Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Oddeutu'r Ddinas.
Oddeutu'r Ddinas. Cafodd chwarelwyr y Penrhyn gynulliad mawr i wrando eu cwynion yn Trafalgar Square y Sul diweddaf, a chyfranasant yn haelionus at y Gronfa hefyd. Heddyw y cymer etholiad St. Pancras Ie, ac y mae rhagolygon Mr. ldris yn dda iawn. Ond nis gellir gwadu fod canlynwyr ei wrth- wynebydd yn bur lluosog gan fod dylanwad mawr bob amser gan y maerod lleol yma. Ail-agorwyd yr Ysgolion Byrddol yn Llun- dain ddydd Llun diweddaf, wedi gwyliau'r haf, a diau na chlywir bellach ond siarad am y Mesur Addysg newydd a'r hyn a fwriedir wneyd eto ynglyn a Byrddau Ysgol Llundain yn y dyfodol. ? II Un o gewri yr Ymneillduwyr yn erbyn y Mesur Addysg presenol yw Dr. Clifford, o Westbourne Park. Er ei henaint, y mae yn parhau mor fywiog ag erioed, a gwna fwy o waith y dyddiau hyn na llawer i ddau ddyn ieuengach nag ef gyda'u gilydd. Gwag iawn yw ein capelau a'n heglwysi er's amryw Suliau bellach, ac mae'n amiwg fod mwyafrif Cymry Llundain ar eu gwyliau y dyddiau hyn. Dyma'r adeg y dylid glanhau ein lleoedd o addoliad, ac y mae amryw o honynt y gwnaethai les iddynt gael golchfa flynyddol. « Gwelwn fod Eglwys St. Benet o dan ddwy- law y glanhawyr a'r adgyweirwyr, a chyst y newidiad rhyw ddau cant o bunau. Tra y gwneir hyn cyferfydd y gynulleidfa i addoli yn St. Andrew's School Room, Queen Victoria Street. Bwriedir ail-agor yr Eglwys ar y Sul cyntaf o Fedi, pryd y cynhelir gwasanaeth arbenig. Mae'r trefniadau ynglyn a chyfarfodydd y tymhor eisoes yn cael eu cwblhau, a dymunwn ar i ysgrifenydd pob rhyw gyfarfod pwysig anfon y dyddiad ar unwaith i Golofn y Dyf- odol fel ag i atal unrhyw gyfarfodydd ereill gael eu penodi ar yr un dyddiad. Rhoddwn bob hwylusdod yn ystod y tymhor i wneyd y I' fath gyfarfodydd yn wybyddus i bawb. • # Tua diwedd mis Medi mae nifer o gyrddau mawr" eisoes wedi eu trefnu. Ar y Sul olaf o'r mis, cynhelir gwasanaeth o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys Sant Padarn, Hornsey Road; hefyd, ar yr un dydd yn eglwys St. Benet; a dyma, hefyd, y dyddiad pryd y cynhelir cymanfa'r Anibynwyr yn y Tabernacl. I Nid oes neb o'r aelcdau Seneddol Cymreig yn Llundain ar hyn o bryd. Maent oil wedi ehedeg i leoedd pellenig er enill adgyfnerth- iad erbyn tymhor yr Hydref, oherwydd mae'n ddigon eglur y daw rhan drom o'r gwaith ar eu hysgwyddau hwy eto pan ail-agorir y Ty. «' < Ofnwyf nad yw'ch gohebydd H. T.' yn gwybod rhyw lawer am y pwlpud Cymreig yn Llundain," ysgrifena W. R. W., onide ni fuasai byth yn gwneyd y fath sylwadau ag a wnaeth am areithyddiaeth y pwlpud. Yr ydwyf, er's blynyddau bellach, wedi cael mantais i glywed bron yr oil o'n gweinidogion Cymreig yn pregethu, ynghyd a mwyafrif y bobl sydd yn dod yma o bryd i bryd i'n gwas- anaethu, a gallaf dystio nad oes yn un He safon uwch o areithyddiaeth nag a welir yn eu mysg. Mae ein capelau mor anhawdd siarad ynddynt fel rheol, fel y rhaid i areith- ydd neu bregethwr fod ar ei oreu ynddynt, ac yr ydym yn cael yn rhagorol o'r goreu hwnw. AnamI, ie, anaml iawn y gwelir y darllenydd clogyrnog; a beius i'r eithaf ar ran eich gohebydd i gondemnio yr holl bwlpud am wendid rhyw un eithriad a ddigwyddodd iddo ef, efallai, glywed. I'w hareithyddiaeth a'u brwdfrydedd Cymreig y mae'r pwlpud yn ddyledus am ei ddylanwad mawr yma heddyw, a sicr pe's dilynent gynghorion 'H. T.' nas gellid byth gadw i fyny y safon anrhydeddus bresencl."
TRYCHINEB MARTINIQUE
TRYCHINEB MARTINIQUE (Buddugol yn Eisteddfod Llangeitho, Awst 6,1902). Pan ddeffry cynddaredd y tanllyd erch ddreigiau, A gysgent tan wreiddiau mynyddoedd y byd, Eu nerthoedd ysgydwant eu talgryf binaclau A gliniau'r hen ddaear a gurant ynghyd. Llosgfynydd y Pelee goruwch tref St. Pierre, A fyga'n ddigyffro fel gwnelai o'r blaen, Tra Mai gyda'i lifrau o newydd wyrddlesni ¡ Orchuddia ei ochrau a deilwisg ar daen. Yr haul yn yr entrych a siriol dywyna I I lawr ar y mynydd, a'r glasfor a wnaed In ddrych i'w arlunio-ymestya mor dawel, A'i don a foeagryma wrth olchi ei draed. Ond er mor hudolus yw gwenau holl natur, Rhagarwydd dieithriol sy'n treiddio trwy'i bru, Y milod a'r adar clust-deneu a'i clywant, A ffoant o'r ardal mewn dychryn yn 11a. Un diwrnod esgynwyd i gopa y mynydd I chwilio ei ffumer am arwydd neu nod, 0 berygl yn cyffro dewy farwor ei losgfal,- Uncysgod ni welent o'r storm oedd ar ddod. Ond draaoeth yn foceu,—0 foreu ofnadwy I Ysgubwyd St. Pierre a chorwvnt o dan Fel lleidr yn y nos, cyrhaeddodd trychineb, Yn hanes dynoliaeth a saif ar wahan. Dirgryna y mynydd gan wewyr ffyrnigwyllfc, Ymrwyga y dreigiau o eigion eu cell, I Ac allan ymruthra yr ufel berwedig, Gan hyrddio creigfolltau eiriasboeth ymhell. Y miloedd trigolion ymwibiant yn wallgof, Rhag dylif y llosgnwy pawb ruthrant i ffoi. Ymgreiniant, palfalant mewn dychryn ofnadwy Tra'r mygdawch bmmstanaidd o'u cylch yn crynhoi. Yn nghyni anobaith pan droent eu hwynebau Brawychus, i'r porthladd am nawd'd gan y mor, Dilynir hwy yno ga.n ffliimawg wiberod, I le o ymwared nis gallant gael dor. Y ddinas addurnid gan harddwych balasau, Yn fywiog ei masnach a'i phleser bob pryd, Ar unwaith a drowyd yn wersyll celanedd- Yn llawn ysgerbydau llosgedig i gyd. Yng nghanol gwaith angau mewn tanllyd ryf- erthwy A rhyfel elfenau y ffiachia y mellt, Eu gwefrol bicellau drywanunt y caddug, Ac arlais y mynydd a holltant yn ddellt. Trwy ingol arteithiau, a thyrfau byddarol, Disgyna cawodydd o ludw i lawr, Ac megis du orchudd dros elor marwolaeth Amdoa weddillion St. Pierre yn awr. CWCWLL. HUDOL YDWYT. ] Dy wallt, fy Rhian Droella fel rhawn, Neu ddwy-dorch sidan Ar dalcen llawn. Hawddgar a dillyn Yw'th wddw cu, ] Mor wyn a blodyn Y ddraenen ddu. Mae cochni'th wefus j Fyfanwy Ian Fel gwrid hudolus Y mefus man. O'th galon danbaid Serchawgrwydd gwir Trwy'th liwgar lygaid Lewyrcha'n glir. Symudi'n hoenus Ar ysgafn droed, Fel ewig nwyfus Hyd lwybrau'r coed. Gwisgi yw'th osgedd! Rhadlon yw'th bryd! Heddwch a rhinwedd Leinw dy fyd. Deffry'th gan felus Deimlodd y bardd, Fel can soniarus Y fronfraith hardd. Cadw dy swynion Fyfanwy rydd I Cadw dy galon I Yn lan bob dydd. I Ca.dw dy lwybrau, Cerdda'n ddi-graith A thyfed blodau Ar d' ol drwy'r daith. I'r byd gofidus A'i brofiad sur, Rho flodau melus O'th fywyd pur.
Advertising
T. R. THOMAS & Co., DAIRY AGENTS & VALUERS, 143, STRAND, LONDON, W.C. (Near Somerset House). Telegraphic Address—" CYMREIG, LONDON." DYMUNWN alw sylw darllenwyr y CELT at y rhestr luosog o fasnachoedd llaeth sydd newydd ddyfod i'n llaw. Gallwn ddyweyd yn ddi betrus mai hon yw y rhestr oreu a ddarparwyd genym eto i'r farchnad. Y mae y prisiau yn am- rywio o £100 i £2,500, ac mewn gwahanol barthau-y mwyafrif yn Llundain a'r cyffinau-ac ereill yn y trefydd amgylchol, ac ar lanau y mor, Nid oes angen i ni gymeradwyo ein hunain, y mae y canoedd o fasnach- oedd a werthir trwy ein hofferynol- iaeth i brif fasnachwyr llaeth Lluu- dain yn ddigon o gymeradwyaeth, y rhoddir boddlonrwydd perffaith i'r prynwyr a'r gwerthwyr, a chymerir gofal arbenig i gadw pob gohebiaeth mewn perthynas i'r masnachoedd a anfonir i law yn hollol gyfrinachol. Cynghorwn bawb ag sydd yn dymuno gwerthu eu masnachoedd alw, neu anfon y manylion ar unwaith. Dylai pawb ag sydd yn bwriadu prynu, alw yn y swyddfa hon, neu anfon am Restr o'r masnachoedd sydd genym ar werth. Anfonir y cyfryw yn rhad ac am ddim. Mae yn ddiddadl mai hon yw y ffordd fwyaf effeithiol i gael gafael mewn masnachoedd cywir a didwyll (Honesty is the best policy), yw ein harwyddair. SWYDDFA, 143, STRAND, W.C. THE DENTAL INSTITUTE 168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal Mr. H. OSBORN HUGHES. HIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STRICTLY MODERATE FEES. The most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the larges practices in London). CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8.30 And by Appointment. Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeal i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus i arolygu yo bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie. MR. PHILIP LEWIS (WELSH VIOLINIST) FOUNDATION Scholar Royal College of Music (1896-1901), Solo Violin at Queen's Hall, St. James's Hall, and Albert Hall Conoerts.-Bl, St. Augustine's Road, N.W.