Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYlI A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYlI A'R BETTWS. Beth yw mongrel "? Protestiai Mabon yng nghymanfa Undebwyr LIafur dydd Mercher mai nid mongrel ydoedd. Cronfa'r Brenin at Ysbyttai Llundain yw casgliad mawr y flwyddyn hon. Mae dau arglwydd masnachol wedi gwaddoli'r gronfa yr wythnos hon a £16,000 y flwyddyn. Bwr- iedir sicrhau can' mil y flwyddyn cyn cau y drysorfa. Nid yw'n debyg y caniata Arglwydd Pen- rhyn unrhyw gyflafareddiad o gwbl rhyngddo ef a'i weithwyr. Y canlyniad yw fod rhagol- ygon y chwarelwyr yn bur dywyll. Mae'r awdurdodau yn darogan y ceir dogn lied dda o'r ffog yn Llundain yn ystod yr Hydref eleni. Mae'r ddaear yn Haith iawn wedi'r gwlawogydd diweddar, a chesglir mai ffrwyth y lleithder yma yw y tarth du a ddel dros y ddinas yma yn mis Tachwedd. 0 hyn allan codir tal am weled Castell Windsor oddifewn. Addewir y ca'r arian eu trosglwyddo at achosion dyngarol Ileol. Nid yn ami y gosodir dirwyon arianol trymion yn Llundain, ond yr wythnos hon cafodd dau fasnachwr eu dirwyo i 950o a -6550 yr un a'r costau am geisio twyllo awdur- dodau'r dollfa. Bu ystorm enbyd yn Cape Town yr wyth- nos hon, a dinystriwyd amryw longau, a bodd- wyd dros haner cant o bersonau. Nid yw'r tywydd wedi bod yn rhyw ddymunol iawn ar draethau ein hynys ninau chwaith. Daw adroddiadau galarus o Ddeheudir Affrica, ac y mae'n eglur y bydd raid i'r Llywodraeth roddi mwy o gynorthwy i'r trueniaid yno nag a gyfrifwyd ar derfyn y rhyfel. Nid gwyn i gyd fydd terfyn yr helynt diweddar. Ar ol ei fordaith bresenol addawa'r Brenin y bydd iddo ymweled a nifer o brif drefi'r ynys. Trefnir i'r Frenhines ag yntau i roddi eu presenoldeb mewn nifer o uchel wyliau, a chyn pen blwyddyn eto daw y Brenin mor adnabyddus i drigolion y wlad ag unrhyw heddgeidwad lleol. Pwy fydd bardd cadeiriol y flwyddyn hon ? Hona rhai o'r frawdoliaeth eu bod eisoes yn adwaen y dyn, ac ni fyddai yn syndod genym glywed fod eu darogan yn wirionedd, oher- wydd awydd mawr y pwyllgor yw cael 'show' o'r wyl, ac un o'r pethau mwyaf atdyniadol wedi'r cyfan fyddai sicrhau presenoldeb y bardd buddugol. Bu Undeb Gweithwyr Prydain yn cynhal ei chyfarfodydd blynyddol yr wythnos hon yn Neuadd Holborn, Llundain. Yr oedd amryw Gymry ymhlith y cynrychiolwyr. Ymdrin- iwyd a rhai materion o ddyddordeb arbenig a theg i'r meistr a'r gwas. Hysbysir fod pobl Gwrecsam yn awyddus iawn am wneyd cais am yr Eisteddfod yn 1904. Ym Mangor yr wythnos nesaf y pen- odir y lleoliad. Nid y Brenin yn unig sydd yn mwynhau golygfeydd gianau gorllewinol yr Ynys, oher- wydd bu'r Parch. Elwyn Thomas, Casnewydd, Stanley Jones, Caernarfon, a Towyn Jones, Cwmaman am dro o gylch ynysoedd traeth yr Alban. Gofelid am ddiogelwch y llong gan Towyn oherwydd hen forwr profedig yw efe. Tua'r America y treulia Syr Alfred Thomas, A.S., ei wyliau. Aeth yno er dangos ei deitl newydd. Yn hyn o beth y mae'n dra gwa- hanol i'n pregethwyr. Myned drosodd i geisio am deitl y rnaent hwy gan amlaf. Caed cynulliad mawr yn Hyde Park y Sul diweddaf pan v siaradwyd gan amryw o arweinwyr plaid llafur. Yn Hampstead, ddydd Iau, bu farw y Parch. Dr. Angus, a fu gynt yn Brifathraw Coleg y Bedyddwyr, Regent's Park. Ganwyd ef yn Bolam ger Morpeth, yn 1816. Pan yn bedair mJwydd ar ddeg oed dechreuodd as- tudio yr Hebraeg a'r Galdaeg. Ymysg ei lyfrau mwyaf adnabyddus y mae" Llawlyfr y Beibl" a < £ Llawlyfr Llenyddiaeth Seisnig." Yn 1870 penodwyd ef yn un o'r rhai a fuont yn diwygso cyfieithiad o'r Testament Newydd. Ymddiswyddodd o fod yn Brifathraw Coleg Regent's Park naw mlynedd yn ol. Mae golygydd Cymfu Plant am i blant Cymru gasglu y gweddill o'r arian angen- rheidiol at gof-goiofn Tom Ellis. Diau pe trefnid y plant yn y gwaith y cawsid y swm angenrheidiol ar fyr rybudd. Ymhlith y gwrandawyr ym Mharlament y Gweithwyr yn yr Holborn Town Hall ddydd Mawrth, gwelwyd yr A.S. poblogaidd, Mr. Lloyd-George. Mae Due Norfolk wedi bod ar ymweliad a Chymru mewn motor car drudfawr, a dywedir ei fod ef a'i barti wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Ychydig o ddyddordeb mae'r due wedi gymeryd mewn materion Cymreig, ond diau y caiff gyfle bellach i wneyd rhywbeth dros ein gwlad a'i anghenion. Bu un o'i hynafiaid yng nghiniaw Gwyl Dewi yn Llundain yn 1796, ac er ddhlu yr amgylchiad canodd Jack Glan y Gors ganig sebonyddol iddo. Dyma fel y dechreua :— a Holl feirddion urddasol sydd beunydd yn bod, I'r gwych Dduwc o Norfolk yn g'lonog rhowch giod, Am ddweyd yn ardderchog-wr talog, fel twr, Ei fod o waedoliaeth ein Owain Glyndwr." Caed ambell i joke ddoniol yn ystod yr ornest boeth a fu yr wythnos ddiweddaf yng nglyn ag etholiad St Pancras. Gwneuthurwr dyfroedd awyredig Idris, yw Mr. Idris yr ym- geisydd llwyddianus fel y gwyr pawb, ac mewn araeth un noson dywedai wrth y dorf, Angen mawr Llundain heddyw ydyw cael meddiant llwyr o ddwfr a gar y dref." "Gwell i ni brynu Idris Waters ebe hen wag, ac fe gawn y ddau yn eu purdeb ar unwaith." Bu chwerthin mawr wedyn. Dychwelodd Mr. Lloyd-George o'r Cyfan- dir yr wythnos hon yn edrych yn gampus ar ol ei daith. Bydd yn llywyddu yn un o gyfar- fodydd yr Eisteddfod ym Mangor yr wythnos nesaf. Y mae'r llosgfynydd yn Ynysoedd yr India Orllewinol yn parhau i arlwys ei gynddaredd dros y fro. Mawr ydyw nifer y damweiniau sydd wedi digwydd i fobl ar eu gwyliau yn ystod yr haf yma. Y mae y llyfr sy'n cael ei barotoi gan De Wet yn enyn gryn ddyddordeb ymysg pobl Prydain.