Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

— , _f)—& 8 c 1 a Byd y$1…

Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH.|

News
Cite
Share

Y GLOWR A'l DDIWRNOD DIWAITH. Gellir meddwl fod Arglwydd Penrhyn wedi llwyddo i ladd dylanwad Undeb y Chwarelwyr yn hollol. O'r hyn leiaf, y mae'r Undeb yn beth nas gall efe gydnabod, a dyna, yn ddiau, yw y prif reswm am yr anghydfod presenol yn ardal y chwareli. Yn y Deheudir, nid yw yr un ysbryd yn beth hollol ddieithr. Yno, gwna'r meistri eu goreu i ladd dylanwad pob Undeb Llafur; a bu achos pwysig yn ddi- weddar o flaen yr Uchel Lys yn Llundain ynglyn a diwrnod segur y glowyr. Myn y meistri fod gwaith y glowyr yn cytuno i aros allan am ddiwrnod o'r pyllau glo yn peri colled mawr iddynt, tra o'r ochr arall dywed cynrychiolwyr y dynion mai er lies eu cyf- logau, a budd y perchenogion drwy hyny, y penderfynwyd ar y diwrnod diwaith yn awr ac eilwaith. Yn y diwedd trodd y fantol o du y glowyr, a mawr yw eu boddhad, a llaw- enydd pob Undeb o ran hyny. Ond nid yw'r meistri yn myned i adael pethau yn y sefyllfa anfoddhaol hon iddynt hwy, a phenderfynasant ar unwaith i yru yr achos i Lys yr Apel, ac yno bydd raid dadleu y pwnc unwaith yn rhagor. Nid yw'r dad- leuon cyfreithiol hyn o un lies i'r gweithwyr fel rheol. Hwynt-hwy druain sydd ar eu colled yn y pen draw, oherwydd ymladd dros eu hawliau i fyw y maent, tra nad yw'r meistri ond yn ymladd dros faint eu cyfoeth. Y mae y pellder rhwng y meistr a'r gwas yn myned ymhellach bellach o hyd, ac os ceir ein deddfau gwladol yn fwy ffafriol i'r cyfalafwyr nag i'r llafurwr, bydd ei gyflwr yn y pen draw yn druenus i'r eithaf.

SHIBBOLETH!

[No title]

PROFIADAU IAGO GOCH YN LLUNDAIN.