Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

SIARAD A CHERDDED.

News
Cite
Share

SIARAD A CHERDDED. LLAFURWAITH YR AELODAU SENEDDOL. Mae drysau Ty'r Gleber wedi eu cau, mae'n wir, er hyny dyddarol yw sylwi ychydig ar waith ein cynrychiolwyr yn ystoi y tymhor a aeth heibio. Myn rhii pobal m1.i bywyd hapus ac urddasol iawn, Hawn o bleserau a mwyniant yw'r bywyd Seneddol, ac er efallai fod rhai o'r cynrychiolwyr yn cael byd da helaethwych beunydd, eto nid bwyta melusion yn unig a ga'r gwr a wnel waith priodol tros ei etholaeth a'i gyd-ddynion. Yn yr hen amser unig drwydded dyn i'r Senedd oedd llogellaid lawn o arain, ac er fod I y duw aur eto yn cael ei addoli yn llawer rhy ami, nid dyna yr unig gymhwysder heddyw dros i aelod gynrychioli sedd Gymreig. Y mae athrylith a medr eisoes wedi gwneyd eu marc ar ran Cymru tra nad yw eichyfoeth- ogion ond wedi llwyddo i wneyd ffyliaid gwleidyddol o honynt eu hunain, a chawlio pob mesur o bwys a ddaeth erioed gerbron yn ymdrin a gwir anghenion y genedl. Tymor o waith fu'r tymhor diweddaf, a hir gofir ef fel y tymor bu BRWYDR RHYDDID unwaith eto ar lawr Ty'r Cyffredin. Llawer o frwydrau sydd wedi eu hymladd yn ylle odro i dro, ond yn sicr, y mae'r gatrawd fechan sydd wedi llwyddo i wrthw/nebu gyda'r fath ddyfalwch, ac yni y mesurauanheg a ddygwyd gerbron yn hawlio ein heimygedd waeth beth fo ein hopiniynau ynglyn a'u credoau gwleid- yddol. Dros Gymru y nue Mri. Lloyd George, Herbert Lewis, S. T. Evans, Ellis J. Griffith, William Jones ac ereill wedi cyflawni gwaith rhagorol, a dylai y genedl gofio am y meibion hyn yn y blynyddau sydd i ddod, oherwydd y y mae caledwaith a wnaed ganddynt yn hawlio coffhad hir. Os oedd y gwyr hyn yn brysur iawn gyda'u tafodau, yr oedd yno amryw o ffyddloniaid yn barod i ddefnyddio eu traed i gerdded tua'r lobby, ac y mae gwerth yn hyny. Y GWEITHWYR. Tra bu y cewri dadleuol uchod yn gwylio'r dadleuon ac yn gyru adref hawliau Cymru ar bob achlysur, da genym ddyweyd na esgeu- luswyd mo gyfandiroedd ereill ganddynt, oherwydd yn Mr. Alfred Davies caed gwr cymwys i ofyn pob cwestiwn ar wyneb clawr daear i aelodau y Weinyddiaeth a gwnaeth 'I' hyny. Ar ol yr holl holiadau hyn, dylai Mr. Davies fod y gwr mwyaf gwybodus yn y Ty, I ond ofnir mai fel arall y mae pethau. Mr. D. A. Thomas fu y mwyaf gwisgi ar ei droed, a llwyddodd ef i gerdded tua'r lobbies dros dri chant o weithiau, a phe gallesid cadw D. A. i ddefnyddio ond ei draed fel hyn, gwnai aelod penigamp dros ei ranbarth. Gwr ieuanc yw Mr. Frank Edwards, ac y mae'n eglur fod gan Brycheiniog wleidyddwr egwyddorol, a gweithiwr caled dros ben. Am Mr. William Jones ni waeth ganddo ef pu'n ai siarad ai troedio tua'r lobbies fydd ei orchwyl, y mae mo'r wisgi yn y naill ag yw yn y llall. Wrth gwrs yr oedd genym ein hen a'n methedig yn y gatrawd, a dyna. sydd yn cyfrif am nifet fechan pleidleisiau Mr. Samuel Smith a Syr E. J. Reed. Am y gweddill, y maent wedi ymddwyn fel plant da, ac y mae meddwl am danynt wedi teithio, rhyngddynt, dros GAX' MILLDIR ar ein rhan yn hawlio edmygedd. Dyma restr o'r aelodau, a'r nifer o weithiau y buont yn nodi eu pleidiau yn y Ty:— Thomas, D. A., Merthyr 306 Jones William, Arfon 296 J Edwards, Frank 246 Davies, Alfred, Llanelli 245 Pryce-Jones, Y Cyrnol 240 Roberts. J. Bryn, Eivion 229 Lewis, J. Herbert, Fflint 222 Roberts, J. Herbert, Dinbych 204 M'Kenna, R., Mynwy 201 Lawrence, Syr j 200 Davies, Vaughan, Aberteifi 199 Thomas, J. Aeron 197 George, D. Lloyd 181 Williams, Osmond. 178 Morgan, J. Lloyd 176 Jones, D. Brynmor 176 Humphreys-Owen, A. C. 170 Kenyon, Anrhyd. G. T. 167 Thomas, Syr Alfred 164 Evans, S. T. Morganwg 154 Wyndham-Quin, Y Cyrnol 149 Griffith, E. Jones, Mon 144 Moss, S., Dinbych 131 Abraham, W., Mabon 129 Morley, C., Brycheiniog 123 Thomas, Abel 117 Harcourt, Syr William 112 Morgan, Y Cyrnol 109 Newnes, Syr George 103 Hardie, J. Keir 97 Laurie, Y Milwriad 62 Phillipps, J. Wynford 45 Reed, Syr E.J. 14 Smith, Samuel 3

Y BRENIN YN DIOLCH I'R GENEDL.

Y CADLYWYDDION O'R TRANSVAAL.

[No title]