Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYFRIFOLDEB CYMRU.

[No title]

News
Cite
Share

Dydd Sadwrn cymerodd amgylchiad dydd- orol le yn Chwarel Cwmni y Welsh Granite (Cyf.) yr Eifl, Llaaelhaiarn. Gwnaed twnel i graig am y pellder o driugain troedfedd. Tyllwyd ymhellach i'r dde a chwith am haner can' llath. Mewn dau o'r lleoedd yr oedd pum' tunell o bowdwr gwn wedi ei osod. Yr oedd uchder y graig o'r fan y gosodwyd y powdwr yn gant ac ugain o droedfeddi. Tan- iwyd y twll yn llwyddianus, a bernir fod tua thriugain mil o dunelli o geryg da wedi eu cael. Disgynodd y ceryg yn union y lie yr oedd eu heisiau. Yng Nghapel Methodistiaid Cymreig Aber- earn, ddydd Mercher cyn y diweddaf, dad- orchuddiwyd taflen bres er cof am y diweddar Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer. Rhoed y daflen gan deulu Llanofer. Yr oedd yno gynulliad lluosog. Yn eu plith yr oedd Mr. a Mrs. Herbert, Llanofer; y Cyrnol Ivor Herbert, Miss Florence Herbert, Mr. P. James, Mrs. James, Miss Mabel James, y Parchn. John Evans, Abercarn; J. Pryce, Llanofer; John Rees, Abercarn; a Mr. W. Lewis, Tyla Coch. Codwyd y capel gan Arglwyddes Llanofer, a thalodd bob traul ynglyn ag ef tra bu hi fyw. Ar ei marwol- aeth, trosglwyddwyd yr eiddo i'r Corph. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch. J. Evans, a thraddodwyd nifer o anerchiadau- y cwbl yn Gymraeg. Wrth gyflwyno ei fam -yr Arglwyddes Mrs. Herbert—i ddador- chuddio'r gofeb, traddododd y Cyrnol Ivor Herbert anerchiad hyawdl. Cyfeiriodd at ddyddordeb ei daid a'i nain ym mhobpeth Cymreig, a dywedodd fod yr un teimlad yn para yn nheulu Llanofer. Ar y gofeb, y mae argraff yn Gymraeg a Saesneg, i'r perwyl fod y daflen wedi ei chodi er cof am Arglwydd Llanofer, a gododd y capel yn 1858, modd y caffai pobl Abercarn Ie i addoli yn Gymraeg, ac hefyd er cof am Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent), a waddolodd yr eglwys a'i gweinidog, yn 1874, er budd y Cymry a chadwraeth y Gymraeg oedd mor anwyl ganddi hi ar hyd ei hoes.

Advertising