Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BrD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BrD A'R BETTWS. Yr wythnos nesaf daw'r cadfridogion Boer- aidd yn ol i Loegr. Aeth y Shah tuag adref ddechreu yr wyth- nos hon. Erys am rai dyddiau yn Paris ar ei daith. Dadorchuddir cofgolofn Llew Llwyfo ar ei fedd, ddydd Llun, Medi'r 8fed, am ddau o'r gloch yn y prydnawn. Hysbysir fod ein Brenin a'n Brenhines wedi cael budd mawr oddiwrth y Fordaith bresenol. Paham na fuasai rhai o bregethwyr Aber- ystwyth yn rhoddi gwahoddiad i'r Brenin ddod i'r capel yno foreu Sul diweddaf ? Yr oedd yn hwylio i fyny Bau Ceredigion yn ystod y dydd. Aiff Kitchener ar ymweliad a Chymru un o'r dyddiau nesaf yma, a diau y rhoddir iddo dderbyniad cynes yn ardal y Trallwm. Daw adroddiadau am ddamweiniau alaethus ar lanau y mor i ymweiwyr. Y mae'r tymor wedi bod yn anffodus iawn mewn damweiniau eleni. Bu tri o ddynion foddi mewn pleserfad ar lyn Pentwyn ger Merthyr dydd Mawrth di- weddaf. Aethant i chwareu yn y bâd, yr hwn a ddymchwelodd drwy eu hystranciau. Yn ol y cadfridogion Boeraidd fe losgwyd nifer aruthrol o dai gan y Saeson yn ystod y rhyfel diweddar. Credant y cyst amryw filiynau i'w hail-adeiladu, ac y cymer hyny amryw flynyddau i'w gwblhau. Yn y cyfam- ser credant y dylai'r llywodraeth yma roddi cymorth i'r trigolion er eu galluogi i fyw yn y wlad anffodus. Er fod cnydiau mawr i'w cael eleni yn Lloegr a Chymru, y mae'r gwlawogydd diweddar wedi peri cclledion dirfawr. Ofnir y bydd y golled yn fawr iawn ar yr yd os na ddaw gwell tywydd yr wythnos nesaf gan fod rhan helaeth o'r cnydiau hyd yn hyn heb eu cael i ddiddosrwydd. Mae'r Llythyrdy Cyffredinol wedi trefnu i anfon parseli i'r Unol Dalaethau ar ol y iaf o Fedi. 0 hyn allan gellir anfon man nwyddau i gyfeillion tros y Werydd am doll hynod o rad. Myned ar gynydd mae gwallgofiaid ym Mhrydain. Ar hyn o bryd ceir fod tua 110,000 o bersonau yn ein gwaligofdai cy- hoeddus. Mae Hwfa Mon wedi gwella yn rhagorol, a disgwylir iddo gymeryd rhan yn njrwaith yr Orsedd ar adeg yr Eisteddfod ym Mangor. Cafodd pleserdeithwyr o Gasnewydd noson anifyr nos Lun diweddaf. Aeth tua 250 mewn Hong i Fryste, ac wrth ddychwelyd i Gasnew- ydd caed fod y trai yn isel iawn a glynodd y bAd ynghanol y Sianel ac yno y buont hyd foreu tranoeth. Dywedir fod ym mwriad y cwmniau mawr- ion yma sydd yn gwerthu myglys i ddod i gytundeb a'u gilydd fel ag i gadw'r prisiau yn uchel. Os gwneir hyn, fe aiff mygyn y gwr tylawd yn bur gostus, a chaiff y wlad brawf gwirioneddol o'r cynllun Americanaidd o gario masnach ymlaen. Paham nas ysgrifenodd Mr. Gwenogfryn Evans ei ragymadrodd i'r llyfr Oil Synwyr Pen yn Gymraeg ? Nid oes debyg y gwna'r Saeson ei brynu, a gwell o lawer i efrydwyr Cymreig fuasai cael nodion Mr. Evans yn eu hiaith eu hunain. Gobeithio nad yw Mr. Evans hefyd yn colli ffydd yng u ngwerth masnachol" y Gymraeg yn y blynyddoedd materol hyn. Dro yn ol rhoddwyd awgrym genym i bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol roddi gwahoddiad i De Wet i ddod i'r cynulliad eleni. Gwelwn eu bod eisoes wedi rhoddi gwahoddiad i Kitchener a sicr yw, os llwydd- ant i gael De Wet eto y ceir digon o bersonau ym Mangor i dalu pris da am weled y ddau wron hyn yng Ngwyl Heddwch y Cymry. Hen ddodrefn o bob math. Dyna'r holi ddiweddaraf. Prynir hen dreselydd, hen gypyrddau, hen glociau, a rhoddir prisiau da am danynt. Anfonir hwy gan y prynwyr i fyny i Lundain a dinasoedd ereill. Wrth weled y fath alw am danynt, nid rhyfedd fod amryw o wneuthurwyr hen ddodrefn," eisoes wedi eu sefydlu ar hyd a lied y wlad. Ymwelodd un o weinidogion Meirion a Llundain yn ddiweddar. Ar Sul neillduol aeth i gapel Cymraeg yn y boreu, a chafodd bregeth ar Iesu a wylodd i" yn y prydnawn aeth i Eglwys Gadeiriol St. Paul a chafodd bregeth ar "Iesu a wyIodd;" yn yr hwyr aeth i Dabernacl Spurgeon, a chafodd bre- geth ar "Iesu a wylodd." Ni ddywedodd ai yr un oedd y tair. Byddai hyn angharedig. YR ADERYN DU. Tydi, aderyn lion, Cyweiria'th delyn bAr, I ysgafnhau fy mron Dan wenau haul a ser Os yw dy wisg yn ddu ei gwedd Mae'th galon wen yn for 0 hedd. Uwch ffrydlif dlos y nant Ar gangau'r helyg ir, Mor beraidd ydyw tant Dy delyn swynol glir Yn swn murmuron gloew li Mae'th dyner lais yn nef i mi. Ar edyn glwys yr a Yn chwim 0 lwyn i lwyn, Edmyga fwyniant ha', Ar ol y gwanwyn mwyn; Yn awel oer y gauaf hy' Distawa'th gan aderyn du. Willesden. LLINOS WYEE,