Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

T. R. THOMAS & Co.,

Advertising

ALLTUDIO'R BARDD A'R LLENOR.

BUDDUGOLIAETH IDRIS.

News
Cite
Share

BUDDUGOLIAETH IDRIS. Ar ol brwydr galed, y boethaf ar amryw ystyriaethau ynglyn ag etholiad leol, llwydd- odd Mr. T. H. W. Idris i slcrhau sedd ar y Cyngor Sirol yn Lludain yn nwyreinbarth St. Pancras dydd Sadwrn diweddaf. Arweiniwyd y blaid Doriaidd gan Faer y rhanbarth, yr hwn hefyd sydd yn aelod ar Fwrdd Ysgol y Ddinas dros y rhan hon o'r etholaeth, a chan ei fod yn wr poblogaidd iawn a llawer o gysylltiadau lleol, llwyddodd i gael cefnogaeth luosog iawn, a chredid ar un adeg y buasai yn abl i gipio y sedd i'r Cym- edrolwyr. Yn Mr. Idris, o'r ochr arall, caed gweithiwr di-ail, a gwr a wyr yn dda beth yw aghenion ein dinas ar hyn o bryd. Daeth cyfeillion o bell ac agos yno i roddi help Haw iddo, a da oedd ganddynt weled v canlyniadau nos Sadwrn-ei fod wedi Ilwyddo i enill ar ei wrthwynebydd, Mr. Barnes, drwy fwyafrif o 625. Y peth mawr ynglyn a'r etholiad ydoedd y rhan a gymerwyd ynddi gan ysgolfeistriaid y rhanbarth. Yr oedd rhyw 70 o'r bobl hyn yn cynorthwyo y Tori am ei fod yn aelod o'r Bwrdd Ysgol, a chredent mai gwell i'w lies personol hwy fuasai cefnogi y gwr hwnw, yn enwedig gan fod si ar led mai gan y Cyngor Sir fydd rheolaeth y Byrddau Ysgol yn y man. Yr oedd gwyr y faril, hefyd, yn ol eu harfer yn cefnogi'r Tori; a syndod oedd gweled yr undeb yn eangu. O'r blaen, yr Eglwys a'r Dafarn oedd gelynion penaf y Rhyddtrydwyr; ond y tro hwn daeth yr Ysgoldy i'w cefnogi; eto, ar y tiroedd hyn, llwyddodd ldris i enill y gamp. Y mae yn myned i fewn i'r Cyngor Sirol gyda dymuniadau goreu ilu mawr o gyfeillion, a sicr yw y bydd mor weithgar a Ilwyddianus yno yn y dyfodol ag ei gwelwyd yn ystod y deuddeng mlynedd blaenorol y bu yn aelod yn y lie. —————===—

[No title]