Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
But! y - . A'" cl Gan.I
But! y A'" cl Gan. I Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] L EISTEDDFOD FALMOUTH ROAD. Anfonwyd rhestr y testynau i ni gan Mr. D. R. Hughes, yr ysgrifenydd, ac y mae yn rhestr bur olygus. Cynhelir yr Eisteddfod y tro hwn yn y Queen's Hall, ddydd Mercher, Chwefror y I Sfed, 1903, a chyflwynir yr elw i drysorfa'r organ—amcan teilwng iawn. Mr. G. M'Naught a Dan Price fyddant yn beirniadu'r gerddoriaeth. Y prif ddarn corawl ydyw The Destruc- tion Pompeii "-darn i leisiau gwrywaidd o waith Mr. D. C. Williams, a'r wobr ydyw sop a chwpan. Yn yr ail gystadleuaeth ceir "We never will bow down" (Handel)-i leisiau cymysg. Gwobr 20p. Yr ydym yn edmygu dewrder y pwyligor yn cynyg gwobrwyon fel hyn; a diau y bydd amryw o gorau enwog yn cystadlu ar y prif ddarn. O'n rhan ein hunain, gwell genym wrandaw ar ddau gor cymysg DA na dwsin o gorau meibion, a hyny am ddau reswm: (I) Y mae gwrando ar ddwsin o gorau meibion yn canu yr un darn, yn olynol, yn debyg o flino dyn y mae yn cael y cyfryw ddylanwad arnom ni bob amser fel mai anhawdd yw penderfynu pa faint o les a geir o'r fath orchwyl. (2) Y mae'r Ueisiau yn gorwedd mor glos, mewn darnau gwrywaidd, fel na ellir, bob amser, gael cystal lliwiad cynghaneddol drwyddynt ag a geir mewn darnau i leisiau" cymysg ac y mae rhyw swyn yng ngwahaniaeth ansawdd Ileisiau'r merched a'r meibion mewn cor cymysg nas gellir peidio ei edmygu. Felly, i'n tyb ni, gwell fuasai cyfartalu'r ddwy wobr yn well-dyweder 40p i'r cor goreu cymysg, a 30P i'r cor goreu gwrywaidd. Credwn na fuasai'r pwyligor ar ei golled drwy drefniant fel hwn—gan mor boblogaidd t, ydyw y darn We never will bow down." Hyderwn y cred y pwyligor fod pigo bai yn beth nad oes ronyn o bleser ynddo i ni; ond sicr genym mai camgymeriad ydoedd dewis y dernyn We never will bow down i gystadleuaeth, ar ei ben ei hun. Gwyr pawb nad oes eisieu perffeithiach darn, fel y cyf- ryw; ond y mae yn brawf ar nerth ymosodol corau yn fwy nag ar eu nerth ymataliol. Y mae ynddo ddigon o gyfle i floeddio, a rhy ychydig o'r hyn a brofa ansawdd y lIeisiau- ar yr hyn beth v dylid seilio beirniadaeth. Eto. Ai nid camgymeriad ydyw peidio cyfyngu rhifedi'r lieisiau yn y corau ? I'n tyb ni, nid teg ydyw gadael i gor o 120 gystadlu yn erbyn, dyweder, cor o 70, yn enwedig ar We never will bow down." Oni all y pwylI- gor weled ei ffordd i ail-ystyried y mater pwysig hwn ? Cynygir gwobr o 2p is am ganu deuawd i denor a bass, sef The moon has raised her lamp abovegins yr un am ganu'r un- awdau a ganlyn :-Soprano, The way of June"; contralto, ''Harvest"; tenor, There be none of beauty's daughters baritone, The Bugler." Am chwareu ar y berdoneg Polonaise (Lubeck). Da iawn genym weled rhestr mor chwaethus o unawdau; ac y mae'r ddeuawd yn new- ydd-beth cymeradwy iawn. GWYL GERDDOROL BRUGES. Cynhaliwyd hon y mis diweddaf, a pharhaodd am bedwar niwrnod. Amcan ei sefydliad ydyw rhoddi ail-gychwyn i'r math o gerddoriaeth a elwir y Gregorian i gefnogi cerddoriaeth Pales- b trina a'i ysgol; i greu ysgol gerddorol ddi- weddar, a gwella ystor gerddorol yr organydd. Perfformiwyd darnau o'r eiddo yr hen gerdd- orion Vittoria, Arcadelt, de Lassus, Josquin de Pres, Heinrich Schutz, Lulli, Carrissimi, Pales- trina, Bach, Handel, heblaw amryw o gerdd- orion llai adnabyddus, perthynol i'r 16 a'r 17 ganrif. Hefyd, cafwyd esiamplau o waith yr ysgol "ddiweddar." Ni fydd amryw o'r enwau uchod yn ddieithr i'n darllenwyr, gan i ni, amser yn ol, ymdrin a'u gweithiau, yn ygolofn hon, ar y testyn "dadblygiad cerddoriaeth hyd amser Palestrina." Dywedir fod yr wyl dan sylw yn llwyddiant mawr ac y mae ei sefydliad yn brawf o'r teimlad am fyned yn ol at symlrwydd yr hen feistri. Gresyn na fyddai mwy o'r un teimlad yn Lloegr.
LLYTHYR ODDIWRTH IESU GRIST.
LLYTHYR ODDIWRTH IESU GRIST. Dydd Iau, pythefnos i'r diweddaf, cyhoedd- odd Jesuitiaid y Spaen yn yr El Cristiano lythyr oddiwrth lesu Grist, yr hwn a bigwyd i fyny, ebent hwy, yn Jerusalem, gan fachgen o'r enw Angel. Arwyddwyd y llythyr yn Eb- rill, 1901. Lledaenir gopÏau o'r llythr drwy holl Benrhyn Yspaen, a gorchymynir i'r Cath- oliciaid defosiynol ei brynu, a'i gludo gyda hwy. Rhoddir iddynt dri chant o ddyddiau o oddefiad a maddeueb llythyrenol bob dydd Sadwrn am y pwrcas. Y mae y llythyr yn rhy faith i'w gyhoeddi yn gyflawn; gwasan- aethed ) r engreifftiau a ganlyn er dangos ei natur a'i amcan :— (e Fy meibion anwyl, a brynwyd drwy fy ng aed, gwybyddwch ddarfod i chwi drosecldu yn fy erbyn gymaint, oni buasai am weddïau fy mam fendigedig, a'ch eir- iolwr chwithau, dinystriaswn chwi. os na bydd i chwi glustymwrando, rhy- buddiaf chwi y bydd i'r ddaear ymagor a'ch llyncu yn fyw. Unrhyw berson, gan nad pwy a fo, a ddywedo fod y llythyr hwn yn gynyrch Haw dyn ac nid Haw Duw a doddir ymaith megis y tawdd halen mewn dwfr." Dwg y llythyr argraffedig enw Argraffwasg Gatholig Madrid." Prynir ef gan y trueiniaid hygoelus wrth y degau o filoedd, a chedwir ef fel crair gwerthfawr. Dyma gastiau y Canol Oesau yn eu gogoniant. Dywedir mai gwr o waedoliaeth Gymreig yw Mr. Beaumont Morice a ymladdodd y frwydr Ryddfrydol y dydd o'r blaen yn Seven- oaks. Bargyfreithiwr ydyw wrth ei alwedig- aeth, ac ar ol y fath ymgais dylai gael sedd heb fod yn hir. Bu nofiwr enwog- yn ceisio croesi y sianel rhwng Lloegr a Ffrainc yr wythnos ddiweddaf, ond er iddo nofio am 22 o oriau, methodd a chyrhaedd y lan. Bu raid ei godi o'r dwfr rhyw filldir cyn gorphen ei dasg mawr.
r Dyfodol.
r Dyfodol. [SKST Dymunir ar i ysgrifenyddion a. threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ——— Medi „ 28 a 29. Eglwys St. Benet, Cyfarfodydd Diolchgarwch am y Cynhauaf. „ 28 a 29. St. Padarn, Hornsey Road, Cyfar- fodydd Diolchgarwch am y Cynhauaf. Hydref „ 2. Gapel Jewin, Cyfarfod Agoriadol y Gym- deithas Lenyddol. Taohwedd „ 13. New Jewin. Cyfarfod Gystadleuol. Rhagfyr „ 25 (Nos Nadolig). Cartref oddi Ca.rtref yn J ewin. 1903 Mawrth 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynol y Gymdeithas » I
Advertising
'PREPAID WANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. Initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. 12 words; Once 6d. Three times 1 20 j, 9d. „ „ 1/3 28 „ t/- „ „ 1/6 36 „ 1/3 „ „ 1/9 44 „ „ „ 2/- Every additional 8 words 3d. DAIRY.—Wanted Young Woman as general and assist in Shop. Apply with reference, Morgan, Prebend Street, Camclen Town, N.W A rARTMENTS.-21, May's Buildings, Martin's li. St. Lane; cheap and comfortable Beds for men. HOUSE to Let, 7 rooms, bath, h. and c., five JH. minutes from Harringay Station, G.N.Ry. Rent £ 38.—Apply J. C., 42, Pemberton Road, Harringay, N. SMART Young Lady required for quick counter S trade.-Apply J. M., 39, Ben Johnson Road, Stepney. TWO Young Ladies (Welsh) seek situation in Dairy and Provision, used to quick trade good references.—Apply by letter, H., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. GOOD general Servant wanted.—-Apply by letter, with particulars, 71, Kelt Office, 211, Grav's Inn Road, W.C. DAIRy.-Young Woman to assist in a City daily. -Apply by letter, 70, Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. TWO General Servants required; ages not under 20, must be early risers and willing.—Apply 24, Highbury New Park, N. A PARTMENTS.—A large Bed-sitting Room to A Let; suit one or two friends.-280, Bethnal Green Road. WANTED.-Working Housekeeper for a small W business house where six assistants are employed; N.W. distridt.-Box, 36, Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. MILK.-Wanted a Youth for a Pram round, age about 17, live in, good reference indispensable. -Apply Williams, 58, Abbeville Road, Olapham Common, S.W. A PARTMENTS for One or Two Gentlemen, with tl. every home comfort Welsh preferred.-Apply 9, Regent's Park Terrace, N.W. DAIRY.—Two Young Ladies Wanted, one to do housework and assist in Shop. Good wages.—- A. B., Kelt Office, 211, Gray's Inn R^^d. DAIRY.—An Experienced Young Woman requires situation in Dairy, or could manage branch- Shop. Used to quick counter trade. Highest references.—Apply, M. J., 192A, Mare St., Hackney. T ESSONS IN WELSH by an experienced Teacher. .Ll Pupils visited at their own homes or received in Teacher's residence. Evening lessons at moderate charges, and a thorough course of the language given on the most approved modern method.-Write to Athraw," Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DOSBARTHWYR I'R CELT yn eisieu ym mhob D ardal, ac ym mhob cylch Cymreig lie nad oes dosbarthwr rheolaidd. Rhoddir telerau boddhaoI.- Ymofyner a'r Cyhoeddwyr, Celt Office, 211, Gray's Gray's Inn Road, W.C. PEDR ALAW, Mus. Bac. Beirniad Cerddorol ac Arweinydd Cymanfaoedd- CYFEIRIAD- « PENDENTS," LOUGHTON, ESSEX.