Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN.

News
Cite
Share

HANES CREFYDD CYMRY LLUNDAIN. [GAN MR. L. H. ROBERTS, CANONBURY.] III. Dyddiau boreuaf y Methodistiaid. Wedi ymadawiad Dr Owen Thomas am Ler- pwl yr oedd Mr. David Charles Davies, John Mills a Robert Owen yn gwasanaethu yr holl eglwysi a'u treuliau yn dyfod o'r un gronfa. Yn fuan galwodd eglwys Jewin Crescent am wasanaeth hollol y Parch. D. C. Davies, ac arhosodd yno nes iddo ef symud i Fangor. Galwyd Mr. Mills i fugeilio yr eglwys yn Nassau Street, a bu yno am bymtheng mlyn- edd felly, yr oedd eglwys Wilton Square heb yr un, a rhoddodd alwad i'r Parch. Joshua Davies, yr hwn a ymadawodd yn 1871, ac ar ei ol ef daeth Robert Roberts o'r Carneddi- a chyda hyn y mae yr eglwysi yn hyn o beth yn gweithredu yn anibynol, bob eglwys yn dwyn traul ei gweinidogaeth ei hun. Ar ol marwolaeth Mr. Roberts rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. J. Elias Hughes o Lanelwy, yr hwn a ddaeth yma yn 1883, a gwasanaethodd yr egiwys yn ffyddlon hyd ei ymadawiad beth amser yn ol. Ar ol marwolaeth Mr. John Mills galwodd eglwys Nassau Street Mr. G. Davies (Aber- ystwyth yr adeg hono, ond Aberteifi ar ol hyny), ac arhosodd yma amryw flynyddau. Ar ol ymadawiad Mr. Davies buwyd am rai blynyddau heb yr un, ond tua 1885 rhodd- wyd galwad i Mr. R. E. Morris, Aberdyfi. Buwyd am amryw flynyddoedd heb yr un i ofalu am yr achos yn Jewin Newydd. Ceis- iwyd gan amryw, a llwyddwyd i sicrhau Mr, J. E. Davies, Lianelli, i ddyfod i fyny, yr hyn a wnaeth, yn 1886. Yn 1884 daeth Mr. E. J. Jones yma o'r Glasgoed, sir Gaernarfon, ar alwad taer yr eglwys yn Crosby Row, ac i'w ymdrechion ef, yn benaf, y mae'r eglwys yn ddyledus am y capel hardd yn Falmouth Road. Yr olaf i symud gyda'r fugeiliaeth ydoedd eglwys Holloway, trwy roddi galwad i Mr. W. Ryle Davies, Waunfawr, sir Gaernarfon, yr hwn a ddaeth yma yn 1887, a llafuriodd yn ddifwlch hyd ei farwolaeth. Wedi i'r eglwysi sicrhau bugeiliaid car- trefol, aetbant ymiaen yn llwyddianus ac aeth yr aelodaeth ar gynydd, a gweithgarwch ymhob un o honynt—parhant felly hyd yn awn Y maent oil yn barchus, a'u gweinidog- aeth yn gymeradwy nid yn unig gan yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd, ond hefyd gan y rhai sydd yn ymweled yn achlysurol a Llun- dain. Teimla rhai mai mantais i ni yn LIun- dain ydyw fod yr eglwysi yn cael y mynych a'r amrywiol ddoniau o Dde a Gogledd Cymru. Gwir fod llawer o honom yn cael eu mwynhau; ond, yn fy nhyb i, nid yw y wein- idogaeth yn effeithio mor barhaol a'r rhai sydd yn wastad yn ein plith-yn gwybod ein boll anghenion, yn ofalus am y cleifion a'r tlodion ac yn awyddus am lwyddiant y gwaith yn ei wedd mwyaf Methodistaidd yn y Brif- ddinas. Dechreuodd amryw o'n gweinidogion eu gyrfa bregethwrol yn ystod eu arhosiad yn Llundain. Yr ydym eisoes wedi enwi Mr. Hugh Lloyd, Wolverhampton, a Richard Davies (Taliesin), sir Aberteifi, a dywedir hefyd mai yma y dechreuodd Thomas Gee, Dinbych, bregethu. David Williams—Tre Madoc ar ol hyny— a ddechreuodd bregethu pan mewn cysylltiad a Chendaeth Ddinesig y Methodistiaid ac yn fuan ar ei ol ef, David Jones, Gareg Ddu, Festiniog (Dolgellau ar ol hyny). Yma, hefyd, y dechreuodd Robert Davies, Wyddgrug- wedi hyny yr Amwythig; Dr. Dickens Lewis y Feibl Gymdeithas; y diweddar Thomas Jones, Amwythig; Williams, Trefecca; O. E. Williams, Rhos; George Watson, Pont- ypool (a ddechreuodd o Holloway) David Evans a Richard Edwards o eglwys Wilton Square; Vaughan Thomas a W. W. Lewis, 0 Crosby Row; a John Roberts, sir Fon, o Holloway. Dylasem grybwyll hefyd fod Mr. W. Prydderch Williams yma er's blynyddau ac yn gymeradwy iawn genym oil. Am rai blynyddau, pan oedd eglwys Shirland Road yn ymgynull yn Edgware Road, gwasanaeth- wyd hwynt yn ffyddlon gan Mr. Michael Robert, yr hwn a ddiweddodd ei yrfa yn mynwes y fam eglwys, sef Eglwys Loegr. Y mae y Cyfarfod Misol yn cyfarfod yn rheolaidd ar y dydd Mercher olaf ymhob mis. Y mae yn gwneyd mwy o waith nag y mae'r eglwysi a'r Cyfundeb yn hysbys o hono. Yr ydym fel Cyfarfod Misol yn hollol wa- hanol i rai ereill oblegid nad ydym mewn cysylltiad ffurfiol ag un o'r ddwy Gymdeith- asfa-De neu Ogledd. Y mae y Cyfarfod Misol, o ran nifer yr eglwysi, yn llai nag un arall-yn Ne neu Ogiedd. Ond eto, y mae, o ran nifer ei aelodau, yn fwy na Chyfarfod Misol Manchester, Henaduriaeth Lancashire, ac yn agos o ran nifer yr aelodau i Gyfarfod Misol Brycheiniog, Mynwy ac Isaf Sir Dref- aldwyn. (Gwnaed y cyferbyniadau hyn yn 1889)' Yn eu cyfraniadau y maent yn fwy na Brycheiniog, Manchester, a'r oil o Gyfar- fodydd sir Drefaldwyn (3); ac eto, heb ddal cysylltiad uniongyrchol ag un o'r ddwy Gym- deithasfa. Yn nechreuad yr achos, yr oedd y gofal ar y ddwy Gymdeithasfa-y ddwy yn gofalu am frodyr i wasanaethu yr achos, a hyny am ysbaid o dri mis. Bu y rhan fwyaf o brif golofnau y pwlpud Methodistaidd ym yn eu tro. Ebenezer Rich- ard ac Ebenezer Morris oedd yn gofalu dros y De, a John Elias dros y Gogledd-yr hwn a fu yma amrywiol weithiau. Gwelir yn hanes hen Gymanfaoedd Cymru fod hwn a hwn i ofalu am yr achos yn LIundain. Yn amser yr anghydfod, yn enwedig pan yr oedd y fasnach laeth yn cynhyrfu yn Jewin, enwyd brodyr bron o bob sir yng Nghymru i ddyfod i fyny i geisio tawelu a gwastadhau yr achos; ac yr ydwyf yn deall ar un adeg i'r holl aelodau gael eu diarddel a'u hail-ffurfio yn I' eglwys; ac, fel y crybwyllais o'r blaen, yr oedd teimlad Deheu a Gogledd yn bur gryf ar y pryd. Er fod anghydfod-ond bychan mewn cym- hariaeth-wedi codi mewn eglwysi unigol; eto, er 1856, yr ydym wedi cael heddwch a thawelwch, ac nid ydym wedi gofyn am gyn- orthwy y Gymanfa oddigerth yr amser pan anfonwyd cenhadon o'r Gogledd i wastadhau yr anghydwelediad a gododd rhwng y Cwrdd Misol a'r swyddogion-nid yn gymaint yr eglwys yn Nassau Street-ynghylch yr eiddo. Terfynwyd hwnw yn heddychol eto. Nid ydym, bron drwy yr holl amser, wedi blino Cymru a cheisiadau, oddigerth unwaith, pan y cafodd Dr. Thomas ganiatad i fyned trwy sir Aberteifi i gasglu at y capeli, a chaf- odd dderbyniad a chyfraniadau ymhell uwch law y disgwyliadau. Cawsom, hefyd, oddiwrth Gymdeithasfa y Gogledd, o Gyllid y Gen- hadaeth Gartrefol, £ jo yn flynyddol at gyn- haliaeth cenhadwr dinesig yn ein plith, a thra yr oedd y genhadaeth mewn bod gwnaeth waith mawr trwy ei chenadon, yn enwedig yn sefydliad yr achos yn Shirland Road a Holloway, ac yn gynorthwy nid bychan i Crosby Row a Phoplar-y rhai ar y pryd oeddynt yn lleoedd bychain, gweiniaid.

[No title]

Advertising