Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
— , _f)—& 8 c 1 a Byd y$1…
— _f)—& 8 c 1 a Byd y$1 J *3 Ban. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] I CERDDORIAETH FYDOL Y SABOTH. Wrth hyn y golygwn y cyfryw gerddoriaeth a genir neu a chwareuir ar y Saboth. Ni ellir gwadu fod llawer mwy o lacrwydd ynglyn a hyn yn awr nag a fyddai flynyddau yn ol. Mae y diffyg yn gorwedd yn y ffaith nad ystyrir y seithfed dydd gyda'r un mesur o barch a chysegredigrwydd ag a wnaed gynt. Y mae'n ofidus gorfod gwneyd cyfaddefiad fel hwn ond credwn nas gellir ei anwybyddu, ac mai da i ni fyddai edrych y ffaith yn y wyneb-fel y dywedir. Y mae mwy nag un rheswm paham na chedwir yn gyson at ymarferiad o gerddor- jaeth fydol yn ystod y chwe' diwrnod. Un rheswm ydyw fod amgylchiadau bywyd yn llawer gwahanol yn awr i'r hyn oeddynt, dy- weder, haner can' mlynedd yn ol, er mai yr un ydyw pwysigrwydd safon uchel bywyd. Dywedir fod y dreth ar y corph a galluoedd y meddwl yn gyfryw yn awr, fel y rhaid i'r gweithiwr wrth, nid yn unig seibiant ar y Sul, ond llawer o ddifyrwch diniwed; ac os na chaiff hyn, tebyg yw yr aiff i'r tafarndai- drysau goreuredig celloedd colledigaeth. Rheswm arall yw nas gall cerddoriaeth fydol o nodwedd uchel ddrygu dyn yn hyt- rach, hi gwyd ei feddwl at yr hardd a'r pur, ac ei darpara, i raddau o leiaf, i weled prydferthwch sancteiddrwydd. Amcan da, yn ddiau, oedd gan Gynghor Trefol Rhyl y dydd o'r blaen, pan yn ystyr- ied y cwestiwn o oddef i'r band chwareu ar y promenade ar y Sul ac y mae'n sicr y bydd i'r ychwanegiad hwn at atdyniadau y Rhyl fod yn fanteisiol i goffrau y dref. Am y rheswm yma, ni chanfyddwn arwyddion unrhyw les moesol i'r dref hon yn y newydd-beth hwn. Son am adloniant i'r gweithiwr liuddedig I Bu ein hen dadau yn foddlawn ar yr hyn a gaffent drwy ymroddiad llwyr i waith Duw ar ei ddydd; ac cherwydd na cheir yr ymrodd- iad hwn yn awr i waith uniongyrchol ac ar- benig y dydd sanctaidd, eir ar ol cerddoriaeth fydol, &c, Gwae ni, genedl y Cymry, pan gollwn ein bias at grefydd, a gwaith gosod-' edig dydd sanctaidd ein Harglwydd ARHOLIADAU CERDDOROL. Y mhlith y budd- ugwyr yn arholiad y London Academy of Music, ceir yr enwau canlynol :-Am ganu, Sydney John Davies a Margaret E. Roberts; am chwareu ar y berdoneg, Annie B. M. Edwards, Winifred G. Evans; am chwareu ar y crwth, Dorothy Gwynne Davies. YR YSGOL GERDDOROL FRENHINOL. Ymhlith yr ysgoloriaethau, fe geir ysgoloriaeth John Thomas, i gantorion a chwareuwyr. Rhaid iddynt fod o dan unarugain oed, a rhaid iddynt hwy neu eu rhieni fod wedi eu geni yng Nghymru. Caiff yr ysgolor llwyddianus addysg gerddorol rad yn yr ysgol uchod am yr ysbaid o dair blynedd. Y GWYLIAU CERDDOROL. Cynhelir amryw o'r rhai hyn yn fuan. Ar y 7fed o Fedi, cynhelir gwyl Worcester. Cenir yno amryw o weithiau newyddion a phwysig, na raid i ni fanylu arnynt yma. Ar yr iyeg o Fedi, cyn- helir gwyl leol Scarborough. Yn Sheffield, ar y iaf o Hydref, bydd gwyl bwysig yn xiechreu ac ar yr 8fed o Hydref ceir gwyl Caerdydd a Bristol-y ddwy, yn anffodus, yn xiechreu ar yr un dydd, a'r ddwy dref heb fod ymhell iawn oddiwrth eu gilydd. Gobeithio na fydd hyn o gymaint niwed arianol iddynt ag y tueddir ni i dybied. TONAU Y PLANT. Y mae'n arferiad mewn rhai capeli i ganu un o donau y plant yng nghwrdd y boreu. Y mae clywed y tadau a'r msmau yn ymuno a'r rhai bach yn y cyfryw donau, jn beth llesol i galon ac ysbryd dyn. Amhosibl cael cantorion mor ddidwyll j a'r plant; ac y mae eu rodau melus yn syrthio ar y glust ac yn adfywio yr enaid, fel yr ad- fywir y blodau peraidd gan y cynar wlith
Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH.|
Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH. Gellir meddwl fod Arglwydd Penrhyn wedi llwyddo i ladd dylanwad Undeb y Chwarelwyr yn hollol. O'r hyn leiaf, y mae'r Undeb yn beth nas gall efe gydnabod, a dyna, yn ddiau, yw y prif reswm am yr anghydfod presenol yn ardal y chwareli. Yn y Deheudir, nid yw yr un ysbryd yn beth hollol ddieithr. Yno, gwna'r meistri eu goreu i ladd dylanwad pob Undeb Llafur; a bu achos pwysig yn ddi- weddar o flaen yr Uchel Lys yn Llundain ynglyn a diwrnod segur y glowyr. Myn y meistri fod gwaith y glowyr yn cytuno i aros allan am ddiwrnod o'r pyllau glo yn peri colled mawr iddynt, tra o'r ochr arall dywed cynrychiolwyr y dynion mai er lies eu cyf- logau, a budd y perchenogion drwy hyny, y penderfynwyd ar y diwrnod diwaith yn awr ac eilwaith. Yn y diwedd trodd y fantol o du y glowyr, a mawr yw eu boddhad, a llaw- enydd pob Undeb o ran hyny. Ond nid yw'r meistri yn myned i adael pethau yn y sefyllfa anfoddhaol hon iddynt hwy, a phenderfynasant ar unwaith i yru yr achos i Lys yr Apel, ac yno bydd raid dadleu y pwnc unwaith yn rhagor. Nid yw'r dad- leuon cyfreithiol hyn o un lies i'r gweithwyr fel rheol. Hwynt-hwy druain sydd ar eu colled yn y pen draw, oherwydd ymladd dros eu hawliau i fyw y maent, tra nad yw'r meistri ond yn ymladd dros faint eu cyfoeth. Y mae y pellder rhwng y meistr a'r gwas yn myned ymhellach bellach o hyd, ac os ceir ein deddfau gwladol yn fwy ffafriol i'r cyfalafwyr nag i'r llafurwr, bydd ei gyflwr yn y pen draw yn druenus i'r eithaf.
SHIBBOLETH!
SHIBBOLETH! Un o rvits y pwlpud Methodistaidd yw'r Parch. Cynddylan Jones. Mewn pwyllgor, y dydd o'r blaen, ynglyn ag arholiadau ym- geiswyr ieuainc am y weimdogaeth, dywedai mai y peth mawr i'r pregethwyr ieuainc oedd dangos 11 eu gwybodaeth o'r ysgrythyrau ac nid eu gwybodaeth am yr ysgrythyrau." Profai y pwysigrwydd o hyn drwy ddyweyd ei brofiad ef ei hun fel arholwr. Y cwestiwn a roddais iddynt," meddai, oedd rhoddwch hanes y gair Shibboleth a dim ond un allan o'r haner cant ymgeiswyr a roddodd atebiad cywir I" Ar ol y fath esiampl o anwybodaeth, sicr yw i Cynddylan gondemnio y 49 ereill fel rhai anghymwys i'r swydd o weinidog yr efengyl. Y mae meddwl am y fath brawf yn ein har- wain yn ol i ddyddiau maboed pan oedd cwestiynau Beiblaidd Trysorfa'r Plant a Thy- wysydd y Plant mewn ilawn bri. Hwyrach, pe ceid y dull yma o arholi pregethwyr, y gwelid yn ein pwlpudau ddosbarth arall a mwy cywrain o lawer na'r rhai sydd yn ein pwl- pudau y dyddiau hyn. Meddylier am bwnc fel hwn :—" Os mai Zebedeus oedd tad meibion Zebedeus, pwy oedd tad meibion Ammon ?" Byddai cael ateb cywir i hwn yn fwy pwysig o lawer na chael y ddysgeidiaeth fanylaf am yr ysgrythyrau, a barnu oddiwrth esiampl odidog Cynddylan a'i « Shibboleth."
[No title]
Mae brenin Persia wedi dod i Lundain ar ymweliad am y tro cyntaf. Y mae yn wr cyfoethog iawn, a mawr fydd y rialtwch ynglyn ag ef cyn y rhydd ffarwel i'n glanau eto. Aeth dau lanc ifanc i hela yn ardal y Ceinewydd un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, ac wrth groesi gwrych, saethodd un o honynt y llall yn ddamweiniol; ac ofnir am ei adfer- iad. Yr oedd y ddau yn gyd-efrydwyr yn ysgol Castell Newydd.
PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.
PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN. III. HWNT AC YMA. Priodas ryfedd, debygwn, yw yr hon æ- gymer le rhwng ffraethineb a chraffder medd- yliol ond fe'i ceir felly 'nawr ac yn y man* Nid dieithr yr ystad ddelfrydol i'r elfenau- hyn. Weithiau canfyddir hwynt, megis as- glodion 0 aur garw yn mhridd bro amhrof- edig, yn rhoi gwerth i'r holl amgylchedd., Eu hundeb digymhar yn ddiamheu oedd yn cyfrif am alluoedd anghyffredin hen wrom Ffynonhenri. I'r un undeb, ar fesurfa lai, y gellir priodoli llawer agwedd o gymeriad ein cyfaill Iago hefyd. Wrth gwrs, ni ddywedaii neb byth ei fod yn dalp o athrylith fel Dafydd Evans. Yn wir, pe bai rhywun yn honi y fath beth, y cyntaf, yr wyf yn sicr, i wneyd sprr* am i ben a," fyddai Iago ei hunan. Rhy facfe yw ei gyneddfau i wneyd athryHth rhy fawr ydynt i wneyd ffwl-" common-sense, welwch chi nawr, common-sense, dyna byth yw a gyd,u' chwedl Iago. Wrth wrando arno yn adrodd yr hyn a alwai yn "drydydd set o brofiada melus'" cefais fantais lawer gwaith i dalu teyrnged i'w ddoniau, ond gan fod hanes Iago yn llawer mwy dyddorol na sylwadau neb arall ni wnaf boeni y darllenydd yn y cyfeiriad hyny, a- chaiff ein harwr fyn'd 'mlaen a'i brofiada amrywiol mewn rhediad didor. "Dydd po'th yw hi wedi bod" meddai; O! ie, a 'swn i weti ca'l scyffl gyta Mr., Lockhart, mi 'se fe'n cretu fod hi weti bod yn" fwy po'th hefyd erbyn hyn." Lockhart I" gofynwn, pwy Lockhart ?" Dyn y shops fachan a'r large mug am. ginog" atebai Iago. 'Ma fel o'dd hi. û'n i'n sefyll ar bont Llunden jest a thaci yn wUo" am ddisglad o rwpath i yfad. Gorffod in droi nol i gyfeiriad y Banc i gal e. Glapas 'n,. llicad ar glopa shop Lockhart-oti hwna'n cynghaneddu 'chan ?-a miwn a fi. "Large mug, please," myddwn i. Of what ?" mydda'r dyn odd yn tendo. The penny one" myddwn inne, 4< and don't be long: I've come up from Treorci." Gan" mydda fa yn cheeky reit, 41 Git at." Wyddwn i ddim beth ar ddiar odd a'n weydz" ond na on i ddim yn lico dangos, welwch chi. Ond mor wirad a mod i yn y fan ma, fe ddotodd ei ddilo ar y nghefan i a dechrau. tynu. "Hold on mydda fi. Git at!" mydda fe. Etho i mas o nghof wetyn, a chyn pen eiliad 6n i'n sownd yn i war a. Yn lie gwneyd dim fuss a chal plisman ar y ngol i, ros sewt f "git at" yn erbyn y cowntar nes bo'i ben a'n swno B fflat. Fe wafas yr umbrella yn y ffenast wrth fynd, a bant a fi wetyn fel wiwar i shop didi ar bwys. Merched odd yn tendo yno, a mor gynted a detho i ar bwys y glass mi ddechreuas shâpo ngwallt. "Good morn- ing, Miss" mydda fi pan ddath merch facfc lan iawn mlan atto i. "Good morning, sir," mydda hithe. 01 ho, fel na ifa" mydda fi, a mi ges itha doc a hi. Mwn pyn bach o amsar fe wetas i'n hanas i gyd wrthi, a wy'n falch nawr hefyd, mewn ffordd ta pun i. Pam ? Wel, fe wetodd y grotan fod Cymriges o'n hardal ni yno. A fe a'th i hoi hi hefyd. Merch serchus fachan, ie, dros ben Ond mi ddotas i nhr6d ynddi heb jocan, wa'th ar ol gofyn shwd odd hi &c., gwetas licwn i gal gwpod yn, exact o ble odd hi'n dod, a fe wetodd 'tho i. Diar, diar," mydda fi," ma merch Jane Bilo" yn Llunden hefyd, ych chi yn i napod hi ?'* Asgwrn! on i ddim yn meddwl dim drwg, Ond fe ddylsat weld yr olwg na'th hi. Odd hi yn disgwl arno i yn IIawn scorn i gyd, a, mydde hi, 'Rwy'n gobeithio erbyn y dewch chwi Ian y tro nesaf y byddweh wedi dysgu gwell manners na galw fy mam wrth yr enw hwna." Fuo i jest ca'l ffit. O'n i'n timlo mor dwp wrth feddwl taw crotan Jane odd hi fel na-