Hide Articles List

2 articles on this Page

RHODD HAELIONUS GAN! GYMRO…

Bwrsid y g Ceit* 9

News
Cite
Share

Bwrsid y g Ceit* 9 Hawyr," ebe'r Gol., wrth weled y fath gynulliad o'r hil farddol o gylch y Bwrdd yn disgwyl ei ym- ddangosiad i agor yr Orsedd wythnosol. Ai nid- ydych chwi'n myn'd tua Bangor? Yno, cofiwchr. mae plant yr awen wedi tyru eisoes er mwyn bod yn bresenol yn yr wyl yr wythnos nesaf." Mae gormod o feirdd yno eisoes yn ol pob hanes ebe'r Macwy, oherwydd mae'r mesurau caethion y v\ edi cael eu defnyddio yno gan y pwyllgor; ac- unwaith y ceisir gosod llyfetheiriau o'r fath mewa grym, y mae ar ben am hwyl farddonol." Taw, taw," ebe'r Cwcwll, eisieu mwy o ddefn- yddio'r mesurau caethion y sydd, a phe gorfodid i bob bardd ganu yn y rhai'n fe gawsem wared o'r rhigymwyr di-enaid yna sydd "Hold on I" gwaeddai'r Macwy. "Nid mesurais Dafydd ap Edmwnd oeddwn i'n feddwl, eithr y rheolau caeth newydd a wnaed ym Mangor gan y pwyllgor y dydd o'r blaen." "Beth oedd y rheiny?" ymholai Bardd yr Offis." Wel, 'does ond deg ar hugain o feirdd i gael eu gwahodd i'r Steddfod o gwbl. Meddyliwch am brif" Wyl y Cymry—cenedl y beirdd a'r llenorion-a dim ond deg ar hugain i gael myned i fewn iddi. Rhyw chwech bob dydd am bum' niwrnod, dyna i gyd I" "Eithagwir," ebe'r Gol., "ond cofiwch chwi mai gwyr costus iawn yw'r beirdd yma bob amser. Fe aethant a chyfran fawr o'r arian pan y buwyd yn cyhoeddi yr Wyl yno y llynedd, a gwaeddodd rhai c genedlgarwyr y lie y pryd hyny, Drop a bard or two 1!" Do, fe wnaed yr awgrym, mae'n wir, ond gan bwy, feddyliech chwi ?" gofynai'r Llinos. 0, gan rhyw sprigyn o ganwr a ph'le buasai y canwrs yma. wn i, oni bae ein bod ni'r beirdd yn rhoi bwyd iddyn nhw ?" Quite right" gwaeddai B. yr 0., gan awgrymu ei gadarnhad ag ystum foneddigaidd. Ac fe aeth yn ddadl boeth ar unwaith rhwng y canwrs a'r beirdd: pa un o honynt oedd y mwyaf angenrheidiol i gymdeithas, a pha un a allasai y naill fodoli heb y Hall ? Yn yr ysgarmes anghofiwyd am helynt yr Eisteddfod, a chan fod pob un o honynt mor gadarn dros ei farn mae'n eglur ddigon na fydd y ddadl wedi gorphen mewn pryd i neb o honynt. fyned tua Bangor. Folly, ni raid i'r pwyllgor bryderu am osod yr un o Feirdd y CELT ar restr y deg ar hugain etholedig. Tra bu rhai o'r siaradwyr yn cael eu hanadl rhwng y dadleuon, daeth Cwcwll ymlaen at y Gol. i adrodd: fel yr oedd wedi mwynhau pregeth gan wr ieuanc o'r wlad y Sul o'r blaen. Dyma'r fath un ydoedd, eb efe:— PREGETH. Un daer ei chenadwri—a'i hagwedd Yw'r bregeth o ddifri; Cymod yw ei hanfod hi- Troi anwir rhag trueni. CWCWLL. Yr oedd Trebor Aled hefyd wedi dod i'r cwrdd, a chan ei fod wedi clywed fod cais wedi ei wneyd gani. wyr yr Eisteddfod i sicrhau presenoldeb De Wet yr. yr wyl, nis gallai lai na chanu fel hyn :—. Y BOER EIN BRAWD. Dyn ydoedd y Boer cyn y rhyfel A dyn tra'n gyfoethog a th'lawd, Dyn gyda y llawddryll a'r fagnel, A dyn mewn aflwyddiant a ffawd Dewr ddyn tra'n gwynebu'i elynion A dyn tra'i wladgarwch dan draed, Dyn hefyd yn nanedd peryglon A dyn pan yn marw'n ei waed. Dyn wedyn mewn heddwch a rhyddid' A dyn yn ei wlad o dan fri: Dyn wedi'r holl ymladd a'r erlid Dan faner Brydeinig, fel ni Dyn wyr beth yw gofid a phleser A dyn yn cydnabod Duw'r lor, Dyn hawlia uniondeb ac iawnder, Dyn deimla fel ninau yw'r Boer. Llansannan. TBEBOB ALED. "Wel," ebe'r Llinos. "Y mae'n llawer gwell boif yn hapus, wedi'r cyfan, na bod byth a hefyd yn elyn- ion i'n gilydd. Paham nas gallwn fod yn ffryndiau a phawb, ao yn rhydd o bob gofalon a thrafferthioxio