Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYFRIFOLDEB CYMRU.

News
Cite
Share

CYFRIFOLDEB CYMRU. Er fod ein Seneddwyr wedi myned ar eu gwyliau, a dorau Ty'r Cyffredin wedi eu cau am rai wythnosau, nid tymhor o dawelwch yw y dyddiau hyn yn y byd gwleidyddol. Y mae'r holl gylchoedd crefyddol-Ymneullduol ac Eglwysig-wedi eu cynhyrfu drwodd ac ni welwyd y fath frwdfrydedd er's blynyddau ynglyn a'r gwahanol gymdeithasau partiol a welir ar hyd a lied y wlad. Y rheswm blaenaf am hyn, yn ddiau, yw y Mesur Add- ysg a adawyd ar haner ei ymdrin ond y mae cysylltiadau ereill yn dechreu dylanwadu, a sicr yw y gwelir cyn bo hir gryn gyffro ynglyn a nifer o faterion gwladol os na cheir rhyw gyfnewidiadau pwysig yn ein cyfundrefn lyw- odraethol. «■ Hyd derfyn y rhyfel diweddar, unig bwnc y gwleidyddwr proffesedig oedd, Ai cyfiawn ai anghyfiawn y rhyfel?'' Dibynai y cyfan ar y pwnc yna, a mawr fu'r curo tabyrddau ar darian gwladgarwch, gan dystio fod neb a gondemniai y rhyfel yn elyn i'w wlad ac yn fradwr i'w dylwyth. Llwyddodd y Weinydd- iaeth i gadw gwybodaeth wleidyddol y wlad i'r cylch cyfyng hwn ond erbyn heddyw, y mae'r cyfan wedi darfod, a'r cwestiwn yn awr yw, sut i gadw yr etholwr dan draed a pha fodd i'w hudo i gadw ei olwg ar faner Prydain a mawredd y rhai a reolant y Senedd ar hyn o bryd. « Oddiwrth yr engreifftiau ofnadwy a gaed yn yr etholiadau yn ddiweddar, nid yw y wlad yn rhyw foddhaus iawn ar y sefyllfa wleid- yddol. Gyrodd Leeds y Tori i'w le ei hun, a gwnaeth Sevenoaks wrhydri arall gan ysgubo yn agos i bedair mil o bleidleisiau i ddifan- coll ac os ceir rhagor o engreifftiau o'r nodwedd yna, bydd cyflwr y blaid drahaus bresenol yn resynus i'r eithaf, a bydd eu cefnogwyr yn Nhy'r Cyffredin yn sicr o laesu dwylaw a throi i gondemnio y diilliau rhyfedd presenol o reoli trwy drais ac anghysondeb. Ac os yw yr etholaethau Seisnig fel hyn yn codi eu lief a'u llais, pa beth a ddylai Cymru wneyd o dan yr amgylchiad ? » Gwir fod Cyngor Sir Arfon wedi pasio penderfyniad pwysig; ond, a oedd y pender- fyniad hwnw yn nodwedd amlwg o farn gywir yr aelodau ar y Mesur Addysg ? Ofer yw i ni basio penderfyniadau gweigion, os nad ydym fel gwlad yn barod i'w cefnogi hyd yr eithaf; ac os yw y Cyngor yn barod i lynu wrth yr hyn a addawa, yna bydd dyfodol y Mesur Addysg yn anffodus iawn, a cheir cryn drafferth cyn byth y gellir ei wthio ar genedl wrthwynebus iddo-fel y dylai Cymru fod. Ond beth am y deuddeg sir arall ? Ai nid ydynt hwy oU yn barod i uno yn y gad- gyrch yma o blaid cyfiawnder a rhyddid, yn ogystal a chynrychiolaeth deilwng ynglyn a threthiant cyhoeddus ? Galfasem feddwl mai y gwaith cyntaf ganddynt fuasai pasio penderfyniadau cryfion a phendant ar y pwnc, a rhoddi ar ddeall yn ddigon croyw nad yw Cymru Ymneullduol yn myned i aberthu ei hegwyddorion ar draul cael gwell rheolaeth ar ran o'i haddysg, ac nad ydyw'r Mesur hwn yn cyfarfod o gwbl a'n gofynion arbenig ni fel cenedl ag addysg deg a thrylwyr i blant gwledig Cymru. Y mae'n rhaid i ni godi ein cri yn unol a chadarn, a goreu po gyntaf i'n Cynghorau Sirol gymeryd y mater i'w dwylaw. 0 < O'r ochr arall, ai nid yw ein heglwysi Ymneullduol yn lied hwyrfrydig yn eu sym- I udiadau gyda'r perygl hwn ? Bydd eu colled hwy yn fawr os na roddant gam ymlaen ar unwaith er atal y Mesur i ddod yn ddeddf, a'r ffordd effeithiolaf i wneyd hyn yw trwy gael cynhadleddau ymhob cylch ac egluro y Mesur a'i anhegwch i bob etholwr, fel pan ddei yr adeg y gall y wlad godi fel un gwr o blaid iawnder a thegwch, a hyny mor nerthol fel y bydd raid i Balfour a'i ach roddi clust o wrandawiad i lais Cymru mewn mater mor agos i'w llwyddiant a'i dyfodol a hwn. ot Nid oes amser i golli. Na ddisgwylier ar i'n haelodau Seneddol gymeryd y flaenoriaeth yn hyn o bwnc. Mae ganddynt hwy eu gwaith i'w gyflawni yn y Senedd, a gwnant ef yn dda ond i ni roddi y gefnogaeth ddyladwy iddynt yn awr. A'r ffordd oreu i roddi y gefnogaeth hono yw trwy danio y genedl yn erbyn y Mesur hwn ac yn erbyn y duedd bresenol o osod holl feichiau y mawrion ar ysgwyddau y tylawd a'r gweithiwr cyffredin. Dangoswn ein bod fel cenedl eto'n fyw ac yn effro i bob galwad o blaid rhyddid ac uniondeb.

[No title]

Advertising