Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Bwrsid y g Ceit* 9

News
Cite
Share

ISdrychwch ar anian, y mae hi yn ein dysgu i fwyn- aau ein hunain ar bob achlysur. Mewn gair, y mae'n gwenu arnom byth a hefyd," ac yna aath ymlaen -dan ganu fel hyn:— GW&NAU. Gwenu mae anian Mewn dillad haf, Gwenu wna arian Ac aur yn braf. Gwenu mae'r blodau 0 fewn yr ardd, Gwên a chaniadau Yw calon bardd. Gwenu wna'r Gwanwyn A'i dlysni ter, Gwenu mae'r flwyddyn Y lloer a'r ser. Gwenu mae'r huan Ar ael y nen, Gwên yw pedryfan A Duw yn ben. Gwenu wna'r rhosyn Mewn gwasgod goch, A gwrid Mehefin Yw tlysni'i foch. Gwenu mae cariad Yn llawn o serch, Gwenu mewn eiliad Wna gruddiau merch. Gwena'r friallen Ar fin y nant, A llygad Elen Ar fryn a phant. Gwenu wna'r lili Ar lawr y glyn, Fel angel goleuni Yn hardd mewn gwyn. Gwenu wna'r trydan Yn loew dlos, Fel gemwaith arian Ar ruddiau'r nos. Gwena pleserau Ein daear ni,- Gwen a chaniadau Y nef i mi. Gwena y duwiol Yn angau blin, Mae'r edifoiriol A Duw yn Un. Gwena tangnefedd Tu draw i'r lien, Lie caf anrhydedd Gan Dduw, Amen. Willesden. LLINOS WYRE. Ac wedi clywed y ganig hona, aeth llawer o'r gwrandawyr adref dan wenu hefyd. E. Richards. Cyhoeddir y gyfres gan y Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam. Anfonwch am restr o'u gwaith. H. B. Rhy faith. Gallasech fod yn fwy effeithiol pe defnyddiech haner nifer y geiriau. Edmygydd. Ydyw y mae yr hanes yn debyg 0 gael si barotoi yn gyflawn cyn bo hir. Addawa'r Parch. J. E. Davies roddi'r hall fanylion am eglwys Jewin a phes gwneid hyny, byddai yn ddechreu rhagorol. T. D. W. Yr ydych yn camgymeryd yn fawr. Mae genym nifer go dda o wyr cenedlgarol yn ein myeg. Am y rhai sydd wedi myned drosodd at y Saeson, y mae llawer o honynt fel yr honwch yn debyg o fod yn lied anghofus o'r wlad eu ganed. E. Jones a ysgrifena:—" Yr oeddech yr gofyn paham yr ysgrifenai Mr. Gwenogfryn Evans ei rag- draeth i'r Oil Synwyr Pen" yn Saesneg. Y rheswm yw, yn ddiau, am nad yw Mr. Evans yn credu rhyw lawer yn y Gymraeg. Nid yw wedi ysgrifenu ond y nesaf peth i ddim yn. yr iaith hono, ac y mae hyny yn drueni hefyd pan ystyriom mai fel Welsh Soholar' yr adnabyddir ef yn y byd Seisnig. Cred Mr. Evans y dylid ysgrifenu y Gymraeg fel ei llefarir neu yn fwy tebyg i'r hen iaith glasurol; eta, pan ddefnyddia y Saesneg y mae yn ddigon gwasaidd i fabwysiadu y dullweddau diweddaraf ynglyn a'r iaith hono. Y mae angen dysgu cysondeb ar ein harwein- wyr llenyddol yn ogystal a'n harweinwyr gwleid- yddol."