Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinasm

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinasm Aeth amryw o'r dinasyddion i Ogledd Cymru yr wythnos hon er mwyn talu ymwel- iad a'r Eisteddfod ym Mangor yr wythnos nesaf. Caed gwyl ddyddorol yn Niwbwrch, M6n, y dydd o'r blaen pan osodid careg sylfaen i neuadd gyhoeddus a adeiledir yn y lie gan Mr. Pritchard Jones, o Dickens a Jones, Regent Street. » Mae Mr. Jones wedi anrhegu ei ardal en- edigol a rhodd werthfawr dros ben. Yn ychwanegol at y neuadd gyhoeddus a'r llyfr- gell, bydd yno nifer o elusendai gwych, ac addawa rhyw dair-mil-ar-arddeg o bunau eto i'w gwaddoli er sicrhau blwydd-dal iddynt at eu cynhaliaeth. < Y mae genym nifer o ddinasyddion cyf- oethog yn ein mysg, ac yn sicr bydd yr esiampi a roddir iddynt gan Mr. Jones yn agoriad llygaid. Mae y lies a wneir i ardal enedigol, drwy rodd o'r fath, yn fawr; ond diau fod y boddhad a'r pleser i'r rhoddwr yn llawer mwy. 0 0 Mae rhestr testynau Eisteddfod fawr Fal- mouth Road, yr hon a gynhelir yn mis Chwefror nesaf, yn y Queen's Hall, newydd ddod o'r wasg. Cynygir gwobr o haner can' punt i'r cor meibion goreu am ganu "The Destruction of Pompeii"; a bernir hwy y waith hon gan Dr. M'Naught a Daniel Price. Gellir cael y rhestr am geiniog gan Mr. W. H. Roberts, 10, Cecil Court. & < Gwelwn fod ein crythor poblogaidd, Mr. Philip Lewis, wedi ei sicrhau eleni eto i chwareu yn y Promenade Concerts, Queen's Hall, a gynhelir y dyddiau hyn. Mae'r cyng- herddau yma y rhai mwyaf poblogaidd yn Llundain, ac ymddengys y talentau goreu ynddynt o bryd i bryd. Gwelir oddiwrth ein hysbysiadau fod cyfeill- I ion Eglwys Dewi Sant, Paddington, yn amcanu rhoddi cyngherdd mawreddog i ni eleni eto yn y Queen's Hall, ar y 27ain o Dachwedd. Y mae yr arferiad o gael cystadleuaeth mewn cyngherdd wedi cael ei mabwysiadu gan bron yr oil o'n heglwysi, bellach, ac wedi profl, o bryd i bryd, yn atdyniadol i'n pobl ieuainc; ond y waith hon, wele gyfeillion anturiaethus Eglwys Dewi Sant yn cynyg haner can' punt i'r cor o feibion a gano'n oreu-(a) The word went forth" (Mendelssohn), (b) "The j Long Day Closes (Sullivan). Diau y bydd yno gystadlu caled. Deallwn, hefyd, fod yr eglwys yng Nghapel Cymraeg- Mile End Road wedi penderfynu cynhal eu cyngherdd hwythau ar nos Iau y 6ed o Hydref, yn y People's Palace, pryd y bydd cor o rianod Cymreig, o dan arweiniad Madame Emlyn Jones, yn cymeryd rhan. Bydd cystadlu yn y cyngherdd hwn eto, nid corawl fel yn un Dewi Sant, eithr ar unawd i faritone; a rhoddir cwpan arian i'r goreu, a chweigien i'r ail. Bydd cyfarfodydd blyn- I yddol yr eglwys yn cymeryd lie ar y iSfed, Igeg a'r 2ofed o'r mis nesaf. Fel y gwvr pawb, mae aelodau prydweddol a boneddawl clwb pel-droed Cymry Llundain mor wladgarol eu teimladau, mor deyrngarol dros anrhydedd yr hen wlad, o'r full-back llygad-graff a'r three-quarters bywiog a'r half- backs gwisgi tuagat y forwards egnïol a chryfion, fel nad ydym yn synu dim wrth glywed fod yna beth siarad ymysg y chwar- euwyr am gael rhywbeth mwy dynodol o Gymru yn eu gwisg ar faes y gad na'r I I brethyn coch diaddurn presenol. I Y syniad yn awr yw mabwysiadu y Ddraig Goch fel 4 badge' cenedlaethol am y tymhor nesaf. Y mae Mr. Walter Davies, ysgrifen- ydd hygar y clwb, yn bwriadu dwyn y mater yn awdurdodol o flaen y pwyllgor, a theimlwn yn sicr y gwnaiff pob un o'r aelodau roi cefn- ogaeth wresog a brwd i'w gynygiad. Brwdfrydedd" yw penawd ysgrif fyw yn y Diwygiwr am y mis hwn o waith y Parch. Thomas Stephens, B.A., Camberwell. Da genym wel'd y gweinidog poblogaidd hwn yn cadw ei gysylltiad a Chymru ac yn barod i'w gwasanaethu ar bob cyfle, er fod ei faes llafur ymhlith y Saeson. # Ymysg y Llundeinwyr sydd i gymeryd rhan yng nghyfarfodydd Cymdeithas yr Eisteddfod j ym Mangor, gwelwn enwau Dr D L Thomas, j j Stepney; Mr Edward Owen, India Office; j a Mr. Hubert Hall. Traetha y cyntaf ar ddeddfau iechyd, tra y mae'r ddau arall yn ymdrin a hanes a defion yr Hen Gymry. # Mr. R. O. Jones, Canonbury, oedd yn cyn- rychioli Methodistiaid Llundain yn Sassiwn Caernarfon yr wythnos ddiweddaf, ac yn ol pob hanes, caed cynulliad thagorol yno a J hwyl fywiog ar lawer o bynciau pwysig ynglyn a'r Cyfundeb. Daeth y Parch. D, C. Jones yn ol o'i wyliau yr wythnos ddiweddaf yn edrych mor hoyw ag erioed, ac eglur yw wrth ei wedd fod awelon g-lanau mor Gwalia wedi rhoddi adgyf- nerthiad ido. Boed iddo hir oes i wasan- aethu ei bobl. Yn ardaloedd y Gogledd y mae'r Parch. Machreth Rees, a bydd ymysg beirdd yr I Eisteddfod, debyg iawn, yr wythnos hon. Gwella yn raddol y mae'r Parch. J. Davies, Shirland Road, ac y mae awyr iach a llon- yddwch yn Llandrindod wedi creu newidiad er gwell yn ei gyfansoddiad. Hydera y bydd wedi llwyr wella o hyn i ddiwedd y mis fel ag i gymeryd ail-afael yn ei waith tua dechreu mis Hydref. ¡ Ai nid yw yn bryd i ni grefyddwyr Cymreig y ddinas holi yn ddifrifol paham y mae ein gweinidogion byth a hefyd yn tori i lawr o dan ofal eglwysig yn ein plith. A ydym erioed wedi ystyried y gyr parhaol sydd arnynt, a'r llafurwaith mawr ddisgwylir oddi- wrthynt ? Yn ystod naw mis o bob blwyddyn gelwir am eu gwasanaeth mewn rhyw gynull- iad neu gilydd bob nos o'r wythnos, a rhaid ¡ yw iddynt yn ystod y dydd fyned i bellafoedd y ddinas ar ymweliadau a brodyr neu chwior- ydd adfydus. Yn wir, yr ydym yn lladd ein pobl oreu drwy or-lafur, ac y mae'n hen bryd i ni roddi ystyriaeth i'r mater. » Fel y gwyddis, yr ydym wedi cael amryw o bregethwyr o'r wlad i'n gwasanaethu yn I ddiweddar, a hyfryd yw genym ddeall y bydd y Parch. William Morgan y Garn yn llanw lle'r Parch. Llewelyn Edwards yn Clapham Junction yn ystod y Saboth (yfory). I

Advertising