Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

SIARAD A CHERDDED.

Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL.

News
Cite
Share

Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL. Anfonodd y Brenin yr anerchiad canlynol i'w bobl Ar ran y Frenhines a fy hunan diolchaf i chwi yn galonog am eich llongyfarchiadau calonog ar ein Coroniad, ar fy adferiad i o gystudd blin, ac ar sicrhad heddwch yn Ne- heudir Affrica. tl Yr ydym yn wirioneddol ddiolchgar am y trugareddau a ddangosodd yr Hollalluog Dduw i ni a'n pobl; a hyderwn, gan ein bod ni eto mewn heddwch a'r holl fyd, y bydd i'r gorfoleddau diweddar, yn y rhai y cyfranog- odd yr holl boblogaeth, ein hanfon, pob un yn ei le ei hun, i weithio gyda difrifoldeb ad- newyddol er cadwraeth a gwellhad ein hetif- eddiaeth ardderchog ac er cwblhad yr am- canion sydd yn gweddu i bobl fawr. Am danaf fy hun fe'm symbylir i bob amser i wneyd fy ngoreu dros lwyddiant yr Ymherodraeth, gan yr adgof anileadwy o warogaeth o deyrngarwch a serch sydd wedi fy nghyffwrdd yn ddwfn."

Y CADLYWYDDION O'R TRANSVAAL.

[No title]