Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Bud y Gan.

DUWINYDDIAETH A GWYLIAU.

News
Cite
Share

DUWINYDDIAETH A GWYLIAU. Ychydig ddyddiau yn ol, yn Rhuthyn, agorwyd ysgol dduwinyddol," sef cynulliad o weinidogion wedi hel at eu gilydd i drin duwinyddiaeth, a chaffael math ar wyl ar hyny. Y Parch. H. Ivor Jones, Caer, oedd y llywydd, a dywedodd ef, yn ei anerchiad, fod teimlad er's tro yn Undeb Anibynol Dinbych a Fflirst y dylid cael ysgol o'r fath. Yna, traddododd Dr. Henry Jones, Glas- gow, anerchiad ar osgo meddwl y dyddiau hyn tuagat dduwinyddiaeth. Yr oedd yn dda ganddo, meddai, fod arweinwyr meddwl yng Nghymru yn dibrisio'u man wahaniaethau, ac yn cytuno i ymdrin a phwnc duwinyddiaeth. Y mae'r byd weithian, yn llawer mwy na chynt, yn llawer mwy dyrus ei gysylltiadau, ac anghenion dyn-anghenion ei ddeall, ei foes, ei gymdeithas, a'i grefydd-yn llawer mwy a llawer mwy cymhleth nag a fuont erioed o'r blaen. Aeth athrawiaeth a buchedd ein hemseroedd ni yn erbyn eu gilydd, ac o amgylch y pethau pwysicaf oil, sef bywyd moesol a chrefyddol, yr oedd y frwydr boethaf. Ni wyddai ef am reswm yn y byd dros y gobaith na ddygai amheuaeth deallus, oni sefid yn ei erbyn, ganlyniadau cymaint ag mewn oesau o'r blaen. Ym myd ymchwil arianol yn unig y profasai rheswm dyn ei nerth. Yr oedd yr oes hon a'i ffydd mewn gwyddor naturiol yn oes oedd yn credu yn Nuw ac yn nhragwyddol bethau sylweddol byd yr ysbryd. Yr oedd profiad moesol a chrefyddol y ganrif oedd newydd orphen yn llawer rhy gyfoethog, gweithrediad argy- hoeddiadau ysbrydol yn llawer rhy rymus a pharchus ynddi, ac eangiad tremwel dra- gwyddol dyn yn rhy amlwg i roi unrhyw lwydd i'r amheuaeth foesol a chrefyddol y cyfeiriasai efe ati. Yn y prydnawn, traethodd y Proffeswr Witton Davies, Bangor, ar Feirdd a Bardd- oniaeth yr Hen Hebreaid." Dydd Mercher, traethodd Dr. Henry Jones ymhellach ar yr un pwnc, a siaradodd y Parch M. O. Evans, Gwrecsam; T M Rees, Bwcle; D. Miall Edwards, Blaenau Ffestiniog; James Charles, Dinbych; R. Roberts, Rhos; ac er- eill. Cyfarfu cynadledd y trefniadau, dan lyw- yddiaeth y Parch. H. Ivor Jones, a phender- fynwyd yn unfrydol i gael cyfarfod eto yr I haf nesaf. Enwyd Dr. Fair burn, M.A., A. E. Garvie, M.A., Montrose, a Dr. James Denney, M.A., Glasgow, i draddodi dar- lithiau.

ADDAW GWLADFA NEWYDD I GYMRY…

Advertising