Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

RHODD HAELIONUS GAN! GYMRO…

News
Cite
Share

RHODD HAELIONUS GAN GYMRO LLUNDEINIG. COFIO AM El ARDAL ENEDIGOL- Un o'r masnachwyr mwyaf Uwyddianus yn Llundain yw Mr. Pritchard Jones-un o berchenogion y ffirm fawr Mn. Dickens a Jones, Regent Street-ond eto un o'r Cymry mwyaf tynergalon a chenedlgarol er hyny. Nodwedd amlycaf y Cymro Llundeinig Uwyddianus hyd yn ddiweddar oedd ymwadu a'i genedl, a myned i fyw yn rhyw fath o Sais ail raddol yn mysg yr hyn a elwir Cym- deithas," ond iechyd i galon Mr. Jones y mae efe wedi dangos ei hun yn ormod o foneddwr i redeg ar ol pob miri gwlad y Sais, a gwell ganddo gyflwyno rhan o'i gyfoeth er budd a lies i'r ardal enedigol, na chael mwyniant cymdeithas gwlad y Sais dros amser. Brodor o Niwbwrch, sir Fon, yw Mr. Jones, a brawd iddo (Mr. E. P. Jones) yw cad- eirydd y Cyngor Sir yno am y ilwyddyn hon. Arclderbynei addysg yn ysgol Dwyran sjmudcdd i Gaernarfcn, a bu yn egwyddorwas yn masnachdy Mr. Owen Owen yn Mont Blidd. Ar ol gwasanaethu yno, ac yn ddi- lynol yn Mhwliheli, ym Mangor, yng Ngwrec- sam, a manau eraill daeth i Lundain, a chafodd le yn masnachdy adnabyddus y Mri. Dickens a Jores yn Regent Street. Der- byniai gyflog o loop, fel prynwr ar ran y ptrchenogion, ond 'mor ragorol y gwnai ei waith fel y gwnaed ef yn aelod o'r ffirm. 0 dan ei arolygiaeth llwyddodd y ffirm yn fawr, ac yr oedd yr eniliion am y flwyddyn ddi- weddaf yn 74,OOOP. Bedair blynedd ar hugain yn ol priododd Miss Coates, o Much Wenley, yn Somerset, yr hon a fu farw y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd Mr. Pritchard Jones yn awyddus am wneyd rhywbeth sylweddol i'w ardal enedigol, a phenderfynodd adeiladu a gwadd- oli sefydliad a wnai ateb y dyben o lyfrgell, clwb, lie cyfarfod, a chartref i bobl oedranus. Ymgyngborodd a Mr. Rowland Lloyd Jones, atchadeiladydd, Caernarfon, yr hwn a gyn- lluniodd yr adeiladau sydd yn awr yn cael eu gwneyd, ar dydd Mawrth cyn y diweddaf bu- wyd yn gosod meini sylfaen yr adeilad eang, a chynullodd pobl o bob ardal yn Mon i Niwbwrch am y dydd i gydfwynhau a Mr. Jones yn nechreuad y sefydliadau mawr a fwr- iada godi yn y lie. Dechreuwyd y gweithrediadau drwy i nifer fawr o wahoddedigion gyfranogi o fyr-bryd yn Bron Menai preswylfod Mr. Jones. Yr oedd yn bresenol aelodau o Gyngor Sir Mon, cadeirwyr byrddau cyhoeddus yn y sir, a nifer o weinidogion Ileol. Llywyddwyd gan Mr. Pritchard Jones, yr hwn yn gyntaf a gynyg- iodd y llwnc-destyn "y Brenin." Yn ystod araeth a draddododd yn ddiweddarach, diolch- odd i'r boneddigion oedd yn bresenol am eu presenoldeb ar adeg gosod careg sylfaen sefydliad a obeithiai ef a brofai o werth am- hrisiadwy i'w hen ardal. Yr oedd pethau mawr wedi cael eu gwneyd mewn blynyddoedd diweddar i wella sefyllfa y dosbarth gweithiol. Yr oedd oriau llafur wedi cael eu lleihau, ac yr oedd eu hynys hwy, yn gymdeithasol a moesol, yn gyfartal i unrhyw sir yn yr ymer- odraeth. Ond yr oedd yna ddigon o le eto i rhyw ddyngarwr adeiladu a darparu llyfr- gelloedd, a rhoddi mwy o gyfleusderau i'r dos- barthiadau gweithiol, ar ol iddynt orphen eu gwaith am y diwrnod, fel ag i wneyd defnydd o'u hamser, er iddynt ddyfod yn well dinas- wyr, ac yn well dynion. Gobeithiai ef y byddai i'r adeilad yr oeddynt yn dathlu ei ddechreuad wneyd hyny ym mhentref Niw- bwrch. Yr oedd ef yn bwriadu pwrcasu y llyfrau goreu yng Nghymraeg a Saesneg ar gyfer y liyfrgell, a byddai yno gyflenwad o gylch- gronau a newyddiaduron. Gellid defnyddio y Neuadd G>r;ull ar gyfer cynulliadau cym- deitbasol, ac nid otdd y sefydliad i fed yn un gwleidyddol nac enwadol. Gellid troi y Neuadd Gynull i ddwy ystafell ddosbarth, ar gyfer jsgolionncsyn ygauaf,argyfer bechgyn cedd wedi gadael yr ysgol, ond a ddymunent fyned ym mlaen g)da'u haddysg. Trefnid y tai i hen fcobl oecd wedi byw yn onest, ac wedi gweithio yn galed, ond y rhai oedd wedi methu rhoi dim heibio ar gyfer diwrnod gwlawog. Dywedodd y byddai i'r adeiladau a'u dedrefnu a darparu digon o lyfrau i'r liyfrgell, gestio 6,ocop.; ac er eu gwaddoli, fel y bycdai yra drysorfa i adgyflenwi y llyfrgel), talu cy flog i'r person fyddai yn edrych ar ei ho!, darparu ar gyfer cadw yr eiddo mewn trefn, a chynyrchu 5s. yn yr wythnos i bob person dibriod fyddai yn yr elusendai, a 7s. 6c. i bob cwpl priod, costiai 13,00oP. araii (cymeradwyaeth mawr). Wedi i'r adeiladau gael eu gorffen, a phan y byddai terantiaid yn y tai, bwriadai eu gwahodd eto; ac ar yr achlysur hwnw, wedi iddo wneyd y gwahanol drtfniadau angenrheidiol, byddai iddo gyflwyno y sefydliad i bentref Niwbwrch, fel rhodd rad, ar y dealitwriaeth ei bod o dan ei reolaeth ef a'i frodyr tra y byddont byw. Wrth derfynu yr oedd yn cynyg llwyddiant i'r sefydliad (uchel gymeradwyaeth). Mr. Ellis Jones Gr ffith, A.S., a sylwodd ei fod yn teimlo yn falch y diwrnod hwnw ei fod yn un o sir Fon. Yr unig beth a ofidiai ef ydoedd na buasai Mr. Pritchard Jones wedi cael ei eni rhyw dair milldir ym mhellach i'r gogledd (chwerthin). Yr oedd hyny wedi amddifadu pentref mwy haeddianol (chwer- thin) o'r rhodd fawr oedd wedi disgyn, yn ffodus, i Niwbwrch. Yr oedd efe wedi cael ei daraw yn fawr gan yr haelfrydedd oedd Mr. Pritchard Jones wedi ei arddangos, a'r esiampl ragorol oedd wedi ei ddangos i ddyn- ion eraill o sir Fon. Ni byddai yr hen ddyn- ion a'r hen wragedd a fyddai yn byw yn yr elusendai o dan fwy o ddyled i Mr. Prichard Jones na'r bobl fyddai yn gwneyd defnydd o'r liyfrgell a'r Neuadd Gynull, oblegid yr oedd y rhodd yn un wnai dlodion o neb, ac yn un na wnai gyfiawnhau i neb edrych i lawr ar y rhai, yn eu henaint, oedd wedi cyfarfod a dyddiau helbulus. Yr oedd y sefydliad yn un rhagorol mewn llawer ystyr; ac yr oedd yn ardderchog o beth i Mr. Pritchard Jones wneyd y rhodd hon yn ystod ei fywyd. Gobeithiai y byddai i Mr. Prichard Jones a'i frodyr gael byw am lawer o flynyddoedd i reoli y sefydliad (cymeradwyaeth). Traddodwyd anerchiadau wedi hyny gan y Mil. Hunter, Mr. Harry Clegg, Mr. C. F. Priestley, Mr. C. J. Abbs, Dewsbury, a Mr. Owen Owen, Llundain. Cyfeiriodd y Mil. Hunter at hanes hynod hen fwrdeisdref Niwbwrch yn yr amser gynt, a sylwodd fod teyrnwialen, ac arwyddion swyddogaeth y maer diweddaf, yn gystal a'r pwysau a'r mesurau, yn cael eu cadw yn bar- fraus, ac mai da fyddai eu gosod yn sefydliad Mr. Prichard Jones. Wedi i Mr. Prichard Jones ddiolch, dygwyd y cyfarfod i derfyniad. Aeth y cwmni wedi hyny at y llanerch lie yr oedd y sefydliad newydd yn cael ei godi arno. Yr oedd y pentref wedi ei addurno yn brydferth a darparwyd te i blant yr ysgolion, a phlwyfolion eraill, y rhai a rifent 800, ar gost Mr. Prichard Jones. Llywyddwyd y gweithrediau gan Mr. G. J. Roberts, Trefarthin. Cafodd Mr. Pritchard Jones dderbyniad tywysogaidd pan y cymer- odd ei sedd ar y llwyfan oedd wedi ei godi. Wedi canu "Hen Wlad fy Nhadau," cafwyd anerchiadau gan y Llywydd, Mr. Ellis Jones Griffith, A.S., Mr. W. Thomas, Lerpwl, y Parch. H. W. Jenkins, rheithor, Mr. Hughes, contractor, Mr. Thomas Thomas (cadeirydd Cynghor Plwyf), ac ereill. Darllenodd y Parch. R. Hughes farddon- iaeth a gyfansoddwyd ar gyfer yr amgylch- iad gan Mr. Williamson, yr hwn sydd wedi ysgrifenu hanes Niwbwrch. Anrhegwyd Mr. Pritchard Jones, ar ran y plwyfolion, a morth- wyl a thrywel arian hardd, a gosodwyd y gareg sylfaen ganddo ynghanol brwdfrydedd., Wedi hyny, offrymwyd gweddi gan y Parch. J Williams, Llangefni. Yn ystod y gweith- rediadau fe ddadganwyd hefyd nifer o em- ynau ac alawon dan arweiniad Mr. Johiab Hughes a Mr D Pryse Jcnes. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd yn Neuadd y Methodistiaid Calfinaidd. Llywydd- wyd gan Mr. Ellis Jones Griffith, A.S., a chymerwyd rhan gan Miss Josephine Wil- liams, Llangefni; Telynores Arfon, ac Ap Eos Mon, Caernarfon, a Seindorf LlangefnL Cyfeiliwyd gan Mr R Prichard, Caernarfon.

Bwrsid y g Ceit* 9