Hide Articles List

2 articles on this Page

IECHYD CYMRU.

News
Cite
Share

IECHYD CYMRU. Gwyl o ganu a gwaeddi yw Eisteddfod y Cymry, fel rheol, a dyna a fu nodwedd ei phrif gyfarfodydd yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Er hyny, caed cyfarfod bychan y noson flaenorol i'r Wyl a haedda lawer mwy o sylw ac ystyriaeth nag a gafodd ar y noson ei cynhaliwyd. Nid can a lien oedd y mater a ymdrinid ynddo, nac ychwaith gelf na hanes, eithr yr hyn sydd yn ymwneyd a iechyd y Cymro. Gellir ei alw yn gwrdd iechyd, a sicr yw, o ran pwysigrwydd, mai hwn ddylasai fod yn gwrdd mawr y genedl. < # # Nid oes wiw celu y {faith, y mae cyflwr iechydol y Cymro yn hynod o wael, Esgeul- usir pob moddion at ddiwylliant a chynydd, ac anwybyddir pob darganfyddiad newydd ar draul cadw yn fyw hen ragfarnau a hen ddaliadau gwerinaidd ond hyderwn fod gwawr newydd ar dori, a gwell dyfodol i'r Eisteddfod ar ol hyn, yn enwedig pan y mae yn myned allan o'i ffordd arferol a thrin ar fater mor anghynefin. i'w rhaglen a iechyd dyddiol ei phobl. Nid yw y mater, er hyny, yn beth a ddylai fod o'r tuallan i waith yr Eisteddfod, gan ei bod yn beth llawn mor bwysig i ddadblygu iechyd y genedl ag yw i ddadblygu ei raoes a'i thalentau addysxiadol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas y Cyrnmrodoria nos Lun di- j weddaf, caed dechreuad penigamp i'r pwnc o wella iechyd y genedl. Siaradai Dr. Fraser ar y cynydd mawr a welid yn nifer y rhai oeddent yn dioddef oddiwrth y darfodedig- aeth, ond nid oedd yn awgrymu unrhyw gyn- llun newydd at ddifodi eangiad yr anhwyldeb. Yr un modd yr oedd Dr. Jones, a chredai ef mai ymysg glowyr Mynwy oedd yr anhwyl- deb fwyaf, ac oddiwrth hyny, casglai mai'r Hwch a'r lleithder yn y glofeydd oedd gyfrifol am y cyfan. Ond credwn i Dr. D. L. Thomas o Stepney daro'r hoelen ar ei chlopa pan gyfeiriodd ei fys at y dull gwael oedd genym o adeiladu tai, a'r hofelau afiach oedd yn britho ein gwlad o dan yr enwau o dai. Y mae y mater hwn wedi ei esgeluso yn rhy hir o lawer, a da genym weled o'r diwedd fod meddygon o safle a phrofiad Dr. Thomas yn cydnabod y ffaith ddifrifol hon-fod mwy o bersonau yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth yng Ngheredigion nag' yn slums gwaethaf lleoedd poblog fel Whitechapel, Llunain. Y mae yn resynus rneddwl fod tref wledig fel Aber- tefi a nifer ei meirw, ar gyfartaledd, yn uwch na threfi poblog- Lloegr a'r rheswm am hyny yn ddiau, yw, fod y tai a drigir ynddynt yn llawn o elfenau afiach, ac wedi eu cynllunio i fod yn fagwrfa i bob amhuredd ac afiechyd yn hytrach na bod yn fagwrfa iechyd a nerth. Rhaid i ni edrych yn ddifrifol i'r mater hwn. Y mae'r Eisteddfod wedi tori tir newydd, ac yn sicr y mae parhad y genedl yn fwy o bwys iddi na pharhad ei hanes a'i chelf, a'r unig ffordd i gadw y bobl i fyned ar gynydd yw drwy sicrhau preswylfeydd priodol i'w plant, a gofalu fod swyddogion iechydol priodol yn cael eu penodi ym mhob sir, a'r rheiny yn hollol anibynol ar bob dyianwad lleol a pher- sonol. Bydd i ni alw sylw eto ar rai o ffeith- iau galarus y meddyg iechydol o Stepney, ond digon yw cydnabod yn awr fod yr Eisteddfod wedi dechreu gwaith ardderchog drwy ym- drin a phwnc mor bwysig a iechyd pobl ein gwlad.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.