Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ETHOLIAD LEOL.

CYMRAEG EIN PWLPUD.

News
Cite
Share

CYMRAEG EIN PWLPUD. Gellir casglu fod golygydd Oymru yn llym iawn ar y Gymraeg a glywir y dyddiau hyn, yn ami, ym mhwlpud ein gwlad. Dyma ei ateb i ohebydd ar y pwnc hwn:- Rhy unochrog yw eich erthygl ar y rhai sydd yn myned i gapelau Seisnig yn ein tref- ydd gan droi eu cefnau ar yr achosion Cym- reig. Onid ar ein pregethwyr ni ein hunain, yn ami, y mae'r bai ? Y mae ambell bre- gethwr yn addef, gyda rhyw haner balchder anesboniadwy, mai ar lenyddiaeth Ssisnig yn unig y mae efe yn byw. Nid yw wedi darllen y beirdd Cymreig erioed barddoniaeth y Sais edrydd ar ganol pregeth Gymraeg. Llusga eiriau Saesneg i'w bregeth lie mae geiriau Cymraeg prydferth i'w cael. Nid yw wedi talu un sylw i fireinder arddull Gymraeg —rhvw haner cyfieithiad bwngleraidd o briod- ddulliau Seisnig sydd ganddo. I b'le yr aiff Cymro mewn tref, feddyliwch chwi ? Ai i wrando ar un yn llofruddio Cymraeg, ynte i wrando ar un yn siarad Saesneg mirain ?"

CYFARFOD CYHOEDDUS.

Advertising