Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

T. R. THOMAS & Co.,

Advertising

ALLTUDIO'R BARDD A'R LLENOR.

News
Cite
Share

ALLTUDIO'R BARDD A'R LLENOR. Sefydlwyd Eisteddfod y Cymry yn y dydd- iau gynt gan y bardd a'r lienor, ond erbyn heddyw gellir dyweyd am yr hen uchelwyl genedlaethol, "treiswyr a'i cipiodd hi"! 0 flwyddyn i flwyddyn anwybyddir y lienor a diraddir y bardd ar draul gwneyd arddangos- iad o'r cantor, nes o'r diwedd y mae'r bobl graffaf yn dechreu ymholi i ba ddyben y cynhelir yr wyl hon ? Yr wythnos nesaf daw De a Gogledd Cymru ynghyd i Fangor i gydgyfarfod er dyrchafu lien a barddas, ac i gadw yn fyw hen ddefodau cysegredig Gor- sedd y Beirdd; ac er yr honir mai dyna yw un o amcanion y cynulliad daw'r newydd fod rheolwyr Ileol yr Eisteddfod wedi dilyn es- iamplau pwyllgorau ffol ereill ac wedi pender- fynu cwtogi a diraddio pob adran berthynol i'r llenor a'r bardd, gan osod yn eu lie gad- eirwyr hir-wyntog i siarad ffwlbri Saesneg, a chantorion ceg-lydain i ganu rhyw hen unawd Seisnig am y goreu a rhyw broffeswyr o Loegr neu'r America < '? Am roddi anrhydedd i'r cantor nid oes genym y gwrthwynebiad Ileiaf, ond y mae meddwl am aberthu gwyl y genedl a diwyll- iant y lienor ynghyd ag ysbrydiaeth y bardd am rhyw foddhad amserol, rnegis canu am hen unawd, yn beth nas gall ond dwyn din- ystr ar yr hen sefydiiad a goreu po gyntaf y cymer yr awdurdodau sylw o'r perygl y maent yn myned iddo, am mai ofer fydd galaru wedi l!add a mogi yr unig impyn o fywyd gwir barhaol a chenedlaethoi ynglyn a hi. Llwyddodd y beirdd am oesau i'w chadw yn fyw ac iraidd, ond unwaith y gadewir i gerddoriaeth ei rheoli yna ni fydd y diwedd ymhell. # Yr ydym eisoes wedi cael esiampl a gwers o fyrhoedledd y cerddor. Buom yn bostio ein cantorion a'n corau ar draws y deyrnas, ac yn ami nid heb wir achos ond gwelir bell- ach nas gall ein bechgyn a'n merched gwladaidd ni fyth gystadlu yn Ilwyddianus yn erbyn proffeswyr cerddorol a ddeuant i'r ornest o wledydd ereill: ac wrth ganiatau hyn collir pob nodwedd ynglyn a'r wyl, sef dad- blygiad a chefnogiad i dalentau ymysg gwerin Cymru. Yr ydym yn gwneyd arddangosiad gerdd- orol o'n Heisteddfod-yr hyn beth sydd hollol wahanol i'r hyn a fwriadwyd iddi fod ar y cyntaf-gan gyflwyno gwobrau mawr, ie, rhy fawr o un rheswm, am ganu Nid er mwyn dyrchafu cerddoriaeth-pe amgen, ni fuasai genym Ie i gwyno -y cynygir y gwobrwyon mawr hyn, eithr yn hytrach er hudo y tram- orwyr i wneyd eu hymddangosiad! Y mae gormod o lawer o'r masnachol yn perthyn i'r Wyl yn y dyddiau hyn Ond paham na roddir yr un cyfleusterau i'r beirdd a'r llenorion ? Iddynt hwy druain cynygir rhyw fan wobrau am fisoedd o lafur a lludded; ac wedi'r holl drafferth yr unig foddhad a gaiff y cystadleuydd fydd clywed enw'r buddugwr yn cael ei gyhoeddi ar ddydd yr Wyl heb nag eglurhad na chyfarwyddyd na beirniadaeth ar ei bwnc. Er mwyn bod yn onest ac yn deg a'r cystadleuwyr, dylid ar bob cyfri argraffu y feirniadaeth yn 11awn erbyn dydd yr Wyl, ac yna ei rhoddi ar unwaith i bob ymgeisydd a ofyno am dani. Os na wneir hyn, bydd yr anhegwch mwyaf yn bod, a chyll yr Eisteddfod bob gwerth fel magwrfa ein llenorion a noddwyr ein talentau ieuainc. < <t <t Yn fwy fyth-ac yn hynod anghyson-y mae'r adran gerddorol wedi myned mor faith fel y penderfynir eleni i gau allan pob beirniadaeth ar y celfau a'r cyfansoddiadau. Ni ddywedir pa fodd y mae'r ymgeiswyr i gael deall ym mha safle y safant yn y gys- tadleuaeth. Disgwylir, fellai, i'r papyrau roddi y manylion hyny yn rhad ac am ddim. » Hyd yn hyn nis gellir dyweyd fod y wasg wedi cael ond cefnogaeth lied sal oddiar law y pwyllgor, ac nis gallwn ddychmygu am dani hi yn myned yn Ilaw-forwyn ddiddig a gwas- aidd i benglwcni'r pwyllgor Seisnig presenol. Mae'n rhaid dihuno o ddifrif i werth yr Eisteddfod, neu os nad oes gwerth ynddi- ac y mae llawer yn barod i gredu nad oes- boed i ni ei throi yn arddangosfa ail-raddot ar unwaith-ond bydded i'r werin sylweddoli beth fyddant yn ei golli, gwerth nas gellir ei brynu ag arian, trwy wneyd y fath aberth- a thawer am byth am dani fel Gwyl addysg- iadol y Cymry » Os mai yn y dull presenol y dymunir ei chario ymlaen, yna bydd rhedegfeydd ceffylau y Saeson yn beth parchus ac uwchraddol o'i gydmaru a hi. Os Eisteddfod, gadawer i ni gael Eisteddfod ac nid rhyw arddangosiad efelychiadol o sal bethau y Sais

BUDDUGOLIAETH IDRIS.

[No title]