Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Mae argoelion fod helynt chwarel Bethesda ar derfynu, ac y mae'r pellder rhwng y pleidiau ar hyn o bryd yn llai nag ar un adeg wedi dechreu yr anghydwelediad. zn Ychydig o waith gwleidyddol sydd wedi ei wneyd gan ein haelodau oddiar y terfynodd y Senedd, ond bellach y mae arwyddion eu bod yn paratoi i'r ornest fawr adeg yr Hydref. Yr oedd William Jones, A.S., yng ngwyl yr orsedd foreu dydd Mawrth ac yn edrych mor hoyw ag erioed. Yr ydym wedi clywed son am gorau merched yn cael eu harwain gan feibion, ond yn sicr peth hynod yn hanes corau oedd gweled merch yn arwain cor meibion. Dyna welwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bwriedir codi cofgolofn i goffa y diweddar Isalaw ym Mangor. Yr oedd yn aelod o bwyllgor yr Eisteddfod eleni ar y cychwyn, ond torwyd ef i lawr rai misoedd cyn cynhal yr wyl. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i bar- hau, ond ychydig yw'r gefnogaeth a roddir iddi gan yr Eisteddfod ar hyn o bryd. Nid rhyfedd am hyn gan mor Seisnigaidd yw'r hen wyl wedi myned. Darllenwyd papyr galluog gan Mr. Edward Owen o Swyddfa India yng nghwrdd y Cymmrodorion a gynhaliwyd ym Mangor ar adeg yr wyl. Efe a Dr. D. L. Thomas oedd y ddau Gymro Llundeinig fu'n cymeryd rhan yn y gweithrediadau-ag eithro, wrth gwrs, y beirdd Elfed a Finsent. Dau o arweinyddion yr Eisteddfod oeddent Llew Wynn a Llew Tegid, a dyma fel yr englynwyd iddynt gan un o hil yr orsedd. Os trinir deddf yr Eisteddfod-yn anghyson Danghoswch y flewod.; Yn ein dau Lew pan yn dod Ceid dewrder ac awdurdod. I'n corlan does wawd nac erlid-i ddod Tra'r ddau Lew i'w hymlid; Nid oes gwyr dreng na lleng llid YD gallu tagu Llew Tegid. Mae chwarelwyr Bethesda wedi gofyn i Arglwydd Penrhyn dderbyn deiseb oddiwrth bedwar o'u cynrychiolwyr. Credir y bydd hyn yn agoriad y drws i sefydlu heddwch yn y lie. Ar ol gorpben a'r wyl genedlaethol,. defnyddir pabeil Eisteddfod Bangor i gynal cyfarfod i brotestio yn erbyn y Mesur Addysg, Siaredir yno gan William Jones, A.S., Bryn Roberts, A.S., a D. Lloyd George, A.S. A'r tri hyn, un fyddant yn eu gwrthwynebiad i'r Bil anghyfiawn hwn. CARU'R TYNER. Mi gerais fy mam Mewn didwyll fwynhad, A'i nodded di-nam Ar aelwyd fy nhad. Mi gerais drwy'r byd Rai tebyg i hon, Rhai'n dyner o hyd A di-dwyll eu bron. 'Rwy'n caru'n ddi-hun Y tyner, a'r derch, Pa ryfedd fod bun Yn swyno fy serch ? Mae'r blodau yn dhvs A thyner, bob un, Yn ymyl y drws Fel gwenau fy mun. Ceir nefoedd ryw ddiwrnod, Fath nefoedd fydd hi ? Os na fydd rhianod A blodau mewn bri ? Llansannan. TREBOR ALED.

ARGLWYDD PENRHYN A'I WEITHWYR.