alaw ar y delyn; a phan alwyd ar y beirdd i ganu eu hanerchiadau daeth torf ymlaen. Yn eu mysg gwelsom Watcyn Wyn mor lion ag erioed, a Chadfan yn urddasol a'r goron ar ei ben; hefyd Wnion, Trebor Aled, Gwylfa a Crwys. Dyma rai o honynt:— EISTEDDFOD BANGOR. Bangor yw'r ddinas oreu-hen ddinas Ddenol y colegau, [hau 11 L Heddyw mewn hwyl hawdd yw mwyu- Haf ddinas y prif ddoniau. Lie anwyl i bob llenor-haeddianol Ddinas bardd a cherddor Bydd i'n gwlad tra caniad cor Feib hengall yn nhref Bangor. Noswyliodd ein Hisalaw-a Herber O'i fawrbareh sy'n ddistaw Mewn Heddwch a llwch gerllaw Ein hanwyl rai sy'n hunaw. Yr awel fwyn chwareua-a'r adar Hudol bynciant goffa Ein henwogion dewrion, da, Glewion, haeddol, Glan Adda.Trebor Aled. AGOR YR EISTEDDFOD. Erbyn adeg dechreu yr Wyl yr oedd y babell yn llanw yn gyflym, a phan egynodd Llew Tegid-yr arweinydd am y dydd—i'r llwyfan a galw am y seindorf bres i agor y gwaith, gwnaethant hyny mor fyddarol nes lladd pob rhithyn o awen oedd yng ngweddill gan y Beirdd, oherwydd pan ddaeth eu tra hwy i draethu eu lien, nid oedd yr un yn bresenol. Pa ryfedd, wedi'r holl erlid a gaw- sant oddiar law y pwyllgor Ac. er codi hwyl galwyd ar Madog Davies i roddi can, ac yr oedd y cantor o'r Tabernacl, Llundain, mewn; llais rhagorol, a chanodd Glyndwr o waith Dr. Parry. Yn ystod y boreu caed nifer o wobrau am wau hosanau a chasglu blodau a hollti llechi a'r cyffelyb, a gwobrwywyd nifer o ymgeis- wyr lleol. Dyma un o wendidau yr Wyl, yn ddiau, ei hagwedd leol. Cystadleuaethau oeddent yn fwy nodweddiadol o gyfarfod llen- yddol Ileol yn hytrach na Gwyl fawr y Cymry. Y prif waith llenyddol am y dydd oedd traethawd Cymraeg ar Huw Morus a'i weithiau," am y goreu cynygid gwobr o 25pt a bu raid rhanu yr arian rhwng T. R. Rob- erts (Asaph), Caernarfon, a'r Parch. D. D. Williams, Groesoswallt. Am gyfieithu rhodd- wyd gwobr i Mr. G. R. Hughes, ysgolfeistr Bethel. Yr unig ddarnau barddonol oedd cywydd i afon Menai, a'r enillydd ydoedd Elfyn, a Flaenau Festiniog; ac am gadwen o englyn- ion i'r Ardd rhanwyd y wobr yn ddwy i Eifion Wyn, Porthrnadog, am ddau gyfan- soddiad o'i eiddo, a gellir casglu eu bod yn dda gan fod pymtheg ereill yn y gystad- leuaeth. Yn yr adran gerddorol enillodd Miss Maud Watkins o Pontypool, un o ferched y Royal Ladies' Choir; ac yr oedd y gystadleuaeth yn dda dros ben. Aeth Mr. John Bryan, Efail Isaf, Morganwg a'r gamp am ganu'r delyn; a hogyn bychan o'r enw Percy Hughes, Aberdaron, am chwareu'r berdonegf a pharti o St. Helens am ganu pedwarawd. Y BRIF GYSTADLEUAETH. Dyma un o brif atdyniadau yr Wyl. Yr oedd gwobr o isop wedi ei chynyg am ydad- ganiad goreu o dri o ddarnau anhawdd, sef, (a.) Come let us sing (Mendelssohn), (b) "I wrestle and pray" (Bach), (c) It The Storm (Roland Rogers). Rhif y corau i fod rhwng 130 a 150 o leisiau, ac anfonodd y rhai canlynol eu henwau i fewn i, Amwythig; 2, Potteries; 3, Caergybi 4, Huddersfield; S,